Rhannu Cymraeg English

System ddiogelu effeithiol

Adref 1

Os yw’r egwyddorion arfer a ddisgrifir yn yr adran flaenorol, Egwyddorion Diogelu i gael eu cymhwyso’n effeithiol ar y rheng flaen, mae angen i’r ymarferwyr feddu ar y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i gael eu cefnogi gan Reolwyr a’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol. Dylai’r rheolwyr hyn ddarparu amgylchedd waith sy’n gydnaws a chymhwyso’r egwyddorion diogelu yn ymarferol. Mewn geiriau eraill, mae angen iddynt greu amgylchedd sydd yn arwain at system ddiogelu effeithiol. Ymhellach, dylai staff feddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i gymhwyso’r Egwyddorion Diogelu a’r rhai sy’n sail i system ddiogelu effeithiol, i’w harferion.

Y Canllawiau am Drin Achosion Unigol

Mae https://socialcare.wales/hub/statutory-guidance yn disgrifio’r egwyddorion sy’n arwain at system ddiogelu effeithiol i blant.

Rhestrir yr Egwyddorion isod:

  • Egwyddor 1: Dymuniadau, anghenion a lles y plentyn sy’n dod gyntaf, fel y bydd yn derbyn y gofal a’r gefnogaeth mae ei angen cyn i broblem waethygu.
  • Egwyddor 2: Fod pob ymarferwr a ddaw i gysylltiad â phlant yn effro i’w hanghenion gan gynnwys unrhyw gamdriniaeth posib neu amheuaeth ohono neu risg o gamdriniaeth neu niwed a’u bod yn deall pa gamau y dylent gymryd.
  • Egwyddor 3: Fod pob ymarferwr yn rhannu gwybodaeth briodol a’u bod yn gallu mynd yn uniongyrchol at gyngor i drafod unrhyw bryderon am blentyn. o Egwyddor 4 Y gall pob ymarferwr ddefnyddio’i b/farn broffesiynol i roi anghenion a deilliannau personol y plentyn wrth galon y system er mwyn canfod yr ateb iawn.
  • Egwyddor 5: Fod pob sy’n gweithio gyda phlentyn yn gweithredu mewn ffordd aml-asiantaethol a chydweithredol er mwyn diogelu a hybu lles plentyn, cofnodi penderfyniadau yn briodol ac adolygu cynnydd yn rheolaidd yn erbyn y deilliannau a osodir allan mewn cynlluniau gofal a chefnogaeth.
  • Egwyddor 6 Y gall pob ymarferwr sy’n dod i gysylltiad â phlant fynd at arweiniad strategol proffesiynol sydd yn cefnogi’r ymarferydd i gyrraedd y deilliannau a ddymunir i’r plentyn.