Rhannu Cymraeg English

Rolau a chyfrifoldebau

Adref 3 rhan 1

Y cydlynydd arweiniol

Mae’n rhaid i’r cydlynydd arweiniol fod yn unigolyn a gyflogir o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol a, phan fo’n bosibl, bod yn weithiwr cymdeithasol cymwys cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’r cydlynydd arweiniol yn gyfrifol am:

Gellir dirprwyo’r rôl i bartner statudol arall OND mae’r cyfrifoldeb statudol yn parhau yn nwylo’r awdurdod lleol.

Y cydlynydd arweiniol dirprwyedig

Os yw’r rôl cydlynydd arweiniol wedi ei dirprwyo gan y gwasanaethau cymdeithasol, ar ran yr awdurdod lleol, mae’n rhaid ystyried a chofnodi’r canlynol:

  • Rolau a chyfrifoldebau’r cydlynydd arweiniol dirprwyedig a’r unigolyn dynodedig yn yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am fonitro a goruchwylio;
  • Y sail resymegol dros benderfynu dirprwyo;
  • Trefniadau ar gyfer adrodd, monitro ac adolygu gan yr awdurdod lleol.

Yr ymarferydd arweiniol

Yn y cyfarfod strategaeth cyntaf mae’n rhaid i’r cydlynydd arweiniol sicrhau y dynodir Ymarferydd Arweiniol (cyfeirir at hwn fel ymarferydd y cynllun amddiffyn gofal a chymorth), ac y caiff ei fanylion cyswllt eu cofnodi.
Os nad yw’n bosibl penodi ymarferydd arweiniol, mae’n rhaid rhoi gwybod ar unwaith i’r uwch reolwr perthnasol sy’n gyfrifol am ddiogelu yn y gwasanaethau cymdeithasol.

Dylai’r ymarferydd arweiniol:

1. Fynd ati i gysylltu â’r oedolyn sy’n wynebu risg gan gynnwys:

  • gweld yr oedolyn cyn gynted â phosibl, o leiaf cyn pen 5 diwrnod gwaith wedi dyddiad y cyfarfod strategaeth;
  • sicrhau y rhoddir cyfle i’r oedolyn gael ei weld ar ei ben ei hun pan fo’n bosibl a dylai hynny fod o leiaf pob 4 wythnos.

(Dylai’r grŵp strategaeth ystyried pa mor aml y dylid gweld yr oedolyn sy’n wynebu risg a gosod amserlenni yn unol â hynny.)

2. Gweithio mewn partneriaeth â’r oedolyn sy’n wynebu risg (gan gydnabod ei alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol ar adeg benodol) a, phan fo’n briodol, ei eiriolwr i sicrhau:

  • fod ganddo ddealltwriaeth glir o’r rhesymeg ar gyfer y cynllun a’r canlyniadau a gynlluniwyd;
  • ei fod yn cytuno â’r cynllun er mwyn cyflawni’r canlyniadau;
  • pan nad yw’n cytuno â’r cynllun, ei fod yn parhau i fod mewn cysylltiad parhaus a bod ganddo’r hawl i newid ei feddwl ar unrhyw adeg
  • ei fod yn gwybod bod ganddo’r hawl i wneud cwyn a sut mae gwneud hynny.

3. Arwain y gwaith amlasiantaeth wrth:

  • baratoi, cwblhau, adolygu, cyflawni ac addasu’r cynllun.
  • cydlynu’r gwaith o gwblhau asesiadau anghenion yr unigolyn a’r teulu;
  • adolygu cynnydd ynglŷn â’r cynllun amddiffyn gofal a chymorth;
  • darparu ffocws ar gyfer cyfathrebu rhwng yr holl ymarferwyr a’r oedolyn
  • cwblhau cofnodion achos o asesiadau a chynllunio cynnydd;
  • paratoi hysbysiadau i’w hadolygu.

Os yw’r ymarferydd arweiniol yn newid yna mae’n rhaid rhoi gwybod ar lafar ac anfon cadarnhad ysgrifenedig at yr holl asiantaethau perthnasol, yr oedolyn sy’n wynebu risg a’i deulu.

DS: Nid oes rhaid i’r ymarferydd arweiniol o reidrwydd fod yn weithiwr cymdeithasol. Er enghraifft, gall nyrs neu ymarferydd iechyd arall gyflawni’r rôl. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r ymarferydd feddu ar y wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen i gyflawni’r rôl a chwblhau’r tasgau a amlinellir uchod.