Rhannu Cymraeg English

Casglu gwybodaeth ar gyfer gwneud hysbysiad

Adref 2

Caiff unrhyw un, gan gynnwys y cyhoedd, hysbysu am gam-drin neu esgeuluso honedig, a amheuir neu sydd yn digwydd, yn uniongyrchol i’r gwasanaethau cymdeithasol dros y ffôn, mewn e-bost neu’n ysgrifenedig.

Mae’n rhaid i’r holl hysbysiadau diogelu i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu pan amheuir y bu trosedd gael eu gwneud gan ymarferwyr, cyn gynted â phosibl ac o fewn 24 awr o ganfod y pryder.

Pan fo hysbysiad yn cael ei wneud dros y ffôn i’r awdurdod lleol, dylai’r person sy’n hysbysu gadarnhau’r hysbysiad yn ysgrifenedig o fewn 24 awr.

Dylai ymarferwyr ddefnyddio’r ffurflenni cyfeirio a roddir gan yr awdurdod lleol.

Os nad oes materion diogelu uniongyrchol, dylai hysbysiad i’r gwasanaethau cymdeithasol gynnwys y wybodaeth sydd ar gael am yr oedolyn sy’n wynebu risg a’i amgylchiadau, gan ystyried rôl yr unigolyn a’i asiantaeth.

Gwybodaeth y dylid ei chynnwys mewn hysbysuiad (atgyfeiriad)

Er ei bod yn bwysig rhoi’r wybodaeth yn nhabl isod, os oes angen gweithredu’n syth er mwyn diogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg, dylai hyn gael blaenoriaeth dros gasglu gwybodaeth.

Dylai’r wybodaeth sydd ei hangen fod yn gymesur a chynnwys:

Basic information

arrow

Cause for concern

arrow

Information held

Er fod y Tabl yn rhoi manylion y wybodaeth y dylid ei chasglu, cydnabyddir na fydd gan yr holl ymarferwyr y manylion hyn. Ni ddylai diffyg manylion atal rhywun rhag rhoi gwybod am bryder diogelu.


Cofiwch y gall peidio â rhannu gwybodaeth roi oedolyn sy’n wynebu risg o gam-drin ac esgeulustod ac mae’n nodwedd gyffredin mewn adolygiadau ymarfer oedolion. Er y gallai gwybodaeth ar ei phen ei hun ymddangos yn ddibwys, gyda gwybodaeth arall o ffynonellau eraill gallai fod yn arwyddocaol o ran diogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg.

Awgrymiadau Ymarfer: Gwneud Hybysiad

Awgrymiadau Ymarfer: Y Broses nodi, asesu, cynllunio, ymyrryd ac adolygu a ddefnyddir wrth hysbysu