Rhannu Cymraeg English

Beth ddylid ei wneud os yw oedolyn sy’n wynebu risg yn dweud wrthych ei fod ef neu berson arall yn neu wedi cael ei gam-drin neu esgeuluso

Adref 2

Gall oedolyn sy’n wynebu risg benderfynu datgelu wrth ymarferydd ei fod, neu ei fod wedi, cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ei fod yn ymwybodol o unigolyn arall sy’n cael ei gam-drin neu sydd wedi cael ei gam-drin.

Gall y ffordd y mae ymarferwyr yn ymateb i’r datgeliadau benderfynu a fydd yr unigolyn yn parhau i ddisgrifio’r hyn sydd wedi digwydd iddo neu dawelu yn gyfan gwbl a thynnu’n ôl beth bynnag a ddywedodd ynghynt.

Oherwydd y gall y geiriau hyn fod yn hollbwysig mewn achosion cyfreithiol, mae’r ffordd y mae’r ymarferwyr yn eu rheoli yn bwysig. Mae’n hollbwysig:

  • Sicrhau bod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn ddiogel.
  • Gofyn cwestiynau i benderfynu a oes risg ddiogelu.
  • Gwrando ac arsylwi.
  • Mae’n hollbwysig cofnodi’r hyn a ddwedwyd yn syth oherwydd efallai mai dyma’r cyntaf a’r unig hysbysiad a fydd ar gael i’r heddlu.
Enghraifft: Mae swyddog tai yn ymweld â dyn ag anableddau dysgu oherwydd bu cwynion gan gymdogion am sŵn, ‘partïon’ ac ymwelwyr meddw. Dywed y dyn fod ganddo ffrindiau newydd ‘sy’n garedig iawn ato’. Ail-hysbysua’r swyddog tai beth ddywedodd: ‘Mae gennych chi ffrindiau newydd’. Ateba’r dyn: ‘Oes. Prynon nhw deledu sgrin fawr newydd i mi ac maen nhw’n dod â lot o decawês a photeli cwrw i mi.’ Edrycha’r swyddog tai ar y teledu, y bocsys pizza a’r poteli gweigion. Eto, ail-hysbysua: ‘maen nhw’n prynu pethau i chi’. ‘Ydyn, achos ‘mod i’n garedig iddyn nhw ac yn gadael iddyn nhw gadw pethau yn y fflat’. Ateba’r swyddog tai: ‘Felly rydych chi’n cadw pethau iddyn nhw, allwch chi ddweud mwy wrtha’ i am hynny?’ ‘Ydw, ac mae’n wych achos mae pobl yn dod i ‘ngweld i’n aml i gasglu’r parseli. Mae gen i lwyth o ffrindiau nawr.’ Mae dyletswydd ar y swyddog tai i hysbysu.

Dylech gadw’r canlynol mewn cof:

  • Yr angen i ddiogelu a chadw unrhyw beth rydych yn credu a fyddai’n dystiolaeth;
  • Cadwch feddwl agored ynghylch yr hyn a welwch ac a glywch;
  • Eglurwch wrth yr unigolyn pa gamau gweithredu a gaiff eu rhoi ar waith mewn ffordd sy’n briodol i’w oedran a dealltwriaeth;
  • Peidiwch ag addo cadw’n gyfrinachol yr hyn a ddwedwyd wrthych oherwydd bod dyletswydd ar ymarferwyr i ddatgelu gwybodaeth i’r gwasanaethau cymdeithasol, ac i’r heddlu mewn rhai achosion;
  • Cofiwch nad yw hysbysu pryderon yn bradychu ffydd.

Awgrymiadau ymarfer: 10 Egwyddor Allweddol ar gyfer Rheoli Datgeliadau o Gamdriniaeth neu Esgeulustod

Beth y dylid ei wneud yn dilyn datgeliad

Mae’n hanfodol bod ymarferwyr yn trin unrhyw ddatgeliad iddynt o ddifri ac nad ydynt yn barnu dibynadwyedd a dilysrwydd yr hyn a ddwedwyd. Y gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu fydd yn barnu hynny.

1: Dyletswydd i hysbysu am bryderon

Rhowch wybod yn syth i’ch rheolwr llinell a/neu (os yw’n briodol) yr ymarferydd â chyfrifoldeb dros ddiogelu yn eich sefydliad ac i’r gwasanaethau cymdeithasol os nad yw ar gael.

Sicrhewch y caiff y pryderon eu hhysbysu yn syth wrth y gwasanaethau cymdeithasol lleol.

  • peidiwch ag oedi;
  • peidiwch â wynebu’r camdriniwr honedig;
  • peidiwch â phoeni eich bod wedi gwneud camgymeriad - caiff ymarferwyr eu trin o ddifri bob tro gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n well trafod y datgeliad â rhywun sydd â’r profiad a’r cyfrifoldeb i wneud asesiad yn hytrach na pheidio â gweithredu.

2: Cofnodi

Cofnodwch yr hyn a ddwedwyd cyn gynted â phosibl ac nid hwyrach na 24 awr wedi’r datgeliad:

  • defnyddiwch union eiriau’r oedolyn sy’n wynebu risg os yn bosibl;
  • disgrifiwch amgylchiadau’r datgeliad;
  • y lleoliad ac unrhyw un arall a oedd yno;
  • byddwch yn ymwybodol y gallai bod angen y cofnod ar gyfer camau cyfreithiol neu weithdrefn ddisgyblu felly gwahaniaethwch rhwng ffeithiau a barn;
  • cofnodwch y dyddiad, amser, lleoliad a’r bobl a oedd yno pan wnaed y datgeliad.