Rhannu Cymraeg English

Dirprwyo ymholiadau a126 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Adref 3 rhan 1

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu a fydd eu staff yn ymgymryd â'r ymholiadau A.126. Gellir dirprwyo’r ymholiadau hyn i asiantaeth arall os yw’n briodol. Os nodir asiantaeth arall, neu ymarferydd penodol o asiantaeth arall, dylid mynegi’r rhesymeg y tu cefn i hyn a’i chofnodi.

Mae’r ddyletswydd i bennu canlyniad yr ymholiadau s126 yn parhau gyda’r gwasanaethau cymdeithasol, hyd yn oed os mai asiantaeth arall sy’n cynnal yr ymholiadau hyn. Felly, dylai’r gwasanaethau cymdeithasol oruchwylio’r achos a pharhau i fod yn bwynt cyswllt. Os yw asiantaeth arall yn cynnal yr ymholiadau, dylai’r gwasanaethau cymdeithasol fonitro’r cynnydd a sicrhau cydymffurfio ag amserlenni i osgoi oedi.

Nid yw’r amserlen saith niwrnod gwaith ar gyfer cwblhau’r broses ymholi’n newid os yw asiantaeth arall yn cynnal y gwerthusiad ar ran y gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’n rhaid i bartneriaid perthnasol y gofynnir iddynt ymgymryd ag ymholiadau ar ran y gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â cheisiadau'r o'r fath oni bai bod gwneud hynny'n anghydnaws â'u dyletswyddau eu hunain. Mae’n bosibl y bydd amgylchiadau y gallai eraill helpu, er enghraifft, sefydliad trydydd sector neu annibynnol sy’n cefnogi’r person.

Mae dyletswydd ar ymarferwyr o asiantaethau eraill i gydweithio a darparu gwybodaeth pan ofynnir iddynt wneud hynny dan adran 164 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Rhaid iddynt gydymffurfio â'r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny yn anghydnaws â dyletswyddau'r person ei hun. Mae’n rhaid i bartneriaid perthnasol rannu gwybodaeth fel rhan o ymarfer eu dyletswyddau diogelu. Mae hyn yn cynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, gwasanaeth troseddwyr.

Dylai ymarferwyr gofio:

  • bod diogelwch yr oedolyn sy’n wynebu risg yn bwysicach na’r angen am gynnal cyfrinachedd proffesiynol;
  • mae’n gyfrifoldeb ar bob asiantaeth neu ymarferydd unigol i roi’r holl wybodaeth berthnasol, gan gynnwys pryderon a chryfderau pan ofynnir iddynt wneud hynny, a pheidio â dewis pa wybodaeth a roddant.

Os yw’r oedolyn sy’n wynebu risg a’i deulu wedi byw tramor, dylid ceisio gwybodaeth gan yr asiantaethau perthnasol. Dylai gweithwyr proffesiynol o asiantaethau megis y gwasanaeth iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu ofyn am y wybodaeth hon o’u hasiantaethau cyfatebol yn y wlad/gwledydd y mae’r oedolyn sy’n wynebu risg wedi byw ynddi/ynddynt. Gellir cael gwybodaeth am bwy y dylid cysylltu â nhw drwy ffonio’r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad neu’r Llysgenhadaeth neu'r Swyddfa Conswl briodol. Mae’n bosibl y bydd gwybodaeth hefyd ar gael gan Wasanaethau Cymdeithasol Rhyngwladol.