Rhannu Cymraeg English

Dyletswydd i wneud ymholiadau dan Adran 126(1) (a.126) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014)

Adref 3 rhan 1

Gwneir ymholiadau diogelu dan a126 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Yn dilyn adroddiad, mae ar wasanaethau cymdeithasol ddyletswydd i gynnal ymholiadau, os bydd achos rhesymol i amau bod person o fewn ei ardal (boed yn byw yno fel arfer neu beidio) yn oedolyn sy’n wynebu risg (cyfeiriwch at y diffiniad o oedolyn sy’n wynebu risg uchod). Fel arfer dylai ymholiad gael ei gau o fewn 7 diwrnod gwaith o'r hysbysiad / cyfeiriad. Bydd y cyfnod ymholi 7 diwrnod gwaith yn dechrau pan dderbynnir yr hysbysiad gan yr awdurdod lleol .

Dylai’r ymholiadau hyn gynnwys:

  • profi cywirdeb ffeithiol unrhyw hysbysiad;
  • cwblhau gwerthusiad cychwynnol : Bydd hyn yn golygu casglu, adolygu a choladu gwybodaeth. (gallant ofyn i bartneriaid perthnasol eraill gwblhau hyn ar eu rhan ond arnyn nhw bydd y cyfrifoldeb);
  • pennu pa gamau y dylid eu cymryd, os dylid cymryd rhai.

Nid oes angen i’r cywirdeb ffeithiol, y gwerthusiad cychwynnol a'r broses pennu ddilyn yn olynol, caiff ymarferwyr symud ymlaen i'r elfen sy'n gymwys ym mhob achos.

Fodd bynnag, dylid ystyried y cwestiynau canlynol trwy gydol y broses ymholi:

  • a yw’r ymholiadau yn canolbwyntio ar y person?
  • a yw’r oedolyn sy’n wynebu risg â diffyg galluedd i wneud penderfyniad i amddiffyn ei hun rhag cael ei gam-drin?
  • a ddylid cynnwys yr heddlu oherwydd yr amheuir y bu trosedd neu os daw yn hysbys y bu trosedd?
  • a gaiff anghenion gofal a chymorth eu cydnabod wrth iddynt ddod i’r amlwg?

Gallai cywirdeb ffeithiol fod wedi’i sefydlu eisoes yn ystod y cam adrodd a sgrinio, ond dylid cael cadarnhad o’r wybodaeth hon.