Rhannu Cymraeg English

Ymchwiliadau ac ymateb aml-asiantaeth cydlynol i bryderon

Adref 3 rhan 1

Mae ymchwiliad diogelu’n broses strwythuredig ar gyfer cydweithrediad aml-asiantaeth i gasglu tystiolaeth ac i ddod i gasgliad ynghylch a yw pobl mewn sefyllfa y gallant wynebu risg neu a ydyn nhw’n wynebu risg yn barhaus. Fel arfer bydd trafodaeth/cyfarfod strategaeth cyn unrhyw ymchwiliad a rhaid cadarnhau a oes angen ymchwiliad ac os felly, a fydd yr ymchwiliad yn un troseddol a/neu anhroseddol.

Gall yr ymchwiliad gynnwys nifer o asiantaethau â diddordebau ychwanegol yn yr ymchwiliad a dibenion sy’n codi ohono. Mae tabl 3.1 yn rhoi trosolwg o’r math o ymchwiliadau sy’n cyd-fynd ag asesiad cam-drin a/neu esgeuluso oedolyn sy’n wynebu risg.

table_3_1_cymraeg

Tabl 3.1 Math yr ymchwiliad neu’r asesiad risg a’r asiantaeth sy’n gyfrifol (o Weithdrefnau Diogelu Oedolion Gorllewin Canolbarth Lloegr)

Dylai tystiolaeth o’r ymchwiliad gael ei chyflwyno mewn adroddiad ymchwilio ysgrifenedig i’r gynhadledd amddiffyn oedolion.