Rhannu Cymraeg English

Ceisio cyngor asiantaeth a thrafodaethau cychwynnol gyda’r gwasanaethau cymdeithasol

Adref 2

Ni ddylai’r angen i geisio cyngor oedi unrhyw gamau gweithredu brys y mae angen eu cymryd i ddiogelu oedolyn.

  1. Os oes ansicrwydd, mae perygl Dylai unrhyw ymarferydd sy’n oedi neu sy’n ansicr a yw oedolyn sy’n wynebu risg o niwed geisio cyngor, fel y nodir isod, yn hytrach nag aros am ragor o dystiolaeth i gadarnhau neu wrthbrofi’r pryderon.
  2. Ceisiwch gyngor o fewn yr asiantaeth oni bai y byddai gwneud hynny’n achosi oedi diangen ac yn rhoi’r oedolyn sy’n wynebu risg.

Y person diogelu dynodedig yw’r person a enwebwyd yn y sefydliad:

  • sydd ar gael i drafod pryderon diogelu;
  • y dylid ymgynghori ag ef pan fo’n bosibl ynghylch codi pryder diogelu â’r awdurdod lleol;
  • a fydd yn rheoli unrhyw gamau gweithredu y mae angen eu cymryd yn syth i sicrhau bod yr unigolyn mewn perygl yn ddiogel rhag camdriniaeth.

Dylai’r holl ymarferwyr wybod pwy y dylid cysylltu â nhw yn eu hasiantaeth am gyngor ac ni ddylent oedi cyn trafod eu pryderon waeth pa mor fychan y gallant ymddangos.

Er y dylid gwneud pob ymdrech i geisio cyngor gan y swyddog diogelu dynodedig, mae’n bosibl y bydd angen i’r ymarferydd gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn uniongyrchol, yn arbennig:

  • petai cysylltu â’r swyddog diogelu dynodedig yn arwain at oedi diangen ac felly’n rhoi rhywun mewn perygl;
  • os yw’r swyddog diogelu dynodedig wedi cael gwybod a heb roi’r camau gweithredu ar waith y mae’r ymarferydd yn eu hystyried yn angenrheidiol;
  • os yw’r pryder yn berthnasol i’r swyddog diogelu dynodedig ac nad oes rheolwr arall priodol y gellid cysylltu ag ef.

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol am gyngor

Os, wedi ceisio cyngor yn yr asiantaeth, fod ansicrwydd o hyd ynghylch a ddylid hysbysu pryderon, mae bob tro’n bosibl trafod y rhain gyda’r gwasanaethau cymdeithasol a fydd yn cynghori ar y camau nesaf.

Wrth geisio canllawiau gan y gwasanaethau cymdeithasol, mae’n bwysig cydnabod:

  • mai cyfrifoldeb yr hysbysydd yw penderfynu hysbysu neu beidio;
  • nad yw gofyn am gyngor yr un fath ag hysbysu;
  • mai cyfrifoldeb yr hysbysydd yw ei gwneud yn glir ei fod am wneud hysbysiad;
  • y dylid cymryd camau dilynol ar bob hysbysiad dros y ffôn yn ysgrifenedig o fewn 24 awr.

Ni ddylai’r angen i geisio cyngor oedi unrhyw gamau gweithredu brys y mae angen eu cymryd i ddiogelu oedolyn y credir

Canlyniadau trafodaethau cychwynnol asiantaethau a gwasanaethau cymdeithasol

Dyma ganlyniadau posibl unrhyw drafodaeth gychwynnol:

  • hysbysiad i’r gwasanaethau cymdeithasol ynghylch pryderon bod yr oedolyn sy’n wynebu risg;
  • cyfeiriadi’r gwasanaethau cymdeithasol i gael asesiad o anghenion gofal a chymorth posibl;
  • nid yw’r oedolyn sy’n wynebu risg o gam-drin a dylid ystyried cynnig darpariaeth naill ai gan yr asiantaeth ei hun neu asiantaethau eraill;
  • nid oes angen rhoi unrhyw gamau pellach ar waith heblaw am gofnodi pryderon a chanlyniadau’r trafodaethau.

Cofnodi trafodaethau cychwynnol

Dylai unrhyw drafodaeth am les oedolyn sy’n wynebu risg, gan gynnwys rhai a ddigwyddodd yn yr asiantaeth a’r rheiny gyda'r gwasanaethau cymdeithasol, gael eu cofnodi yn ysgrifenedig. Dylai’r cofnod gynnwys y canlynol:

  • dyddiad, amser ac enwau’r rhai a fu’n rhan o’r drafodaeth;
  • y wybodaeth a rannwyd a’r ffynonellau;
  • y rhesymeg dros y penderfyniad a wnaed, gan gynnwys y penderfyniadau i beidio â gweithredu ymhellach;
  • pa gamau gweithredu a gymerir a chan bwy.

Dylai unrhyw ymarferwyr â phryderon ynghylch defnyddiwr gwasanaeth ddogfennu eu pryderon, waeth a yw’n fwriad rhoi camau gweithredu pellach ar waith ai peidio.