Rhain yw’r Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol i Gymru. Maent yn rhoi manylion am swyddogaethau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ac esgeulustod. Gallwch ddarganfod mwy am weledigaeth a nodau’r gweithdrefnau yma.
Beth yw eu pwrpas
Mae’r Gweithdrefnau yn helpu ymarferwyr i gymhwyso deddfwriaeth a chanllawiau statudol ac (Adran 7 Cyfrolau 5 a 6 ar drin achosion unigol) i’w harfer.
Trwy’r Gweithdrefnau oll, fe welwch ‘Awgrymiadau Ymarfer’. Tra bod y Gweithdrefnau yn dweud wrthych beth i’w wneud, mae’r Awgrymiadau Ymarfer yn rhoi gwybodaeth am sut i wneud y dasg. Mae’r Awgrymiadau Ymarfer yn tynnu ar yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf mewn arfer.
I bwy y maent
Bwriedir i’r gweithdrefnau hyn fod yn ganllaw i arferion diogelu pawb a gyflogir yn y sector statudol, trydydd (gwirfoddol) a phreifat mewn iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, yr heddlu, cyfiawnder a gwasanaethau eraill. Maent yn gymwys i’r holl reolwyr sy’n gweithio yng Nghymru - boed wedi eu cyflogi gan asiantaeth a ddatganolwyd neu beidio.
Pam fod arnom eu hangen
Bwriad y gweithdrefnau yw safoni arfer ledled Cymru a rhwng asiantaethau. Bu datblygiad y gweithdrefnau yn broses o saith cam. Cafodd pob asiantaeth gyfle i fod yn rhan a chyfrannu eu profiad o arfer a’u harbenigedd ymchwil.
Dros yr ugain mlynedd a aeth heibio, fodd bynnag, tyfodd ymwybyddiaeth ymhlith ymarferwyr, rheolwyr a llunwyr polisi o’r systemau a’r prosesau cyffredin sydd eu hangen i amddiffyn plant ac oedolion fel ei gilydd sydd mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod.
Adlewyrchir yr ymwybyddiaeth hon yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r hyn ddaw gyda hi, sef Canllawiau Adran 7 Cyfrolau 5 a 6 ar drin achosion unigol. Boed yn diogelu oedolyn sydd mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod neu’n amddiffyn plant rhag camdriniaeth, esgeulustod a niwed, seilir y gweithdrefnau ar yr un egwyddorion sy’n adlewyrchu’r egwyddorion sy’n sail i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae’r gweithdrefnau yn cael eu CYFOESI diweddaru yn rheolaidd yn unol â newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau a datblygiadau mewn arfer.
Sut i ddefnyddio’r Gweithdrefnau
Tra’n cydnabod fod rhai pethau’n gyffredin mewn prosesau rhwng diogelu plant ac amddiffyn oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod, mae rhai gwahaniaethau yn y ddeddfwriaeth. Felly, rhannwyd y gweithdrefnau i’r rhai sy’n ymwneud â diogelu plant a’r rhai sy’n ymwneud ag oedolion mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod.
Rhannwyd y gweithdrefnau ymhellach yn adrannau. Mae pob adran yn rhoi manylion am swyddogaethau a chyfrifoldebau ymarferwyr yng nghyswllt agwedd o’r broses ddiogelu, fel y mae a wnelo ag oedolion mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod neu ddiogelu plant. Mae pob adran hefyd yn cynnwys awgrymiadau perthnasol am arfer.
Yr eirfa
I fod yn effeithiol, rhaid i arfer diogelu rannu dealltwriaeth o dermau sy’n cael eu defnyddio’n aml wrth adnabod, asesu ac ymyrryd pan fydd plentyn neu oedolyn mewn perygl o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod. Yr ydym wedi cynnwys geirfa er mwyn gwneud yn siŵr fod pob ymarferydd yn defnyddio’r un term yn yr un ffordd waeth beth fo’i d/ddisgyblaeth neu asiantaeth. Mae gan bob term a ddefnyddir yn y gweithdrefnau ddolen sydyn at esboniad llawn.
Datblygu’r Gweithdrefnau
Mae tîm prosiect dan arweiniad Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg, ynghyd â’r Athro Emeritws Jan Horwath wedi datblygu’r Gweithdrefnau Diogelu hyn. Y pwrpas oedd sicrhau bod y gweithdrefnau yn adlewyrchu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Thrin Achosion Unigol (Rhifyn.6).
Cafwyd cynrychiolaeth o bob un o’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol ar Fwrdd y Prosiect. Cyfrannodd ymarferwyr o’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol at ddatblygu’r Gweithdrefnau fel aelodau o Grwpiau Datblygu.
Y nodau
Nod Gweithdrefnau Diogelu Cymru yw ceisio:
Egwyddorion sy’n llywio
Dylid rhoi sylw dyledus i’r ffactorau sydd angen eu hystyried ym mhob un adran drwyddi draw.
Deddf Galluedd Meddyliol 2005 – sicrhau bod ysbryd y Ddeddf wedi ei gwreiddio mewn arfer ar gyfer pob oedolyn mewn perygl.
Rhaid i unigolion deimlo eu bod yn bartneriaid cyfartal yn eu perthynas â gweithwyr proffesiynol. Cod Ymarfer dan Ran 10 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sydd yn gosod allan y swyddogaethau yng nghyswllt y modd y mae’n rhaid i awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â’r unigolyn, ddod i farn ar sut y gallai eiriolaeth gefnogi unigolion i gwrdd â’u deilliannau personol.
Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop, yn enwedig Erthyglau 2,3,5,6 ac 8.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar Bobl Hŷn.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Safonau Iaith Gymraeg a Fframwaith “Mwy na Geiriau”.
Deddfwriaeth a chanllawiau
Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith cyfreithiol i wella llesiant pobl sydd angen gofal a chefnogaeth. Mae 11 Rhan i’r Ddeddf, gyda Rhan 7 yn ymwneud yn benodol â Diogelu. Dyma’r ddeddfwriaeth sydd yn rhoi’r fframwaith i Weithdrefnau Diogelu Cymru.
Gyda’r Ddeddf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl. Cyhoeddwyd hwn dan a.131 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cyfrol 6 Trin Achosion Unigol i amddiffyn oedolion mewn perygl.
Cynlluniwyd Gweithdrefnau Diogelu Cymru i alluogi ymarferwyr rheng-flaen a’u rheolwyr i gymhwyso gofynion a disgwyliadau deddfwriaethol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Y nod yw gwella deilliannau canoli ar yr unigolyn i oedolion mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod. Mae’r gweithdrefnau hefyd yn cydnabod deddfwriaeth, canllawiau a phrotocolau perthnasol eraill. Er enghraifft. For example, the Deddf Cam-drin Domestig (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Trwy’r Gweithdrefnau oll, mae hypergysylltiadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol.