Rhannu Cymraeg English

Egwyddorion diogelu

Adref 1

Mae arfer effeithiol, yn unol a deddfwriaeth a chanllawiau, yn fwyaf tebygol o ddigwydd os oes cysondeb rhwng yr egwyddorion sy’n sail i ddeddfwriaeth, canllawiau a’r rhai a hyrwyddwyd yn y gweithdrefnau.

Dau egwyddor allweddol sydd yn sail i arfer diogelu:

1: Mae diogelu ac amddiffyn yn gyfrifoldeb pawb

Mae diogelu effeithiol yn galw am:

Yn fwy penodol, dylai pob unigolyn sydd mewn cysylltiad a, neu yn gweithio gyda phlant sy’n wynebu risg o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod, eu gofalwyr, a’u teuluoedd; neu gydag oedolion a all fod yn risg diogelu; neu sy’n gyfrifol am drefnu gwasanaethau i blant a/neu oedolion wneud y canlynol:

  • deall eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant sy’n wynebu risg o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod;
  • bod yn gyfarwydd a gweithdrefnau a phrotocolau eu sefydliad ar gyfer diogelu, a’u dilyn;
  • gwybod â phwy i gysylltu yn eu sefydliad i drafod pryderon am blentyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth ac esgeulustod a’u dyletswydd i hysbysu;
  • bod yn effro i arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod yn y teulu a thu hwnt;
  • gallu cyrchu Gweithdrefnau Diogelu Cymru a chydymffurfio â hwy;
  • deall yr egwyddorion a’r arferion sydd yn Cyf. 5 Trin Achosion Unigol;
  • bod wedi derbyn hyfforddiant i lefel sy’n gydnaws â’u swyddogaeth a’u cyfrifoldebau;
  • gwybod pryd a sut i hysbysu am unrhyw bryderon am gamdriniaeth ac esgeulustod wrth y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu;
  • gwybod fod gan weithiwr mewn asiantaeth ddyletswydd i hysbysu os bydd unigolyn, aelod o’r teulu neu aelod o’r cyhoedd yn mynegi pryderon wrthynt am ddiogelwch plentyn neu oedolyn. Ni ddylid fyth gofyn iddynt hunan-gyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol na’r heddlu;
  • bod yn effro ac yn ymwybodol o’r risg y gall camdrinwyr unigol, neu gamdrinwyr posib, beri i blant sy’n wynebu risg o gamdriniaeth ac esgeulustod;
  • adnabod lle’r amherir ar allu gofalwr i roi gofal, hynny yw, problemau a all effeithio ar eu gallu i roi gofal effeithiol a phriodol, neu a all olygu eu bod yn risg o beri niwed;
  • bod yn ymwybodol o effeithiau camdriniaeth ac esgeulustod ar blant sy’n wynebu risg;
  • deall y broses ddiogelu;
  • rhannu a helpu i ddadansoddi gwybodaeth fel bod modd gwneud asesiad ar sail o wybodaeth o anghenion ac amgylchiadau’r plentyn a’r teulu;
  • cyfrannu yn ôl y gofyn i roi help neu wasanaeth penodol i’r plentyn sy’n wynebu risg neu aelod o’i deulu fel rhan o gynllun y cytunwyd arno a chyfrannu at adolygu cynnydd yn erbyn deilliannau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn;
  • cyfrannu yn ôl yr angen ar bob cam o’r broses ddiogelu;
  • cyfrannu at adolygu deilliannau yn rheolaidd yn erbyn amcanion penodol a rennir;
  • gweithio ar y cyd gyda’r plentyn sy’n wynebu risg , gofalwyr a theuluoedd, oni fydd hyn yn anghyson â’r angen i sicrhau diogelwch yr unigolyn;
  • bod yn ymrwymedig i gydweithredu’n llawn â phob asiantaeth arall er mwyn diogelu plant sy’n wynebu risg o gamdriniaeth ac esgeulustod.

2: Agwedd sy’n [canolbwyntio ar y plentyn]

Mae’n bwysig fod [ymarferwyr], yn unol â Rhan 2 6. (2) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cydnabod y canlynol:

  • mai hawliau’r plentyn ddylai fod flaenaf i’r agwedd;
  • y dylai eu buddiannau fod yn flaenaf o hyd;
  • cyn belled ag y mae’n rhesymol ymarferol, canfod a chadw mewn cof farn, dymuniadau a theimladau’r plentyn;
  • cadw mewn cof bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn;
  • ystyried nodweddion, diwylliant a chredoau’r plentyn a’i deulu (gan gynnwys, er enghraifft, iaith) tra’n cydnabod blaenoriaeth diogelu’r unigolyn;
  • cadw mewn cof bwysigrwydd darparu cefnogaeth briodol i alluogi’r plentyn i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arni/o i’r graddau sy’n briodol dan yr amgylchiadau, yn enwedig lle mae gallu’r plentyn i gyfathrebu yn gyfyngedig am unrhyw reswm.

Awgrymiadau Ymarfer: Cymryd Agwedd sy’n Canoli ar y Plentyn