Rhannu Cymraeg English

Adolygu'r broses diogelu oedolion (amddiffyn oedolion)

Adref 4

Diben yr adolygiad yw sicrhau bod y grŵp strategaeth wedi cwblhau’r camau a nodwyd yn y cynllun a phenderfynu a oes angen cynllun o hyd. Os oes angen cynllun, dylent ystyried a oes angen unrhyw gamau ychwanegol neu wahanol. Mae’n bwysig nodi na fydd angen cynnal adolygiadau ym mhob achos.

Dylai’r rŵp strategaeth adolygu’r cynllun amddiffyn gofal a chymorth yn rheolaidd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw berygl y caiff yr oedolyn ei gam-drin ac esgeuluso a bod ei anghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu.

Dylai’r amserlen adolygu ganolbwyntio ar yr unigolyn gan adlewyrchu ei amgylchiadau unigol ac anghenion amddiffyn. Dylid cynnal adolygiadau cynlluniau amddiffyn gofal a chymorth o leiaf bob 6 wythnos.

Dylai penderfyniadau o ran rhoi’r gorau i’r broses diogelu oedolion gael eu gwneud gan, neu mewn cytundeb â’r awdurdod lleol. Bydd hyn yn berthnasol pan fo rôl y cydlynydd arweiniol wedi’i ddirprwyo i asiantaeth arall e.e. iechyd.

Mewn achosion pan fo'r broses ddiogelu yn dod i ben (Penderfyniad 3) mae’n bosibl y bydd gan yr oedolyn sy’n wynebu risg anghenion gofal a chymorth parhaus. Dylai'r tîm rheoli gofal adolygu’r anghenion dan sylw yn unol ag Adran 4 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

flow_chart3_cymraeg

Siart Lif 3: Ymchwiliad Ffurfiol

Adolygu’r cynllun amddiffyn gofal a chymorth

P’un ai mewn cyfarfod strategaeth, cynhadledd amddiffyn oedolyn neu gyfarfod adolygu penodol, dylid rhoi ystyriaeth i’r cwestiynau canlynol:

neu

Awgrymiadau Ymarfer: Agenda ar gyfer Cyfarfodydd Adolygu

Cyfranogiad yr oedolyn sy’n wynebu risg yn yr adolygiad o’i gynllun diogelu gofal a chymorth

Dylid helpu’r oedolyn sy’n wynebu risg i arwain y gwaith o gadarnhau a yw’r cynllun yn effeithiol neu beidio. Efallai y bydd yr oedolyn yn dymuno dod ag eiriolwr gydag ef. Os yw’r oedolyn sy’n wynebu risg wedi’i asesu fel oedolyn nad oes ganddo’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau am y cynllun amddiffyn gofal a chymorth yna dylid gwahodd yr unigolyn sy’n gweithredu i sicrhau ei fudd pennaf.

Mae’n hanfodol bod tystiolaeth am y newidiadau i safon ei fywyd bob dydd, mewn perthynas â theimlo’n ddiogel a bod yn ddiogel, yn ganolog i'r broses gwneud penderfyniadau. Dylid rhoi gwybodaeth i’r oedolyn sy’n wynebu risg am ddewisiadau y gellid eu cynnwys yn y cynllun i sicrhau ei fod yn canolbwyntio’n fwy ar y person.