Trosolwg o'r adran
Adref 3 rhan 2
Yn yr adran hon, ceir amlinelliad o’r broses benderfynu ar gyfer cwblhau ymholiadau a47. Yr hyn sy’n hanfodol i’r broses hon yw pennu ‘niwed sylweddol’ a gwneud y penderfyniad o ran y tri phenderfyniad posibl ynghylch ymholiadau A47.
Ymhlith y rhain mae:
- Penderfyniad 1: nid yw pryderon o ran niwed sylweddol wedi’u cadarnhau
- Penderfyniad 2: mae pryderon wedi’u cyfiawnhau ond nid yw’r plentyn yn wynebu risg parhaus
- Penderfyniad 3: pryderon wedi’u cyfiawnhau, ac ystyrir bod y plentyn yn wynebu risg o niwed, cam-driniaeth neu esgeulustod a dylid galw cynhadledd amddiffyn plant.
Mae’r gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol yn dilyn ymholiadau a47 pan fo pryderon bod plentyn/plant yn wynebu risg parhaus o niwed sylweddol –Penderfyniad 3.
Mae’r gweithdrefnau sy’n perthyn i’r gynhadledd yn cynnwys:
- Tasgau’r Ymarferydd
- Amseru’r gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol
- Presenoldeb
- Cworwm y gynhadledd amddiffyn plant
- Hyd y gynhadledd
- Cynadleddau ar gyfer brodyr a chwiorydd
- Cynhadledd amddiffyn plant cyn geni
Mae’r gweithdrefnau canlynol yn hanfodol er mwyn sicrhau ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn a bod llais y plentyn yn cael ei chlywed yn y gynhadledd:
- cynnwys plant yn y gynhadledd
- rôl cadeirydd y gynhadledd a’r gweithiwr cymdeithasol gan gynnwys:
- cyfnod paratoi a chyfnod ar ôl y gynhadledd
- penderfynu p’un a fydd er budd gorau’r plentyn peidio â mynd i’r gynhadledd amddiffyn plant.
Mae’n bwysig cynnwys rheini yn y gynhadledd amddiffyn plant gan y gallant gyfrannu llawer.
Os yw hyn i fod yn effeithiol, yna dylai ymarferwyr fod yn glir beth yw eu rolau a’u cyfrifoldebau eu hunain o ran:
- paratoi’r rhiant/gofalwr i gymryd rhan yn y gynhadledd
- cefnogi rhieni neu ofalwyr i gymryd rhan yn y gynhadledd amddiffyn plant
- yn syth cyn y gynhadledd
- yn syth ar ôl y gynhadledd
- dilyn
- penderfynu p’un a fydd er budd gorau’r plentyn i riant ddod i i’r gynhadledd amddiffyn plant
- darparu ar gyfer aelodau teulu
Mae’n hollbwysig paratoi adroddiadau ar gyfer cynhadledd er mwyn llywio’r broses benderfynu. Mae’r rhan hon o’r gweithdrefnau yn amlinellu:
- beth dylid ei gynnwys yn adroddiad y gweithiwr cymdeithasol
- adroddiadau ymarferwyr sy’n cyfrannu gan gynnwys gwybodaeth benodol sydd ei hangen gan wahanol asiantaethau
- cyfrifoldebau’r asiantaethau ar gyfer rhannu adroddiadau â’r teulu.
Mae’r gweithdrefnau sy’n berthnasol i’r gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol: proses wedi eu nodi gan gynnwys:
- cadeirio’r gynhadledd amddiffyn plant
- yr agenda
- cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth mewn cynadleddau amddiffyn plant
- ceisiadau gan ymarferwyr i beidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol i’r teulu
- amgylchiadau pan fod rhaid datgelu gwybodaeth
Dylai’r broses benderfynu mewn cynhadledd amddiffyn plant gychwynnol arwain at:
- penderfyniad y gynhadledd 1: nid yw’r plentyn yn wynebu risg parhaus o niwed, ond gallai fod ganddo anghenion gofal a chymorth
neu
- Penderfyniad y Gynhadledd 2: mae’r plentyn yn dioddef niwed neu yn wynebu risg o niwed ac mae’n destun cynllun amddiffyn gofal a chymorth
- Manylion y broses yw:
- cyrraedd penderfyniad
- gwneud penderfyniadau yn ystod cynadleddau amddiffyn plant pan na cheir consensws
- gohirio penderfyniad mewn cynhadledd amddiffyn plant
Os gwneir Penderfyniad Cynhadledd 2 mae’n rhaid i gyfranogwyr y gynhadledd restru enw’r plentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
Mae’r gweithdrefnau yn cynnwys:
- rhoi enw plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant
- goblygiadau rhoi enw plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant
- plant sy’n derbyn gofal a chofrestru
- cael gafael ar y gofrestr
Os roddir enw’r plentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yna bydd rhaid i gyfranogwyr y gynhadledd greu cynllun amddiffyn gofal a chymorth bras a bydd rhaid i’r cadeirydd nodi’r gweithiwr cymdeithasol: (cydlynydd cynllun amddiffyn gofal a chymorth) Manylir rôl a chyfrifoldebau’r gweithiwr cymdeithasol.
Mae sawl tasg arall yn y gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol ac ar ôl y gynhadledd. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli:
- cofnodion y gynhadledd amddiffyn plant
- cwynion gan rieni, gofalwyr a phlant ynglŷn â’r penderfyniadau a’r modd y caiff y gynhadledd amddiffyn plant ei chynnal.