Rhannu Cymraeg English

Pryd dylid cysylltu â’r heddlu

Adref 2

Os oes pryderon uniongyrchol o ran diogelwch yr oedolyn neu bod trosedd wedi’i chyflawni yn erbyn oedolyn sy’n wynebu risg, dylai gysylltu â’r gwasanaethau brys heb oedi i ddiogelu’r oedolyn rhag perygl uniongyrchol.

Mae enghreifftiau o droseddau posibl yn cynnwys: camdriniaeth rywiol honedig, anaf corfforol honedig, cyhuddiadau o ddwyn, bygythiadau ac ymddygiad treisgar gan weithredwr a amheuir. Masnachu pobl, lladd ar sail anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu benywod. Byddai’r uchod yn golygu bod dyletswydd i hysbysu.

Os nad ydych yn siŵr a fu trosedd ai peidio, gofynnwch am gyngor gan yr heddlu.

Hysbysu am droseddau posibl yn erbyn oedolyn sy’n wynebu risg o gael ei gam-drin

Os oes gan berson y galluedd meddyliol ac nad yw am gyflwyno hysbysiad, dylid parchu hyn ac eithrio os oes rhesymau sy’n cyfiawnhau gweithredu yn groes i’w ddymuniadau, megis:

  • mae’r person dan orfodaeth neu ddylanwad annheg sy’n golygu na all roi cydsyniad;
  • mae budd cyhoeddus hollbwysig, er enghraifft, perygl i eraill;
  • atal cam-drin difrifol neu ofid mewn sefyllfaoedd sy’n bygwth bywyd.

Os penderfynir mynd yn groes i ddymuniadau oedolyn sy’n wynebu risg sydd â’r galluedd meddyliol, mae’n rhaid gwneud y rheswm dros hynny yn glir a’i ddogfennu.

Os nad oes gan yr oedolyn y galluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, mae’n rhaid cofnodi’r rhesymau dros hysbysuer budd pennaf yr unigolyn.