Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Y broses adnabod, asesu, cynllunio, ymyrraeth ac adolygu a ddefnyddir i wneud hysbysiad

Mae'r isod yn enghraifft o'r broses ddiogelu a ddefnyddir gyda’r ddyletswydd i hysbysu am oedolyn sydd sy’n wynebu risg posibl o gamdriniaeth emosiynol gan ei bartner.

(Gweler y broses dioglu)

Y pryder

Rwy'n rheolwr canolfan ddydd adsefydlu, sef uned sy'n cael ei rhedeg gan iechyd, ac rwy'n credu bod Mrs Adams, (62 oed), un o'n defnyddwyr gwasanaeth, yn cael ei cham-drin yn emosiynol gan ei gŵr.

Casglu gwybodaeth

Mae Mrs Adams yn dioddef o dysarthria (anhawster siarad oherwydd colli rheolaeth ar gyhyrau'r wyneb). Mae ei symudiad corfforol yn gyfyngedig iawn , ac mae hi wedi colli rheolaeth ar y bledren. Mae ganddi gof gwael ac mae'n isel ei hysbryd, yn aml yn crio ac yn dawedog.

Bu Mrs Adams yn mynychu'r ganolfan ddydd yn wythnosol ar gyfer lleferydd ac iaith, therapi galwedigaethol a ffisiotherapi ers 3 mis ond nid yw wedi bod yno dros y pythefnos diwethaf. Pan gysylltais â chartref Mrs Adams dros y ffôn, i ddarganfod pam nad oedd yn mynychu, dywedodd ei gŵr wrthyf ei bod am roi'r gorau i ddod gan ei bod yn 'teimlo cywilydd' o’i chyflwr. Ceisiais ymweld â hi, ond nid oedd Mr Adams yn fodlon i mi fynd i mewn i'r tŷ i weld ei wraig ac roedd yn ymosodol ar lafar. Mae hefyd wedi atal y gofalwyr sy'n codi ac ymolchi Mrs Adams. Golyga nad oes unrhyw un yn mynd i mewn i'r cartref nac yn gweld Mrs Adams.

Mae defnyddwyr eraill bellach wedi gwneud sylwadau ar ei habsenoldeb ac wedi dweud ei bod wedi sôn bod ei gŵr yn 'fwli'. Ni chafodd erioed weithio ganddo, na gwneud ffrindiau. Dywedodd wrthynt y gall fynd yn ymosodol ar lafar ac yn gorfforol, ac mae hi bellach yn gwbl ddibynnol arno am ei hanghenion gofal sylfaenol. Soniodd hefyd nad yw am iddi fynd i'r ganolfan ddydd oherwydd y gost. Rwy'n pryderu bod Mr Adams yn atal ei wraig rhag derbyn gwasanaethau gofal a chymorth yn erbyn ei dymuniadau. Roedd hi wedi bod yn gwneud cynnydd yn ei chyfathrebu a'i symudiad corfforol.

Dadansoddi a gwneud synnwyr o'r wybodaeth:

Mae Mrs Adams yn dod yn fwyfwy ynysig. Nid yw ei hanghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu; er enghraifft, gofal sylfaenol, derbyn therapi lleferydd ac iaith a galwedigaethol a ddarperir gan y ganolfan ddydd ac mae ei chyflwr corfforol yn debygol o ddirywio o ganlyniad. Rwyf hefyd yn pryderu na chaniatawyd i mi weld Mrs Adams oherwydd mae’n bosibl ei bod yn dioddef camdriniaeth domestig.

Gwneud dyfarniadau a phenderfyniadau ar sail tystiolaeth:

Trafodais yr achos hwn gydag arweinydd diogelu ein hasiantaeth a chytunasom fod gennyf wybodaeth ddigonol i gyflawni dyletswydd i hysbysu fel 'partner perthnasol' o gamdriniaeth emosiynol posibl heb gydsyniad Mrs Adams, oherwydd gallai gwneud hynny ei rhoi sy’n wynebu risg posibl o niwed.

Gweithredu: y ‘5 W’

(Why, What, Who, When a Where)

Pam: Rwy'n poeni am ofal Mrs Adams a'r risg bosibl i'w diogelwch, ei hiechyd a'i llesiant gan ei bod yn y cartref gyda'i gŵr nad yw'n caniatáu i unrhyw un ei gweld ac mae'n ymddangos bod ganddo hanes o drais tuag ati.

Beth: Rwyf wedi trafod a gwneud atgyfeiriad dros y ffôn i’r gwasanaethau cymdeithasol a'i ddilyn gydag atgyfeiriad ysgrifenedig.

Pwy: Siaradais â'r gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd sy'n cysylltu â'r heddlu oherwydd gallai trosedd fod wedi cael ei chyflawni.

Pryd: Rwy'n disgwyl am saith diwrnod gwaith am gydnabyddiaeth. Os na fyddaf yn derbyn hyn, byddaf yn cysylltu eto.

Ble: Bydd Mrs Adams yn cael ei gweld yn ei chartref.

Gwerthuso ac adolygu canlyniad:

Mae'r adran gwasanaethau cymdeithasol wedi cytuno i gynnal ymholiadau gyda'r heddlu a byddant yn rhoi gwybod imi os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnynt, neu os bydd angen i mi fynd i gynhadledd, a sut maent yn meddwl y gellir diwallu anghenion Mrs Adams orau.

D.S. Enghraifft ffug yw hon.