Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Y broses ddiogelu

Casglu gwybodaeth

Beth sy'n peri i mi feddwl bod yr unigolyn mewn perygl o niwed ?

Beth ydw i'n ei wybod?

  • Dylai casglu gwybodaeth ganolbwyntio ar arwyddion a dangosyddion camdriniaeth ac/neu esgeulustod posibl. Er enghraifft i’r rhai sy’n ystyried adrodd am achos o oedolynsy’n wynebu risg , mae’n golygu cael digon o wybodaeth i benderfynu p’un a ddylid gwneud adroddiad i’r gwasanaethau cymdeithasol. I ymarferwyr sy’n ymateb i adroddiad, pwrpas casglu gwybodaeth yw cael mewnwelediad i fyd yr oedolyn sy’n wynebu risg i ddeall a oes angen amddiffyniad ac/neu ofal a chefnogaeth arnynt
  • Bydd rôl a chyfrifoldebau'r gweithiwr yn effeithio ar y wybodaeth sydd ar gael iddo.
  • Dylai'r wybodaeth a gesglir fod yn 'gymesur'. Dylai fod yn ddigonol i lywio'r broses o wneud penderfyniadau. Er enghraifft, os oes pryderon am berson hŷn mewn cartref gofal sydd â briwiau pwysau, nid oes angen, yn y lle cyntaf, cael gwybodaeth am hanes y teulu.
  • Wrth gasglu gwybodaeth, dylid cael manylion a thystiolaeth o bryderon ynghylch niwed. Er enghraifft, nid yw 'gwisgo'n amhriodol' ynddo’i hun yn golygu fawr ddim. Os yw'r wybodaeth a gesglir yn achlust neu'n farn broffesiynol, dylid gwneud hyn yn glir.
  • -Dylai'r defnyddiwr gwasanaeth a'i ofalwyr gael cyfleoedd i ddarparu gwybodaeth am eu sefyllfa, eu dymuniadau a'u teimladau. Dylid defnyddio [dulliau cyfathrebu sy'n hyrwyddo ymgysylltu a rhannu gwybodaeth. Er enghraifft, dylid gofyn pa iaith maent eisiau ei defnyddio; gan dynnu ar wasanaeth cyfieithwyr ac eiriolwyr.
  • Dylai casglu a rhannu gwybodaeth fod yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE.
  • Dylai fod yn dryloyw i'r defnyddiwr gwasanaeth ac yn cael ei wneud gyda chaniatâd yr oedolyn mewn perygl. Fodd bynnag, gellir rhannu gwybodaeth heb gydsyniad pe byddai gwneud hynny yn golygu bod yr unigolyn neu eraill mewn mwy o berygl o niwed, neu nad oes ganddo'r galluedd meddyliol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i roi cydsyniad gwybodus.
  • Ni ddylai casglu gwybodaeth ganolbwyntio ar gasglu tystiolaeth yn unig i gadarnhau rhagdybiaeth rhywun. Er enghraifft, os oes pryderon bod dyn ifanc ag anabledd dysgu difrifol yn cael ei gam-drin yn emosiynol gan riant, mae'n bwysig casglu gwybodaeth am agweddau cadarnhaol a negyddol eu perthynas.
  • Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i wybodaeth a geir o'r cyfryngau cymdeithasol. Er y gall y wybodaeth hon fod yn gyhoeddus, efallai nad yw’n fanwl gywir.
  • Dylid cofnodi’r wybodaeth a gasglwyd.

Gwneud synnwyr o’r wybodaeth

Beth mae'r wybodaeth hon yn ei ddweud wrthyf am yr oedolyn yr wyf yn ei ystyried mewn perygl? A yw'n cadarnhau neu'n gwrthbrofi'r rhagdybiaeth? A oes angen i mi brofi ymhellach, ymgynghori ac/neu ystyried damcaniaethau amgen?

Ar y cam hwn, waeth beth fo'r rheswm dros yr asesiad; mae cwestiynau y dylai'r ymarferydd eu gofyn i'w hunan:

  • A oes gen i ddigon o wybodaeth i ddadansoddi a llunio barn broffesiynol? Os nad oes, beth arall sydd ei angen arnaf? Sut y byddaf yn ei chael?
  • Ydw i wedi gweld a siarad â'r unigolyn? Ydw i wedi gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud ac wedi cymryd eu dymuniadau, eu barn a'u teimladau o ddifrif?
  • A oes gen i ddealltwriaeth glir o'r canlyniadau personol y mae'r oedolyn sy’n wynebu risg eisiau eu cyflawni?
  • Pa bwysau y gallaf ei roi i'r wybodaeth a gasglwyd? Er enghraifft. a yw'r wybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, achlust neu farn broffesiynol?
  • A oes angen i mi adolygu fy rhagdybiaethau yng ngoleuni'r wybodaeth a gafwyd ac a ddadansoddwyd?
  • A oes angen cyngor ac arweiniad proffesiynol arnaf? Gyda phwy y gallaf gysylltu? (gweler yr adran ar gael cyngor)

Gwneud penderfyniadau a chynllunio

Beth sydd angen i mi ei wneud, gan ystyried fy rôl a'm cyfrifoldebau i amddiffyn, gofalu a chefnogi'r oedolyn sy’n wynebu risg ? A oes angen gweithredu ar unwaith?

Yn yr un modd ag y dylai'r wybodaeth a gesglir fod yn gymesur, felly dylai'r ymateb fod hefyd.

Dylid ystyried y cwestiynau canlynol:

  • Beth mae'r wybodaeth a gasglwyd yn dweud wrthyf am risg o niwed a ffactorau amddiffynnol?
  • A oes gennyf ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad gwybodus am y camau nesaf neu a ddylwn i gasglu mwy? Os felly, beth sydd angen i mi ei wybod? Gyda phwy ddylwn i ymgynghori?
  • Beth yw dymuniadau'r oedolyn sy’n wynebu risgl?
  • Beth sydd ei angen gan ofalwyr ac ymarferwyr i amddiffyn yr oedolyn sy’n wynebu risg rhag camdriniaeth ac esgeulustod pan yn bosibl, heb dorri'r hawl i fywyd teuluol? Os oes sawl opsiwn, ystyriwch fanteision ac anfanteision pob un. Er enghraifft, rhestrau aros hir, lleoliad, priodoldeb y gwasanaethau sydd ar gael.

Gweithredu/ymyrraeth

Sut y bydd y gweithredoedd a nodwyd - ar unwaith ac yn y tymor hwy - yn cyfrannu at gadw'r unigolyn yn ddiogel a gwella profiad byw yr oedolyn neu'r plentyn sy’n wynebu risg o niwed?

Ar y cam hwn, dylid ystyried yr hyn a elwir yn Saesneg y 5 ‘W’ (Why, What, Who, When and Where). Rhaid i ymarferwyr a’r oedolyn sy’n wynebu risg a’u teulu a gofalwyr gyrraedd cyd-ddealltwriaeth o’r canlynol:

  1. Pam fod ymyriadau’n digwydd a sut maent wedi’u dylunio i gyflawni canlyniadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn dynodedig
  2. Pa ymyriadau a gynhelir i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir a’r rhesymeg dros yr ymyriadau hynny. Er enghraifft, pam y dylai’r rhiant fynychu rhaglen rianta.
  3. Pwy sydd i wneud beth? Mae hyn yn angenrheidiol fel bod ymarferwyr a’r teulu yn deall yn union yr hyn a ddisgwylir ohonynt fel rhan o’r ymyrraeth, a sut y bydd y gweithredoedd hyn yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir.
  4. Pryd fydd hyn yn digwydd? Mae’n ddefnyddiol cytuno ar amserlen gyda mesurau o gynnydd.
  5. Ble fydd yr ymyriadau’n digwydd?

Gwerthuso

A gyflawnwyd y canlyniadau a gytunwyd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn? Pa dystiolaeth sydd gennym? Os nad yw'r canlyniadau wedi eu cyflawni, beth ddylai ddigwydd?

Mae'r cwestiynau hyn yn bwysig i sicrhau na wneir rhagdybiaethau bod y risg o niwed wedi lleihau heb dystiolaeth i gefnogi hyn. Dylai ymarferwyr ystyried y canlynol:

  • A yw'r oedolyn sy’n wynebu risg yn credu bod ansawdd eu bywydau a'u llesiant wedi gwella?
  • Pa dystiolaeth sydd gennym gan y defnyddiwr gwasanaeth ac ymarferwyr bod y canlyniadau y cytunwyd arnynt wedi'u cyflawni?
  • Pa ymyriadau a weithiodd?
  • Pa gamau na chyfrannodd at ganlyniadau gwell?
  • A oes angen i ni adolygu ymyriadau ar gyfer yr unigolyn hwn?
  • Pa wybodaeth sydd ei hangen arnom i'n cynorthwyo i wneud y penderfyniad hwn?
  • Os cyflawnwyd y canlyniadau, a ddylai'r achos gau? A oes angen ffynonellau cymorth eraill i gynnal y lefelau diogelwch a lles cyfredol?
  • A yw'r oedolyn sy’n wynebu risg ac ymarferwyr yn rhannu dealltwriaeth gyffredin o gasgliadau'r adolygiad ac unrhyw asesiadau ychwanegol ayb. a fydd yn cael eu cwblhau oherwydd y gwerthusiad?