Rhannu Cymraeg English

Beth i’w wneud ar ôl i blentyn ‘ddweud’ am gamdriniaeth neu esgeulustod

Adref 2

Mae’n hanfodol bod ymarferwyr yn trin unrhyw ddatgeliad iddynt o ddifri ac nad ydynt yn barnu dibynadwyedd a dilysrwydd yr hyn a ddywedwyd. Y gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu fydd yn barnu hynny.

Rhoi gwybod am bryderon

Hysbyswch y pryderon ar unwaith i:

  • eich rheolwr llinell a/neu y person diogelu penodedig (PDP) yn gofyn am gyngor

ac

Sicrhewch y caiff y pryderon eu hysbysebu yn syth i’r gwasanaethau cymdeithasol lleol:

  • peidiwch ag oedi;
  • peidiwch â wynebu’r camdriniwr honedig;
  • peidiwch â phoeni eich bod yn gwneud camgymeriad o bosibl caiff ymarferwyr eu cymryd o ddifri gan y gwasanaethau cymdeithasol bob amser. Mae’n well trafod y datgeliad â rhywun sydd â’r profiad a’r cyfrifoldeb i wneud penderfyniad, yn hytrach na pheidio â gweithredu.

Cofnodi

Cofnodwch yr hyn a ddywedwyd wrthych cyn gynted â phosibl ac nid hwyrach na 24 awr wedi’r datgeliad:

  • defnyddiwch union eiriau’r plentyn;
  • disgrifiwch amgylchiadau’r datgeliad; y lleoliad ac unrhyw un arall a oedd yno;
  • byddwch yn ymwybodol y gallai fod angen yr hysbysiad ar gyfer camau cyfreithiol neu weithdrefn ddisgyblu felly gwahaniaethwch rhwng ffeithiau a barn;
  • cofnodwch y dyddiad, amser, y lleoliad a’r bobl a oedd yno pan wnaed y datgeliad.