Mae dyletswydd ar gyflogwr unigolyn y mae honiad wedi’i wneud yn ei erbyn, a/neu ei sefydliad neu gorff proffesiynol, i gynnal asesiadau risg i asesu pa fesurau/camau gweithredu (os o gwbl) y mae angen eu cymryd mewn perthynas â’r unigolyn, yn ystod ymchwiliadau/ymholiadau diogelu. Gallai’r rhain gynnwys cynnig cefnogaeth neu roi cyfyngiadau ar waith, ystyried dyletswyddau eraill, ac ati. Dylid gwneud y trefniadau hyn i ddiogelu pawb sy’n gysylltiedig, a chyfrifoldeb y cyflogwr/sefydliad yw eu gwneud.
Dylid rhoi gwybod i Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu am y camau a gymerwyd. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw sicrhau bod yr unigolyn yn addas, ac a yw’n ddiogel i’r unigolyn barhau yn ei rôl tra bo’r broses hon yn mynd rhagddi.
Cynghorir cyflogwyr i edrych ar eu polisïau disgyblu mewnol eu hunain, a Chod Ymarfer ACAS, ac i ofyn am gyngor gan eu hadran Adnoddau Dynol os oes ganddynt un.
Os nad yw’r honiad wedi dod gan sefydliad y gweithiwr a’i fod wedi digwydd mewn lleoliad arall neu ym mywyd personol y gweithiwr, yna dylai’r heddlu a/neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybod i’r prif swyddog diogelu yn yr asiantaeth/sefydliad cyflogi bod honiad wedi’i wneud yn erbyn aelod o staff.
Dylai unrhyw un sydd â phryder am ymddygiad ymarferydd neu unigolyn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth wneud y canlynol:
Mewn rhai amgylchiadau, bydd yn rhaid i sefydliadau ystyried honiadau am unigolyn nad yw’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol ganddo, lle nad yw ei weithdrefnau cyflogaeth yn gwbl berthnasol oherwydd bydd gan asiantaethau eu polisïau a’u gweithdrefnau eu hunain.
Dylai Asiantaethau Cyflogi gael eu cynnwys yn llawn a chydweithredu ag unrhyw ymholiadau gan Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu, yr heddlu a/neu dimau diogelu awdurdodau lleol. Fel arfer, bydd y sefydliad/asiantaeth sy’n cyflogi yn cymryd yr awenau oherwydd nad oes gan asiantaethau fynediad uniongyrchol at blant/oedolion na staff eraill, ac ni fydd ganddynt yr holl wybodaeth berthnasol sy’n ofynnol gan Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu fel rhan o’r broses atgyfeirio.
Dylai cyfarfod strategaeth broffesiynol adran 5, a drefnir gan Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu, fynd i’r afael â materion fel rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod unrhyw bryderon neu honiadau blaenorol sy’n hysbys i’r asiantaeth neu asiantaethau yn cael eu hystyried yn ystod y broses.
Wrth ddefnyddio asiantaeth gyflenwi/cyflogaeth, dylai cyflogwyr roi gwybod i’r asiantaeth am y broses ar gyfer rheoli honiadau ond dylent hefyd ystyried polisïau’r asiantaeth a’r ddyletswydd a roddir ar asiantaethau i gyfeirio at y DBS fel cyflenwyr personol. Dylai hyn gynnwys gwahodd rheolwr adnoddau dynol yr asiantaeth neu swyddog cyfatebol i gyfarfodydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am ei pholisïau.