Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Canllawiau Gwneud Penderfyniadau

Cofiwch mai dim ond argymell penderfyniad i fwrw ymlaen â phroses Adran 5 y gall trafodaeth strategol.

Yr Heddlu – Rôl yr Heddlu yw canfod a yw natur y pryder yn droseddol neu a allai fod yn droseddol, a phenderfynu pa gamau a gymerir gan yr Heddlu.

Dim ond y Swyddog Dynodedig Diogelu neu Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol ddylai wneud y penderfyniad i fynd ymlaen i broses adran 5


Cwestiwn 1

A oes honiadau bod yr unigolyn wedi…

Ateb
OES
NAC
O BOSIBL (Casglu rhagor o wybodaeth)


ENGHREIFFTIAU A ALLAI AWGRYMU NAD YW UNIGOLYN YN ADDAS I WEITHIO GYDA PHLANT NEU OEDOLION SYDD AG ANGHENION GOFAL A CHEFNOGAETH

Yn aml, gellir delio â phryderon ynghylch ymarfer gwael drwy ddulliau eraill e.e. Cyflogaeth, trwyddedu, gweithdrefnau rheoleiddio, cod ymddygiad proffesiynol - cyrff proffesiynol.


Cwestiwn 2

A yw’r unigolyn yn Ymarferydd neu’n Unigolyn mewn Sefyllfa o Ymddiriedaeth?

Gweler y canllawiau isod ynghylch Ymarferwyr a Phobl mewn Sefyllfa o Ymddiriedaeth (nid yw hon yn rhestr gyflawn).

Ystyriwch hefyd amgylchiadau’r adroddiad a chyfrifoldebau rôl yr unigolyn yn y swydd.

1
Cyflogedig, gwirfoddoli neu fyfyriwr mewn rôl sy’n gweithio’n benodol ac yn uniongyrchol gyda phlant neu oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth:

Mae’r unigolyn hwn mewn Sefyllfa o Ymddiriedaeth.

Os yw’r pryder a godwyd yn ymwneud â cham-drin, esgeulustod, niwed i blentyn neu oedolyn sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, dylid rhoi gweithdrefnau diogelu ar waith a sbarduno gweithdrefnau a5.

2
Cyflogedig, gwirfoddoli neu fyfyriwr mewn rôl nad yw o bosibl yn cynnwys gweithio’n benodol ac yn uniongyrchol gyda phlant neu oedolion ag anghenion gofal a chefnogaeth, fodd bynnag, yn rhinwedd ei rôl:

Mae’r unigolyn hwn mewn Sefyllfa o Ymddiriedaeth.

Os yw’r pryder a godwyd yn ymwneud â cham-drin, esgeulustod, niwed i blentyn neu oedolyn sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, dylid rhoi gweithdrefnau diogelu ar waith a hefyd sbarduno gweithdrefnau a5.

3
Cyflogedig, gwirfoddoli neu fyfyriwr mewn rôl nad yw’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant neu oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth – gall y rôl ddod ag ef i gysylltiad â phlant neu oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth ac mewn rhai amgylchiadau:

Mae’n bosibl bod yr unigolyn hwn mewn Sefyllfa o Ymddiriedaeth yn dibynnu ar yr amgylchiadau, y rôl a’r cyfrifoldebau.

Os yw’r pryder a godwyd yn ymwneud â cham-drin, esgeulustod, niwed i blentyn neu oedolyn sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, dylid rhoi gweithdrefnau diogelu ar waith ac efallai y bydd angen sbarduno gweithdrefnau adran 5 yn dibynnu ar rôl a chyfrifoldebau penodol y swydd.

4
Cyflogedig, gwirfoddoli neu fyfyriwr mewn rôl nad yw’n gweithio’n benodol neu’n uniongyrchol gyda phlant neu oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth – mae’n bosibl bod y rôl yn dod ag ef i gysylltiad â phlant neu oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, fodd bynnag:

Nid yw’r unigolyn hwn yn debygol o fod mewn Sefyllfa o Ymddiriedaeth.

Mae’r rhan fwyaf o swyddi yn y categori hwn. Er y gall yr unigolyn ddod i gysylltiad â phlant neu oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth yn ystod y diwrnod gwaith, nid yw’r swydd sydd ganddo yn cael ei hystyried yn Sefyllfa o Ymddiriedaeth fel arfer.

Os yw’r pryder a godwyd yn ymwneud â cham-drin, esgeulustod, niwed i blentyn neu oedolyn sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, dylid rhoi gweithdrefnau diogelu ar waith ond ni fydd angen sbarduno gweithdrefnau a5.


Gall rhai o’r gweithwyr uchod fod yn hunangyflogedig ac felly nid oes sefydliad/rheolwr cyflogi ar waith i reoli’r pryderon yn effeithiol. Mae’r achosion hyn yn aml yn anodd, ond rhaid i’r Swyddog Dynodedig Diogelu a Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol ddilyn pob llwybr i’r eithaf i atal y cam-drin/esgeulustod/niwed ac atal pryderon rhag digwydd eto. Mae atgyfeiriadau at gyrff llywodraethu/rheoleiddiol perthnasol a DBS yn hanfodol yn yr achosion hyn.