Ymateb Cychwynnol a Gofynion Adrodd
Adref 5
Sylwch: Os credir bod plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â’r heddlu ac unrhyw wasanaethau perthnasol eraill
Rhaid i unrhyw un sy’n cael gwybodaeth wneud y canlynol:
- Ei thrin o ddifrif a chadw meddwl agored.
- Cofnodi’r manylion yn ffeithiol.
- Rhoi gwybod i’w arweinydd diogelu ar unwaith.
- Peidio ag ymchwilio na gofyn cwestiynau arweiniol.
- Peidio ag addo cyfrinachedd.
Rhaid i gyflogwyr wneud y canlynol:
- Sicrhau diogelwch y rhai sy’n gysylltiedig ar unwaith
- Cynnal asesiad risg sefydliadol cychwynnol.
- Gwirio eu polisïau mewnol o ran diogelu a gweithdrefnau disgyblu a’u cymhwyso i’r sefyllfa fel sy’n briodol.
Efallai y bydd cyflogwyr hefyd yn dymuno edrych ar God Ymarfer ACAS ar Weithdrefnau Disgyblu a Chwyno - Rhoi gwybod i Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu o fewn 24 awr (neu’r diwrnod gwaith nesaf).
- Darparu cymorth llesiant/lles i’r unigolyn y gwnaed yr honiad yn ei erbyn.
- Ystyried yr angen am drefniadau gofal diogel ar gyfer unrhyw oedolion eraill sy’n wynebu risg neu blant sy’n eu gofal
- Gofyn am gyngor gan Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu ynghylch faint o wybodaeth y dylid ei datgelu i’r unigolyn y mae’r honiad yn cael ei wneud yn ei erbyn.
- Rhaid gwneud yr atgyfeiriad angenrheidiol i’r Gwasanaethau Plant/Oedolion mewn perthynas ag unrhyw blentyn/oedolyn a allai fod wedi cael ei gam-drin, neu sy’n gwneud yr honiad
Adrodd:
Mae rhai honiadau mor ddifrifol, mae angen eu cyfeirio ar unwaith at yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol. Ni fwriedir i’r gweithdrefnau hyn rwystro’r gofyniad am ymatebion brys nac ar unwaith mewn unrhyw ffordd, er y disgwylir i Swyddog Dynodedig Diogelu’r Awdurdod Lleol gael gwybod am ddigwyddiadau o’r fath cyn gynted â phosibl ac ym mhob sefyllfa o fewn dim mwy na 24 awr ar ôl i’r honiad/pryder godi (y diwrnod gwaith nesaf os yw y tu allan i oriau swyddfa).
Dylai’r unigolyn y rhoddir gwybod iddo am honiad/pryder gyntaf drin y mater o ddifrif a chadw meddwl agored.
Ni ddylai wneud y canlynol:
- Ymchwilio na gofyn cwestiynau arweiniol
- Gwneud tybiaethau na chynnig esboniadau eraill
- Addo cyfrinachedd – dylid rhoi gwybod i’r unigolyn/unigolion y bydd y pryder yn cael ei rannu ar sail ‘angen gwybod’
Dylai wneud y canlynol:
- Gwneud cofnod ysgrifenedig o’r wybodaeth, gan gynnwys amser, dyddiad a lleoliad y digwyddiad honedig, yr hyn a ddywedwyd ac unrhyw un arall a oedd yn bresennol. Os mai oedolyn sy’n wynebu risg/plentyn sy’n rhoi gwybod am hyn, dylai ddefnyddio geiriau’r oedolyn/plentyn ei hun lle bo hynny’n bosibl.
- Llofnodi a dyddio’r cofnod ysgrifenedig
- Rhoi gwybod am y mater ar unwaith i’r prif berson diogelu (o fewn ei asiantaeth), neu ddirprwy yn ei absenoldeb
- Os mai’r prif unigolyn diogelu sy’n destun yr honiad, dylid rhoi gwybod i Reolwr Uwch
Dylai’r unigolyn sy’n adrodd dynnu sylw’n glir at y ffaith bod hwn yn honiad diogelu mewn perthynas ag ymarferydd/unigolyn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth a, lle bo’n bosibl, dylai anfon dogfennau ategol fel yr asesiadau risg sy’n amlinellu’n glir pa gamau diogelu sydd wedi cael eu cymryd ar unwaith i amddiffyn unrhyw oedolion sy’n wynebu risg a phlant.
Lawrlwytho: Llwybr Adrodd