Rhannu Cymraeg English

Cyfranogiad yr oedolyn mewn perygl

Adref 3 rhan 2

Mae’n bwysig bod presenoldeb yr oedolyn sy’n wynebu risg yn cael ei hwyluso yn unol â’i anghenion penodol. Dylai cynhadledd gefnogi’r oedolyn sy’n wynebu risg a chael ei harwain ganddo gymaint â phosibl.

Mae’n hanfodol bod oedolion sy’n wynebu risg yn cael cynnig ac yn cael eu cefnogi gan eiriolwrannibynnol drwy gydol y broses.

Dylai eu barn gael ei hystyried:

  • a ydynt eisiau mynychu;
  • a ydyw eisiau mynychu a dod â rhywun arall gyda nhw;
  • a ydynt eisiau enwebu rhywun i fynychu ar eu rhan? Pwy?

Hyrwyddo cyfranogi yn y gynhadledd

Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn deall nad yw presenoldeb yn y gynhadledd yn cyfrif fel cyfranogiad ynddo’i hun.

Pan fo’r oedolyn sy’n wynebu risg yn bresennol yn y gynhadledd, gall fod yn anodd iddo fynegi ei deimladau/safbwyntiau. Mae angen i’r cadeirydd sicrhau bod yna ffyrdd o’i gefnogi i wneud hyn yn effeithiol.

Lle y bo’n bosibl dylai’r oedolyn sy’n wynebu risg gael ei gynnwys a’i helpu i gymryd rhan yn y gynhadledd a chyfrannu at ddatblygiad y cynllun gofal, cymorth ac amddiffyn. Mae gan yr oedolyn sy’n wynebu risg yr hawl i wrthod cymryd rhan, a gall hefyd ddweud na ddylai cynhadledd gael ei chynnal. Mewn sefyllfaoedd o’r fath dylai adroddiad canlyniadau yn cynnwys gohebiaeth gael ei roi ar gael iddo. I hwyluso cyfranogiad yn y gynhadledd, mae rôl [cadeirydd y gynhadledd] a’r ymarferydd yn hanfodol.

Dylid ystyried y canlynol:

  • dylai’r ymarferydd esbonio diben y gynhadledd, presenoldeb a’r broses i’r oedolyn sy’n wynebu risg a cheisio ei farn o ran sut yr hoffai gymryd rhan. Dylid ystyried ei allu meddyliol ar y pryd i wneud penderfyniad ynghylch cymryd rhan;
  • dylid ei annog i ddod i’r gynhadledd drwy roi cyfle iddo ddod ag eiriolwr, cyfaill neu gefnogwr;
  • rhaid ystyried dewis iaith yr oedolyn sy’n wynebu risg, y dull cyfathrebu y mae’n ei ffafrio ac unrhyw anghenion penodol eraill;
  • dylai’r cyfarfod gael ei gynnal mewn lleoliad sy’n galluogi’r oedolyn sy’n wynebu risg i gyfrannu’n llawn;
  • dylai cadeirydd y gynhadledd gwrdd â’r oedolyn sy’n wynebu risg ymlaen llaw, yn ystafell y gynhadledd a chyn i bobl eraill gyrraedd, i sicrhau ei fod yn deall beth fydd yn digwydd yn y gynhadledd, sut y gall gyfrannu a chwyno, os yw’n dymuno gwneud hynny;
  • dylai’r oedolyn sy’n wynebu risg gael yr opsiwn i gwrdd â’r cadeirydd a/neu ymarferydd arall sy’n ei nabod orau;
  • ar ôl y gynhadledd, dylai’r cadeirydd roi’r cyfle i’r oedolyn sy’n wynebu risg gael trafodaeth/ôl-drafodaeth ar unwaith;
  • dylai’r gweithiwr allweddol ddilyn hyn gydag ymweliad;
  • os nad yw oedolyn sy’n wynebu risg yn fodlon ar ganlyniad y gynhadledd, dylai gael gwybodaeth a chyngor ar weithdrefnau cwyno’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.
  • gall yr oedolyn sy’n wynebu risg ddewis peidio â mynychu a chael cynrychiolydd i roi ei farn neu ddefnyddio dull cyfathrebu gwahanol.

Os nad yw'r oedolyn sy’n wynebu risg yn meddu ar alluedd ddigonol, mae angen gwneud penderfyniad lles gorau ynghylch pwy ddylai gynrychioli ei fuddiannau a rhoi adborth i'r oedolyn sy'n wynebu risg.

Os nad yw’r oedolyn sy’n wynebu risg eisiau mynychu’r gynhadledd:

Os nad yw’r oedolyn sy’n wynebu risg eisiau mynychu’r gynhadledd:

  • dylid ymgynghori ag ef ymlaen llaw i bennu ei farn;
  • dylai ei farn gael ei rhannu yn y cyfarfod gan gynrychiolydd, eiriolwr neu weithiwr allweddol;
  • dylid cofnodi ei resymau dros beidio â dod.
  • Dylai’r cyfarfod benderfynu a chofnodi:
  • pwy fydd yn bwydo unrhyw benderfyniadau ynglŷn â’r cynllun gofal, cymorth a diogelu yn ôl i’r oedolyn sy’n wynebu risg os na ddaw;
  • pwy all gysylltu ag ef os nad yw’n cytuno â’r cynllun neu os ydyw eisiau rhoi sylwadau arno.

Canllaw Ymarfer: Paratoi Oedolion sy’n Wynebu Risg at Gyfarfodydd Diogelu

Canllaw Ymarfer: Ymgysylltu â’r Oedolyn sy’n Wynebu Risg ynghylch Cwblhau’r Broses Ddiogelu

Canllaw Ymarfer: Hyrwyddo Cyfranogiad Ymhlith Oedolion sy’n Wynebu Risg a Heb Alluedd Meddyliol

Aelodau’r teulu

Ni ddylid ond gwahodd aelodau’r teulu os yw’r oedolyn sy’n wynebu risg yn dymuno hynny.

Os nad oes gan yr oedolyn sy’n wynebu risg y galluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, gellid ei wneud er ei fudd pennaf, neu gyda chaniatâd eiriolydd neu ddirprwy.

Person dan gyhuddiad o achosi cam-driniaeth neu esgeulustod

Ni fydd y person yr amheuir ei fod wedi achosi niwed fel arfer yn cael ei wahodd i fynychu’r cyfarfod. Dylai unrhyw benderfyniad i wneud hynny gael ei wneud fesul achos, a gyda chytundeb yr oedolyn sy’n wynebu risg.

Os yw’r cyfarfod yn penderfynu bod camau i’w cymryd mewn perthynas â’r person hwn, rhaid penderfynu hefyd pwy fydd yn rhoi gwybod iddo a’r rhesymau dros wneud y penderfyniad hwn. Os yw’r person yr amheuir ei fod wedi achosi niwed yn weithiwr proffesiynol neu’n wirfoddolwr, y cyflogwr fydd yn gwneud hyn.