Rhannu Cymraeg English

Beth i’w wneud os bydd plentyn yn dweud wrthych ei fod ef/hi neu berson arall yn cael/wedi cael ei niweidio

Adref 2

Efallai y bydd plentyn yn penderfynu datgelu i’w hymarferydd eu bod:

Mae’n bwysig cydnabod bod plant yn gallu ‘dweud’:

Mae’r ffordd y mae ymarferwyr yn ymateb i’r datgeliadau hyn yn arwain y plentyn at ddisgrifio’r hyn sydd wedi digwydd iddo neu gau am ei hun yn gyfan gwbl a thynnu’n ôl beth bynnag a ddywedodd ynghynt.

Oherwydd y gall y geiriau hyn fod yn hollbwysig mewn achosion cyfreithiol, mae’r ffordd y mae’r ymarferwyr yn eu rheoli yn bwysig.

Mae’n hollbwysig:

Enghraifft: Mae plentyn mewn meithrinfa yn chwarae yng nghornel y cartref. Mae’n dechrau gweiddi a thaflu un o’r doliau o gwmpas gan ddweud ‘rwyt ti’n ddrwg ac angen curfa’. Mae’r ymarferydd yn mynd at y plentyn (er mwyn cadw’r plentyn ac eraill yn ddiogel) ac yn sôn am yr hyn y mae hi wedi’i weld.

Mae’r plentyn yn dweud bod y ddol mam wedi bod yn ddrwg a bod dad yn ‘dysgu gwers iddi’. Unwaith eto, mae’r ymarferydd yn sylwi, gweld ac yn adlewyrchu gan ddefnyddio geiriau'r plentyn: ‘mae doli dad yn dysgu gwers i doli mam’. Mae’r plentyn yn ymateb: ‘ie, dyna beth mae dad yn ei wneud i mam’. Mae’r ymarferydd yn ailadrodd: ‘dyna beth mae dad yn ei wneud i mam’. Mae’r plentyn yn ymateb: ‘ie, mae e’n ei brifo hi’n wael ac mae hi yn yr ysbyty’.

Drwy gydol y sgwrs mae’r ymarferydd yn gwrando ac yn arsylwi ac yn ailadrodd yr hyn a ddywedodd y plentyn. Felly mae’n cadw meddwl agored ac yn osgoi llygru’r dystiolaeth.

Awgrymiadau Ymarfer: 10 Egwyddor Allweddol ar gyfer Rheoli Datgeliadau