Yn ol Rhannu Cymraeg English

Canllaw Ymarfer: Symud y cynllun yn ei flaen i gyfarfodydd grŵp craidd a sicrhau ymgysylltu effeithiol gan aelodau

Cynllun amddiffyn Gofal a Chymorth: camau gweithredu i’r teulu

Cafodd y cwestiynau hyn eu dylunio gan Jan Horwath a Bwrdd Diogelu Plant Wirral i ddeall y raddfa y mae’r teulu’n ymgysylltu’n actif â’r cynllun i gadw’r plentyn yn ddiogel rhag niwed.

Mae’n bwysig ystyried y camau gweithredu sydd ei angen gan bob rhiant neu ofalwr yn ei dro. Mae’n hawdd iawn canolbwyntio’ch holl sylw ar un rhiant neu ofalwr.

Beth mae’r teulu wedi’i wneud sy’n gwneud gwahaniaeth?

Nod y cwestiwn hwn yw nid yn unig pennu os yw’r rhiant/rhieni yn cwblhau’r camau gweithredu sy’n ddisgwyliedig ohonynt ond effaith y camau hynny. Mae adolygiadau ymarfer plant wedi nodi’n aml y bydd rhieni’n gwneud yr hyn sydd ei angen, megis mynychu apwyntiadau ond maent ond yn cydymffurfio’n arwynebol â’r cynlluniau yn hytrach nag ymgysylltu’n ystyrlon. Eu nod yw cael ymarferwyr i adael nhw i fod yn hytrach na gwella bywyd eu plant. Felly, er y byddant o bosibl yn cwrdd â gweithiwr cymdeithasol yn rheolaidd a chytuno i newid trefn mynd i’r gwely er enghraifft, gallent wneud hyn mewn ffordd ddiawydd nad yw’n effeithio ar y plentyn.

Pa dystiolaeth sydd gennym bod camau gweithredu’r rhieni yn diogelu’r plant rhag niwed?

I asesu a yw’r camau gweithredu a gymerir gan y rhiant/rhieni yn gwneud gwahaniaeth, mae angen i ymarferwyr gasglu tystiolaeth. Gellid cyflawni hyn drwy bennu gyda’r plentyn ac o asesiadau’r ymarferwyr a chanfyddiadau o ran a yw ansawdd bywyd y plentyn wedi newid. Er enghraifft, mae rhiant yn nodi ei fod wedi pennu trefn amser mynd i’r gwely, ond mae’r plentyn yn datgan ei fod yn mynd i’r gwely pryd bynnag y mynnai ac mae’r ysgol yn nodi bod y plentyn wedi blino pan fydd yn yr ysgol. Gallai hyn ddangos un ai nad yw’r rhiant yn dilyn y cyngor, neu nid yw’n deall yr hyn sy’n ofynnol.

Beth nad yw’r teulu wedi’i wneud a pham?

Diben y cwestiwn yw amlygu’r camau gweithredu a nodir yn y cynllun nad ydynt wedi’u cyflawni hyd yma. Gall fod sawl rheswm pam mai hwn yw’r achos ac ni ddylai ymarferwyr gymryd bethau’n ganiataol mai’r rhiant/rhieni sy’n tynnu’n groes. Er enghraifft, gall rhiant fethu â mynd â’r plentyn i apwyntiad ysbyty gan fod presenoldeb yn yr ysbyty yn golygu dau neu dri siwrne bys gwahanol ac erbyn yr amser y byddant yn cyrraedd gartref byddant yn rhy hwyr i nôl plant eraill o’r ysgol.

Sut ydyn ni’n mynd i’r afael â hyn?

Mewn rhai achosion, megis yr enghraifft uchod, mae modd gwella’r sefyllfa i hwyluso’r cam gweithredu. Er enghraifft, dylid trefnu trafnidiaeth ysbyty i sicrhau apwyntiad cynharach. Mewn sefyllfaoedd eraill, gall fod ychydig yn fwy cymhleth. Er enghraifft, efallai na fydd rhiant yn mynychu rhaglen rianta gan eu bod nhw’n anghyfforddus mewn grwpiau. Mae oedolion yn llawer mwy tebygol o gymryd rhan mewn cynlluniau os ydynt yn teimlo bod ymarferwyr yn cymryd o ddifrif yr heriau maent yn eu hwynebu wrth gymryd rhan yn y cynllun a’u bod yn eu cynorthwyo i ateb yr heriau.

Beth nad yw’r teulu’n awyddus i wneud? Pam?

Mae’n bosibl na fydd aelodau’r teulu’n awyddus i gyflawni camau gweithredu penodol yn y cynllun neu’r cynllun yn gyfan gwbl. Pan fydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig deall pam mai hyn yw’r achos ac a oes modd mynd ar ôl y gwrthwynebiad. Mae’n bosibl na fydd rhiant/rhieni’n cyflawni camau a nodwyd yn y cynllun am sawl rheswm. Yn gyntaf, efallai nad oes ganddynt y gallu i wneud yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt. Er enghraifft, ni all ymarferwyr gymryd yn ganiataol bod bob rhiant yn gwybod sut i frwsio dannedd, golchi a sychu dillad, cadw tŷ’n lân ac ati. Yn ail, mae’n bosibl na fydd gan y rhiant gymhelliant i newid neu mae’r manteision o beidio â newid yn fwy na’r anfanteision o gyflawni’r camau sydd eu hangen. Er enghraifft, gall hyn fod yn sgil camddefnyddio alcohol a chyffuriau.

Mae datrysiad y peidio â gweithredu’n dibynnu ar yr achos. Os gallu yw’r broblem, yna dylai’r grŵp craidd adnabod ffyrdd y gallent gynyddu hyn. Os yw’r broblem yn ymwneud â chymhelliant, bydd dod o hyd i ddatrysiad yn fwy cymhleth. Mae’n bosibl y bydd angen asesiad mwy arbenigol os yw’n ymwneud â materion rhianta. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen ystyried Amlinelliad o Gyfraith Gyhoeddus a Chynllunio Cyfreithiol (AGGChC).

Camau gweithredu’r ymarferwr

Mae gweithredu cynllun yn gofyn am ymrwymiad ac ymdrech gan ymarferwyr. Dyluniwyd y cwestiynau canlynol hyn i helpu aelodau’r grŵp craidd i adlewyrchu ar eu cyfraniadau, yn ddelfrydol yn y cyfarfod grŵp craidd.

Beth mae’r ymarferwyr wedi’i wneud sy’n gwneud gwahaniaeth? Pa dystiolaeth sy’n dangos bod hyn yn gwneud gwahaniaeth i fywyd bob dydd y plentyn?

Nod y cwestiwn yw dechrau i adnabod pa wasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth bositif i fywyd y teulu a’r rheiny nad ydynt mor effeithiol.

Dylai bob ymarferwr roi crynodeb o’r gwaith y mae wedi’i wneud gyda’r teulu ac ystyried beth roedd y grŵp craidd yn gobeithio fyddai wedi’i gyflawni drwy fewnbwn y gwasanaeth ac beth sydd wedi’i gyflawni. Wrth ystyried cyflawniad, dylai’r ffocws fod ar y mesurau cerrig milltir cytunedig sy’n nodi bod ansawdd profiadau bob dydd y plentyn yn gwella a bod eu hanghenion diogelwch yn cael eu bodloni. Dylai’r grŵp craidd ystyried y dystiolaeth sydd ar gael iddynt: cofnodion y rhiant/rhieni a’r plant/plentyn am newidiadau i’w bywydau yn sgil yr ymyriadau ynghyd ag unrhyw adborth gan aelodau’r grŵp craidd.

Beth mae ymarferwyr wedi cytuno i wneud ond heb weithredu eto – pam?

Mae’r cwestiwn hwn wedi’i gynnwys er mwyn adnabod unrhyw broblemau â’r gwasanaeth all fod yn effeithio gweithrediad y cynllun. Er enghraifft, llwyth gwaith trwm, salwch, rhestrau aros hir.

Sut ydyn ni’n mynd i’r afael â hyn?

Y nod yw cymryd dull ar y cyd ac ystyried sut all rhai o’r materion a nodwyd gael eu datrys i sicrhau bod y plentyn yn cael ei amddiffyn rhag niwed pellach.

Beth mae’r ymarferwyr yn llai awyddus i weithredu a pham?

Nod y cwestiwn yw ennyn unrhyw bryderon allai unrhyw aelod o’r grŵp craidd gael ynghylch gweithredu’r cynllun. Gallai hyn fod oherwydd mae’r anghenion wedi newid neu bryderon ynghylch capasiti rhianta ac ymgysylltiad â gwasanaethau. Gallai’r amharodrwydd hefyd fod yn sgil problemau ynghylch darpariaeth gwasanaeth, megis rhestrau aros hir, gwasanaethau drud ac ati. Fel arall, mae’n bosibl nad yw’r ymarferwr yn credu y bydd y gwasanaeth a nodwyd yn arwain at y canlyniadau disgwyliedig.

Sut allwn ni ddatrys hyn?

Y nod yw cymryd dull ar y cyd ac ystyried sut all rhai o’r materion a nodwyd gael eu datrys i sicrhau bod y plentyn yn cael ei amddiffyn rhag niwed pellach.