Rhannu Cymraeg English

Canlyniadau posibl yn dilyn hysbysiad: penderfyniadau sgrinio cychwynnol

Adref 3 rhan 1

Dylai’r penderfyniad cychwynnol, yn dilyn sgrinio, fod ar sail digon o wybodaeth h.y. gwybodaeth gymesur, er mwyn galluogi ymarferwyr i benderfynu p’un ai:

1. Dim camau gweithredu diogelu pellach

a) Ni fu unrhyw fath o gam-drin nac esgeuluso

Er enghraifft, mae hen ddyn sy’n derbyn gofal a chynllun gofal wedi honni bod arian wedi diflannu o’i gartref. Cred fod gofalwr wedi eu cymryd nhw a’i fod yntau felly’n ddioddefwr cam-drin ariannol. Daw rhagor o wybodaeth i law fod yr arian wedi ei ddarganfod ac felly ni fu dwyn.

b) Nid yw’r hysbysiad yn cynnwys achosion o gam-drin nac esgeuluso

Er enghraifft, mae ymwelydd i gartref gofal wedi honni y gwelodd ofalwr yn gwrthod gadael i breswylydd adael y cartref er bod dull y cartref yn caniatáu ‘ymweliadau agored â’r gymuned’. Mae’n hysbysu am y digwyddiad fel atal amhriodol a charcharu. Mae ymholiadau pellach yn nodi bod gorchymyn Amddifad Rhyddid ar waith yn achos y preswylydd hwnnw a bod camau gweithredu’r gofalwr yn unol â’r gorchymyn hwnnw yn gyfan gwbl ac yn ddiogel ac ag anghenion cynllun gofal a chymorth y person.

c) mae hwn yn ddigwyddiad un tro ac mae risg isel iawn y digwydd eto, a chaniateir defnyddio dull arall

Er enghraifft, camgymeriad wrth roi meddyginiaeth a hynny un tro yn unig mewn cartref gofal. Bydd rheolwr y cartref gofal yn cymryd camau unioni ar unwaith yn sgil hyn.

2. Mae ymholiadau’n ofynnol– gan fod achos rhesymol i amau bod oedolyn yn wynebu risg [a 126(2) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014]**
(https://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/section/126)) ac mae ymholiadau pellach yn angenrheidiol i sefydlu p’un a fu achos o gamdriniaeth a/neu esgeulustod.

3. Mae gan yr oedolyn anghenion gofal a chymorth ac asesiad dan rhan 3 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 dylai gychwyn cyn gynted ag y bo anghenion yn cael eu nodi. Dylai hyn fod gyda chaniatâd yr oedolyn sy’n wynebu risg os oes ganddo'r galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad. Gall hyn fod ar y cyd ag unrhyw ymholiad i’r cam-drin a’r esgeuluso posibl. Dylai’r hysbysiad a wneir a chanlyniadau dilynol arwain unrhyw gynllun gofal a chymorth.