Mae’n bwysig cydnabod bod gan bob plentyn yn y teulu ei anghenion penodol ei hun a dylid ei barchu/ei pharchu fel unigolyn yn ei rinwedd ei hun. Golyga hyn y dylai ymarferwyr ymgysylltu â phob plentyn yn y teulu ar wahân.
Mae arferion effeithiol yn golygu:
- nodi pa ymarferwr sydd â pherthynas sefydledig, gadarnhaol â’r plentyn a, chan fanteisio ar hyn, sy’n ymgysylltu â’r plentyn ac yn peri iddo deimlo’n gyfforddus am drafod ei fywyd;
- cydnabod effaith ymddygiad y rhiant a materion sy’n ymwneud ag oedolion ar y person ifanc;
- sicrhau bod y plentyn yn deall y cynllun ac yn credu mai ei fwriad yw gwella ansawdd ei fywyd;
- cydbwyso barn unigolion am eu hanghenion a’u gwasanaethau â’u diogelu rhag niwed;
- rhoi caniatâd i nhw i ddewis dull cyfathrebu. Er enghraifft, siarad, neges destun, darlunio ac ati;
- siarad â’r plentyn gan ddefnyddio cwestiynau agored yn hytrach na chaeadig;
- gwrando’n astud;
- defnyddio arsylwadau agos;
- cydnabod ymddygiadau fel dull o gyfathrebu;
- gweld plant heb eu gofalwyr;
- dod o hyd i rywle lle mae’r oedolyn yn teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel, sy’n diwallu eu anghenion;
- sicrhau bod cyfle iddo gael eiriolwr os dymuna ;
- gwrando ar oedolion sy’n ceisio siarad ar ran y plentyn er enghraifft neiniau a theidiau, cymdogion;
- cydnabod os yw’n well gan y plentyn gael cyswllt llygad wrth siarad neu wrth gerdded mewn car;
- bod yn onest gyda’r plentyn a rhoi gwybodaeth gywir am yr hyn sy’n digwydd a’r hyn a allai ddigwydd;
- cydnabod anghenion penodol plant sy’n gofalu.
Ymarferwr sy’n ymgysylltu
Gall ymgysylltu’n ymarferol â phlant ar y gofrestr amddiffyn plant fod yn heriol i ymarferwyr, fel noda Ferguson (2017, t.1020) wrth astudio arferion gwaith cymdeithasol:
‘Where social workers did not engage with children or challenge parents, this was not because of a ‘rule of optimism’ and seeking to put the best interpretation on events. It was rooted in a mixture of fear and other intense emotions and sensory experiences and organisational constraints’.
Er mwyn ymgysylltu mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y plentyn gyda phlant a phobl ifanc, dylai ymarferwyr ystyried eu rhwystrau eu hunain o ran ymgysylltu. Nod y cwestiynau canlynol yw annog yr adlewyrchiad hwn:
- Beth yw fy nghredoau ynghylch hawl plentyn i gael ei farn wedi’i hystyried yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau? Er enghraifft, oes gennyf farn am yr oedran y mae’n briodol?
- Ydw i’n rhagweld unrhyw ‘anhawster’ o ran ymgysylltu â’r plentyn neu berson ifanc? Oes ganddynt anghenion cymhleth? Oes gen i’r sgiliau i gyfathrebu’n effeithiol?
- Oes gen i ofnau neu bryderon ynghylch ymgysylltu â’r plentyn? Sut mae’n nhw’n dylanwadu ar fy null?
- Ydw i mewn perygl o daflu fy mhryderon ynghylch fy ngallu i gyfathrebu ar y plentyn, er enghraifft, eu hystyried nhw’n berson nad ydynt yn cyfathrebu?
- Ydw i’n cyflwyno a chofnodi barn y plentyn ac ati’n gywir hyd yn oed os nad ydw i’n credu beth maen nhw’n dweud, neu ydw i’n dehongli’r hyn y maent yn ddweud a minnau’n gwrando?
- I ba raddau mae pwysau’r llwyth gwaith yn dylanwadu ar fy null o ran y plentyn?
Rhagor o wybodaeth:
Bruce M (2014) The Voice of the Child in Child Protection: Whose Voice? (Cyrchwyd 20/7/2019)
Ferguson H, (2017) How Children Become Invisible in Child Protection Work: Findings from Research into Day-to-Day Social Work Practice H British Journal of Social Work 47, 1007–1023
Kennan, D., Brady, B., & Forkan, C. (2018). Supporting children’s participation in decision-making: A systemic literature review exploring the effectiveness of participatory processes. British Journal of Social Work, 0, 1–18
Ofsted (2011) The voice of the child: learning lessons from serious case reviews, (Cyrchwyd 20/7/2019)