Rhannu Cymraeg English

Egwyddorion diogelu

Adref 1

Mae ymarfer effeithiol, yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau, yn fwyaf tebygol o ddigwydd os oes cysondeb rhwng yr egwyddorion sy'n sail i ddeddfwriaeth, canllawiau a'r rhai a hyrwyddir yn y gweithdrefnau.

Mae diogelu effeithiol angen:

Yn fwy penodol, dylai bob person sydd mewn cysylltiad ag oedolion sy’n wynebu risg o gamdriniaeth ac esgeulustod, eu gofalwyr a'u teuluoedd; neu gydag oedolion a allai beri risg diogelu; neu sy'n gyfrifol am drefnu gwasanaethau i blant ac/neu oedolion:

  • ddeall eu rôl a'u cyfrifoldebau i ddiogelu a hyrwyddo lles oedolion sy’n wynebu risg o gamdriniaeth ac esgeulustod;
  • bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau a phrotocolau eu sefydliad ar gyfer diogelu a’u dilyn, a gwybod gyda phwy i gysylltu yn eu sefydliad i drafod pryderon am oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth ac esgeulustod a’u dyletswydd i hysbysu;
  • bod yn effro i ddangosyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod;
  • cael mynediad at Weithdrefnau Diogelu Cymru a chydymffurfio â hwy;
  • deall yr egwyddorion a'r ymarfer a gynhwysir yn Cyf. 6 Ymdrin ag Achosion Unigol;
  • bod wedi derbyn hyfforddiant i lefel sy'n gymesur â'u rôl a'u cyfrifoldebau;
  • gwybod pryd a sut i adrodd am unrhyw bryderon ynghylch camdriniaeth ac esgeulustod i’r gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu;
  • gwybod fod gan weithiwr asiantaeth ddyletswydd i hysbysu os yw unigolyn, aelod o'r teulu neu aelod o'r cyhoedd yn mynegi pryderon iddynt ynghylch diogelwch plentyn neu oedolyn. Ni ddylid fyth ofyn iddynt wneud hunangyfeiriad at y gwasanaethau cymdeithasol neu'r heddlu;
  • bod yn effro ac yn ymwybodol o'r risgiau y gallai camdrinwyr unigol, neu gamdrinwyr posibl, eu peri i oedolion sy’n wynebu risg o gamdriniaeth ac esgeulustod;
  • cydnabod pan fydd rhoddwr gofal wedi peryglu capasiti gofalu, hynny yw, problemau a allai effeithio ar eu capasiti i ddarparu gofal effeithiol a phriodol, neu a allai olygu eu bod yn peri risg o niwed;
  • bod yn ymwybodol o effeithiau camdriniaeth ac esgeulustod ar oedolion sy’n wynebu risg;
  • deall y broses ddiogelu;
  • rhannu a helpu i ddadansoddi gwybodaeth fel y gellir gwneud asesiad gwybodus o anghenion ac amgylchiadau'r unigolyn;
  • cyfrannu yn ôl yr angen i ddarparu help neu wasanaeth penodol i'r oedolyn sy’n wynebu risg neu aelod o'u teulu fel rhan o gynllun y cytunwyd arno a chyfrannu at y cynnydd adolygu yn erbyn canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn;
  • cyfrannu yn ôl yr angen at bob cam o'r broses ddiogelu;
  • cyfrannu at adolygu canlyniadau yn rheolaidd yn erbyn amcanion penodol a rennir;
  • gweithio'n gydweithredol gyda'r oedolyn sy’n wynebu risg, gofalwyr a theuluoedd, oni bai bod hyn yn anghyson â'r angen i sicrhau diogelwch yr unigolyn;
  • ymrwymo i gydweithredu'n llawn â'r holl asiantaethau eraill er budd diogelu oedolion sy’n wynebu risg o gamdriniaeth ac esgeulustod.