Rhannu Cymraeg English

Trin pryderon gan y cyhoedd

Adref 2

Tra bo nifer yr atgyfeiriadau gan y cyhoedd yn parhau’n isel, maent yn cynyddu oherwydd ymwybyddiaeth gynyddol o gam-drin ac esgeuluso.

Mae’r ddyletswydd i hysbysu am bryderon diogelu yn berthnasol i ymarferwyr yn eu bywydau preifat yn ogystal ag yng nghyd-destun y gwaith. Felly, mae cyfrifoldeb ar ymarferwyr i hysbysu unrhyw bryderon sy’n dod i’r amlwg gan er enghraifft, gymydog, aelod o’r teulu, cyfaill mewn parti a.y.b.

Enghraifft: Mae therapydd galwedigaethol mewn parti. Mae gwestai arall yn dechrau siarad â nhw a dywed wrth y therapydd galwedigaethol fod gan ei gŵr anaf ar yr ymennydd yn sgil damwain feic modur. Mae hi’n dweud fwy a mwy ei bod yn ei chael yn anodd gofalu amdano, ac ar brydiau mae hi wedi bod wyllt ei thymer ag ef ac wedi ei daro.

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r aelod o’r cyhoedd bod dyletswydd arnoch i hysbysu am ei bryderon.

Mae’n bosibl y daw aelodau’r cyhoedd at ymarferwyr, yn bryderus ynghylch oedolyn sy’n wynebu risg.

Enghraifft: Mae ymwelydd i ward ysbyty yn dweud wrth aelod o staff nyrsio bod claf yn y gwely drws nesaf i aelod o’i deulu wedi dweud wrtho bod ei gŵr yn ei chlymu i’r gwely pan fo yntau eisiau mynd allan. Mae gan y claf ddemensia cynnar.

Os yw aelod o’r cyhoedd yn trafod ei bryderon diogelu ag ymarferydd naill ai yn ei fywyd cartref neu yn y gwaith, mae dyletswydd ar yr ymarferydd i roi gwybod i’r gwasanaethau cymdeithasol am y pryderon. Ni ddylai adael i’r aelod o’r cyhoedd gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol na chwaith ei gynghori i gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn uniongyrchol.

Wrth wneud hysbysiad sy’n dod gan y cyhoedd, dylai ymarferwyr wneud y canlynol:

  • Cofnodi’n union yr hyn ddwedodd yr aelod o’r cyhoedd wrthynt;
  • Rhoi unrhyw wybodaeth ffeithiol a roddwyd iddynt;
  • Canfod pa dystiolaeth sydd gan yr aelod o’r cyhoedd ynghylch y perygl o gam-drin. Er enghraifft, a ydynt wedi bod yn dyst i gamdriniaeth, siarad â’r unigolyn sydd mewn perygl o gamdriniaeth neu glywed rhywbeth?
  • Egluro, er eu bod yn parchu unrhyw ddymuniad am anhysbysrwydd, na fydd hyn bob tro’n bosibl, er enghraifft os amheuir trosedd.

Lle bo’n bosib, dylid annog aelodau o’r cyhoedd i roi eu manylion cyswllt.