Rhannu Cymraeg English

Cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth yn y gynhadledd

Adref 3 rhan 2

Rhaid rhannu gi wybodaeth am bryderon diogelu bob amser er budd gorau'r oedolyn sydd mewn peryglgael ei rhannu er budd pennaf yr oedolyn sy’n wynebu risg, unrhyw oedolyn neu blentyn arall a allai fod mewn perygl, neu lle mae prydwynebu risg neu yn achos materion cyhoeddus ehangach.

Mae cydweithredu rhyngasiantaethol llwyddiannus o ran amddiffyn oedolion sy’n wynebu risg yn seiliedig ar gyfnewid a rhannu gwybodaeth berthnasol ac yn ddyletswydd ar bob asiantaeth bartner (See Adran 1 for details). Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018, a dyletswydd cyfrinachedd cyfraith gyffredin. Mae hyn yn galluogi rhannu gwybodaeth yn gyfreithiol ac ni ddylid ei weld fel rheswm dros beidio â gwneud hynny oherwydd y gallai peidio â datgelu gwybodaeth pan yw’n berthnasol roi unigolyn mewn risg o niwed. Os oes tystiolaeth bod pryder diogelu ynghylch oedolyn sy’n wynebu perygl neu gam-drin neu esgeuluso neu fod risg i eraill, mae’n debygol ei bod er budd y cyhoedd i ddatgelu data iechyd cyfrinachol er mwyn diogelu iechyd a lles y rhai sy’n wynebu risg.

Mae’n hanfodol i’r broses benderfynu bod ymarferwyr unigol yn cyfrannu’r holl wybodaeth berthnasol sy’n cael ei chadw ar eu cofnodion y gallant ei datgelu yn gyfreithlon. Fodd bynnag rhaid i’r wybodaeth a rennir beidio â bod yn fwy na sydd yn angenrheidiol at ddiben ei rhannu, rhaid ei rhannu ag unigolion y mae angen iddynt ei chael yn unig a rhaid ei storio’n ddiogel.

Rhaid trin yr wybodaeth a ddaw i law yn ystod y broses ddiogelu yn gwbl gyfrinachol ac ni ddylid ei rhannu ag eraill ac eithrio os oes sail gyfreithiol dros wneud hynny, er enghraifft, diogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg neu os ydynt wedi mynegi cydsyniad i ddatgelu. Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch rhannu gwybodaeth yn gyfreithiol, dylid trafod y mater â’r cadeirydd cyn y gynhadledd. (Mae’r un rheolau ynglŷn â chyfrinachedd yn berthnasol i gyfarfodydd strategaeth.)

Ceisiadau gan ymarferwyr i beidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol

Mewn rhai achosion, bydd y gynhadledd yn cael gwybodaeth a allai beryglu achos troseddol yn y dyfodol pe câi ei rhannu, neu wybodaeth sy’n ymwneud â thrydydd parti ac sy’n gyfrinachol neu’n sensitif. Bydd angen i’r cadeirydd wneud trefniadau fel na fydd yr wybodaeth hon ond yn cael ei rhannu ag ymarferwyr yn ystod y gynhadledd. Mae’n arfer da i’r cadeirydd ofyn i ymarferwyr, cyn i’r gynhadledd ddechrau, a fyddai ymarferydd yn ei chael hi’n anodd rhannu unrhyw beth gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg. Bydd y cadeirydd yn hwyluso trafodaeth gyda’r ymarferwyr sy’n mynychu cyn y gynhadledd o ran sut ac os caiff y wybodaeth ei rhannu. Rhaid i aelodau o’r gynhadledd sicrhau y trafodir unrhyw benderfyniad i beidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol â’r Cadeirydd cyn y gynhadledd.

Amgylchiadau pryd y dylid datgelu gwybodaeth

1. Hawl i ofyn am wybodaeth bersonol

Yn amodol ar eithriadau penodol, mae gan unrhyw berson yr hawl i ofyn am fynediad at wybodaeth bersonol sy’n cael ei chadw amdano. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn cofnodion cynadleddau. Rhaid iddi gael ei datgelu ar gais p’un ai a yw’r unigolyn yn mynychu’r gynhadledd ai peidio.

Dylid nodi y gall pobl nad ydynt yn aelodau teulu hefyd wneud cais i weld gwybodaeth amdanynt a allai fod wedi’i chynnwys yng nghofnod y gynhadledd.

2. Achosion llys a chyfreithiol

Pan fo achosion troseddol, bydd yr heddlu’n datgelu’r cofnod i wasanaeth erlyn y goron ac i’r amddiffyniad os yw’n berthnasol. Gallai bod angen cofnodion ar gyfer achosion eraill, fel gwrandawiadau rheoliadol.

3. Budd y cyhoedd

Datgelu gwybodaeth gyfrinachol lle bo angen, lle mae risgiau o gamdriniaeth a/neu esgeulustod i eraill. Mae budd y cyhoedd o ran diogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn drech na budd y cyhoedd o ran sicrhau cyfrinachedd.

Dylai bod modd cyfiawnhau datgeliadau ym mhob achos, a dylid ceisio cyngor cyfreithiol.