Yn ol Rhannu Cymraeg English

Canllaw Ymarfer: Ymarferion Cynhadledd Adolygu Effeithiol

  1. Dylai ffocws yr adolygiad fod ar werthuso newidiadau ansawdd i’r profiad bywyd pob dydd y plant/plentyn ac yn sgil y newidiadau hyn, neu eu diffyg, pennu camau gweithredu megis parhau â’r cynllun.
  2. Mae angen tystiolaeth benodol bod y rhianta wedi gwella ac wedi cael effaith bositif ar y plentyn/plant i gadarnhau dad-gofrestru. Dylai’r dystiolaeth hon gynnwys profiadau’r plentyn ynghyd ag arsylwadau’r ymarferwr.
  3. Dylai’r grŵp craidd ddarparu adroddiadau sydd, wedi’u cyfuno, yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r gwaith a wnaed gan y grŵp craidd a’i effeithiolrwydd.
  4. Dylai ymgysylltiad y rhiant â’r cynllun gael ei asesu ar wahân.
  5. Mae ymgysylltiad y plant/plentyn yn y broses adolygu’n hanfodol. Mae’n bwysig cael gwybod a yw’n credu bod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar ei fywyd.
  6. Dylai aelodau’r adolygiad geisio deall pam mae’n bosibl nad oedd y rhieni/rhiant wedi cyfranogi mewn agweddau eraill ar y cynllun ac a allai newidiadau i’r cynllun hyrwyddo cyfranogiad.
  7. Dylai’r teulu dderbyn adborth positif ar gyfer unrhyw ymgysylltiad â’r cynllun sydd wedi arwain at ganlyniadau positif i’r plentyn.
  8. Wrth ystyried cynnydd, mae’n bwysig cydnabod effaith llwythi gwaith staff, salwch, diffyg adnoddau ac ati ar y broses o roi’r cynllun ar waith.
  9. Dylid dathlu llwyddiant o ran cyflawni’r canlyniadau terfynol sy’n canolbwyntio ar y plentyn.