Pwrpas
Mae’r adran hon yn egluro sut mae gwahaniaethu rhwng honiadau sy’n bodloni meini prawf trothwy Adran 5 a’r rhai nad ydynt yn bodloni’r meini prawf. Mae’n cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau cyson, teg a chyfreithlon ar draws asiantaethau.
Meini Prawf Trothwy
Rhaid ystyried honiad o dan Adran 5 os yw’r unigolyn sy’n gweithio (am dâl neu’n ddi-dâl) gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg wedi:
Enghreifftiau o honiadau sy’n galw am ddilyniant i broses Adran 5:
Niwed Corfforol
Enghraifft: Honnir bod gweithiwr gofal wedi taro oedolyn sy’n wynebu risg yn ystod gofal personol.
Trosedd
Enghraifft: Caiff athro ei arestio am fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Risg o Niwed Drwy Ymddygiad
Enghraifft: Mae hyfforddwr chwaraeon wedi cael ei weld yn gwneud sylwadau rhywiol i bobl ifanc yn ystod hyfforddiant.
Bywyd Personol yn Effeithio ar Addasrwydd
Enghraifft: Mae gweithiwr gofal cartref yn gyfrifol am drais domestig yn erbyn ei bartner.
Pwyntiau Ymarfer Allweddol
Enghreifftiau o bryderon y dylid eu rheoli’n fewnol ac nad ydynt yn bodloni meini prawf Adran 5:
Pryder am Ansawdd Gofal
Mae aelod o staff yn methu â chwblhau cynlluniau gofal yn gywir dro ar ôl tro, ond nid oes tystiolaeth o niwed na risg.
Torri Amodau Polisi Heb Niwed
Gwirfoddolwr yn peidio â dilyn cod gwisg y mudiad na gofynion prydlondeb.
Mater Ymarfer
Mae gweithiwr iechyd yn methu â dilyn gweithdrefnau rheoli heintiau, sy’n cael sylw drwy hyfforddiant tîm.
Mater Ymddygiad Lefel Isel
Athro yn defnyddio iaith amhriodol mewn cyfarfod staff, ond nid oes unrhyw arwydd o niwed na risg i blant.
Pwyntiau Ymarfer Allweddol