Rhannu Cymraeg English

Beth i’w wneud os oes pryderon diogelu am blentyn heb ei eni

Adref 2

Deddf Plant 1989 yw’r ddeddfwriaeth berthnasol o ran y plentyn sydd heb ei eni. Ar hyn o bryd mae’r gyfraith yng Nghymru yn rhoi cydnabyddiaeth gyfyngedig i’r ffetws ac mae gan fenyw'r hawl i wrthod ymgysylltu ag ymyriadau statudol pan yn feichiog. Er hynny, mae’n bwysig bod unrhyw bryderon yn ystod beichiogrwydd yn cael eu hysbysu cyn gynted ag y mae ymarferwyr yn cael gwybod amdanynt i sicrhau bod:

  • unrhyw gymorth angenrheidiol yn cael ei roi i’r rhieni yn ystod beichiogrwydd
  • unrhyw asesiadau cyn-geni ystyrlon yn gallu cael eu cwblhau o fewn amserlen benodol
  • amser ar gael i’r rhiant/rhieni i sicrhau ei fod/eu bod yn newid ei gapasiti/eu capasiti rhianta ac yn ei gynnal.1

Ar ben hynny, dylai gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr eraill wneud cynlluniau am ofal a chymorth, gwarchodaeth neu gamau cyfreithiol yn ymwneud â’r plentyn unwaith y mae wedi’i eni.

Mae’n bwysig felly bod gweithwyr proffesiynol iechyd ac ymarferwyr sydd mewn cysylltiad â’r fam a’i phartner yn:

  • gweithio gyda mamau beichiog a’u partneriaid;
  • ymwybodol o bryderon diogelu;
  • hysbysu am eu pryderon i’r gwasanaethau cymdeithasol cyn gynted â phosib.
  • Gall y pryderon hyn ymwneud â:
  • defnyddio cyffuriau ac alcohol;
  • problemau iechyd meddwl;[
  • cyflyrau iechyd a all, os na chânt eu trin, roi’r plentyn heb ei eni sy’n wynebu risg;
  • trais domestig;
  • gallu’r rhiant/rhieni i ofalu am fabi;
  • plant sydd wedi cael eu symud yn flaenorol drwy achosion gofal o ofal y rhiant/rhieni;
  • mae plant eraill yn y teulu ar y gofrestr amddiffyn plant.

Noder Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.

Cyfeiriwch at brotocolau eich Bwrdd Diogelu Rhanbarthol mewn perthynas â phlant heb eu geni.

Gweler Adran 3 rhan 2 am fanylion cynadleddau yn ymwneud â’r plentyn heb ei eni.


1 Assessing parental capacity when there are concerns about an unborn child: pre-birth assessment guidance and practice in England. Lushey et al., (2018) Child Abuse Review vol 27 pp97-107.