Ni ddylai’r angen i ofyn am gyngor oedi unrhyw gamau gweithredu brys sy’n angenrheidiol i ddiogelu plentyn.
Os nad ydych yn siŵr os oes perygl o niwed i’r plentyn
Dylai unrhyw ymarferydd sy’n oedi neu sy’n ansicr a yw plentyn sy’n wynebu risg o niwed ofyn am gyngor, fel y nodir isod, yn hytrach nag aros am ragor o dystiolaeth i gadarnhau neu wrthbrofi’r pryderon.
Chwilio am gyngor gan asiantaeth
Dylech bob tro geisio cyngor gan eich asiantaeth eich hun oni bai y byddai hyn yn golygu oedi a rhoi unigolyn sy’n wynebu risg
Y person diogelu dynodedig (SDD) yw’r person a enwebwyd yn y sefydliad:
- sydd ar gael i drafod pryderon diogelu;
- y dylid ymgynghori ag ef pan fo’n bosibl ynghylch codi pryder diogelu â’r awdurdod lleol;
- a fydd yn rheoli unrhyw gamau gweithredu y mae angen eu cymryd yn syth i sicrhau bod yr unigolyn sy’n wynebu risg yn ddiogel rhag niwed;
- dylai pob ymarferydd wybod â phwy y dylent gysylltu yn eu hasiantaeth am gyngor ac ni ddylent oedi cyn trafod eu pryderon waeth pa mor ddi-nod y maent yn ymddangos.
Er y dylid gwneud pob ymdrech i geisio cyngor gan y person diogelu dynodedig, mae’n bosibl y bydd angen i’r ymarferydd gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn uniongyrchol, yn arbennig:
- petai cysylltu â’r person diogelu dynodedig yn arwain at oedi diangen ac felly’n rhoi rhywun sy’n wynebu risg;
- os yw’r swyddog diogelu dynodedig wedi cael gwybod a heb roi’r camau gweithredu ar waith y mae’r ymarferydd yn eu hystyried sy’n angenrheidiol;
- os yw’r pryder yn berthnasol i’r person diogelu dynodedig ac nad oes rheolwr arall priodol y gellid cysylltu ag ef.
Cysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am gefnogaeth/cyngor
Ni ddylai’r angen am geisio cyngor oedi unrhyw gamau gweithredu brys y mae angen eu cymryd i ddiogelu plentyn y credir ei fod sy’n wynebu risg o niwed.
Os, wedi ceisio cyngor yn asiantaeth yr ymarferydd, mae’n ansicr o hyd a ddylid hysbysu y pryderon, mae bob tro’n bosibl trafod y rhain ag aelod staff o’r gwasanaethau cymdeithasol a fydd yn cynghori ar y camau nesaf.
Wrth geisio cyngor gan y gwasanaethau cymdeithasol, mae’n bwysig cydnabod:
- mai cyfrifoldeb y sawl sy’n gwneud yr hysbysiad yw penderfynu gwneud adroddiad ai peidio;
- nad yw gofyn am gyngor yr un fath â gwneud adroddiad;
- cyfrifoldeb y sawl sy’n gwneud yr hysbysiad yw ei gwneud yn eglur ei fod am wneud hysbysiad;
- dylid dilyn yr holl hysbysiadau dros y ffôn yn ysgrifenedig o fewn 1 diwrnod gwaith.
Canlyniadau trafodaethau cychwynnol asiantaethau a gwasanaethau cymdeithasol
Gallai canlyniad unrhyw drafodaeth gychwynnol yn yr asiantaeth a/neu'r gwasanaethau cymdeithasol fod fel a ganlyn:
Cofnodi trafodaethau cychwynnol
Dylai unrhyw drafodaeth am les plentyn sy’n wynebu risg o niwed, gan gynnwys rhai sydd yn yr asiantaeth a’r rheiny gyda'r gwasanaethau cymdeithasol, gael eu cofnodi yn ysgrifenedig.
Dylai’r cofnod gynnwys y canlynol:
- dyddiad, amser ac enwau’r rhai a fu’n rhan o’r drafodaeth;
- yr wybodaeth a rannwyd a’r ffynonellau;
- y rhesymeg dros y penderfyniad a wnaed, yn cynnwys y penderfyniadau i beidio â gweithredu ymhellach;
- pa gamau gweithredu a gymerir a chan bwy.
Dylai unrhyw ymarferwyr â phryderon ynghylch plentyn ddogfennu eu pryderon, waeth p’un ai y cymerir camau gweithredu pellach ai peidio.