Rhannu Cymraeg English

Help cynnar ac atal camdriniaeth, esgeulustod and niwed

Adref 1

Gall camdriniaeth ac esgeulustod achosi niwed arwyddocaol i blant (Gweler arwyddion) ac effeithiau tymor-hir pan fyddant yn oedolion. Fodd bynnag, gall help cynnar, a elwir hefyd yn ymyriad cynnar, wneud y canlynol:

  • amddiffyn plant rhag dioddef camdriniaeth, esgeulustod neu niwed;
  • atal problemau rhag gwaethygu;
  • lleihau’r angen am ymholiadau ac ymyriad diogelu;
  • fod â manteision tymor-hir i iechyd a lles y plentyn.1

Mae’n bwysig felly fod help cynnar yn cael ei gynnig i blant a nodir fel rhai sy’n agored i gamdriniaeth ac esgeulustod posib a’u teuluoedd.2

Ymhellach, dangosodd ymchwil diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sut y gall Profiadau Andwyol mewn Plentyndod (PAP) effeithio ar unigolion trwy gydol eu bywydau.

Mae’r PAP yn cynnwys:

  • Camdriniaeth gorfforol, emosiynol neu rywiol a/neu esgeulustod;
  • Byw ar aelwyd lle mae problemau, megis camdriniaeth domestig, salwch meddwl a chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol;
  • Rhieni’n gwahanu a theulu’n chwalu;
  • Gofalwr yn mynd i garchar.

Canfu’r ymchwilwyr fod y rhai gafodd brofiad o bedwar PAP neu fwy yn fwy tebygol o gael problemau gan gynnwys ymddygiad oedd yn niweidio eu hiechyd, iechyd meddwl gwael, clefydau cronig a phroblemau cymdeithasol ehangach megis diweithdra, statws cymdeithasol-economaidd is a llai o symudedd cymdeithasol. Mae risg uwch hefyd y bydd y plentyn yn ymwneud a’r system cyfiawnder troseddol.3

O gadw mewn cof effeithiau niweidiol posib camdriniaeth ac esgeulustod trwy gydol oes, y strategaeth fwyaf effeithiol yw atal plant rhag profi camdriniaeth, esgeulustod a niwed.

Y dasg: adnabod ac ymdrin â phryderon sy’n dod i’r amlwg

Mae tasg ddeublyg gan ymarferwyr sydd mewn cysylltiad a phlant a’u teuluoedd a all fod yn agored i gamdriniaeth ac esgeulustod, sef:

  • gweithio gyda’r plant a’u teuluoedd o osgoi sefyllfaoedd rhag codi sy’n debygol o arwain at i’r plentyn brofi camdriniaeth, esgeulustod a niwed h.y., adeiladu gwytnwch, asedau a chryfderau’r teulu:

ac, os nad yw hyn yn effeithiol:

o adnabod ac ymdrin a phryderon ddaw i’r amlwg ac os na chânt eu datrys a allai olygu y bydd y plentyn yn profi camdriniaeth, esgeulustod a niwed.

Wrth nodi pryderon posib sy’n dod i’r amlwg ynghylch camdriniaeth a/neu esgeulustod dylai ymarferwyr ofyn:

  • Beth yw fy mhryderon am les y plentyn/plant a allai achosi niwed arwyddocaol os na chant eu trin?
  • Beth yw’r dystiolaeth i gefnogi’r pryderon hyn?
  • A wyf yn pryderu fod y gallu i fagu plant a ffactorau teuluol ac amgylcheddol megis tlodi yn cael effaith ar les y plentyn a’i wneud yn agored i gamdriniaeth ac esgeulustod?

Dylai ymarferwyr rannu eu pryderon ac unrhyw wybodaeth a gafwyd gyda’u person diogelu dynodedig (PDD).

Dylent hefyd gofnodi’r pryderon hyn a’r wybodaeth a gafwyd.

Os ar unrhyw adeg yn ystod ymwneud â phlentyn/teulu y bydd ymarferydd yn pryderu y gall y plentyn fod yn profi neu ei fod sy’n wynebu risg o brofi camdriniaeth, esgeulustod neu niwed dylid trafod y pryderon gyda’r arweinydd diogelu. (Gweler Dyletswydd i Hysbysu)

Awgrymiadau Ymarfer: Adnabod Plant a all fod Angen Ymyriadau Cynnar am eu bod yn Agored i Gamdriniaeth ac Esgeulustod

Ymarferwyr mewn cysylltiad â phlant a theuluoedd

Mae ymarferwyr sydd mewn cysylltiad â phlant a’u teuluoedd mewn sefyllfa arbennig o dda i nodi pryderon sy’n dod i’r amlwg am gamdriniaeth ac esgeulustod. Maent yn cynnwys:

  • y sawl sy’n gweithio mewn addysg, megis athrawon, cynorthwywyr dosbarth, mentoriaid, goruchwylwyr iard chwarae;
  • ymarferwyr mewn gwasanaethau tai a budd-daliadau;
  • ymarferwyr iechyd, gan gynnwys meddygon teulu, ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, bydwragedd, GIMPPhI, pediatryddon;
  • y sawl sy’n rhoi gwasanaethau i rieni neu ofalwyr gyda phroblemau oedolion megis cyffuriau ac alcohol, iechyd meddwl, anableddau dysgu a chamdriniaeth domestig;
  • pobl mewn lleoliadau cyfiawnder troseddol megis yr heddlu, y gwasanaeth prawf a thimau troseddu ieuenctid;
  • y sawl sy’n darparu gwasanaethau i oedrannau penodol, megis staff meithrinfeydd, gweithwyr ieuenctid;
  • ymarferwyr yn y gymuned.

D.S. Nid yw hon yn rhestr gyflawn.

Cyflwyno ymyriadau priodol: cyd-gynhyrchu

Mae’n hanfodol fod y plentyn a’r teulu yn cymryd rhan weithredol mewn pennu’r ffordd orau i gwrdd â’u hanghenion.

Rhaid gweld a gwrando ar y plentyn, ac ystyried ei ddymuniadau a’i deimladau, pa bynnag ddull cyfathrebu a ddefnyddir. Dylai ymwneud â phlant a phobl ifanc, a gwrando ar yr hyn maent yn ddweud am yr hyn sy’n digwydd iddynt fod yn ganolog i ymyriad a chefnogaeth effeithiol.

Mae plant a’u rhieni /gofalwyr yn fwyaf tebygol o ymwneud a gwasanaethau help cynnar os:

  • bydd gwasanaethau yn amserol a hygyrch, gan gadw mewn cof anghenion penodol aelodau’r teulu;
  • bydd amser yn cael ei dreulio gan ymarferwyr i ffurfio cysylltiadau cadarnhaol a llawn ymddiriedaeth gyda’r teulu;
  • bod camsyniadau am wasanaethau diogelu yn cael eu chwalu;
  • bydd gwybodaeth yn cael ei rannu’n agored ac yn onest.4

Awgrymiadau Ymarfer: Hwyluso Ymwneud Teuluol

Mathau o ymyriadau

Gall ymyriadau fod ar wahanol ffurfiau:

  • gwybodaeth, er enghraifft, at ddatblygiad plant, cyfathrebu gyda babanod ifanc;
  • cyngor cyffredinol a/neu benodol, er enghraifft ar wlychu’r gwely, trefn amser gwely;
  • cymorth er enghraifft, rhaglenni ymweld â chartrefi i deuluoedd bregus, rhaglenni yn yr ysgol ar ddiogelwch rhyngrwyd, rhaglenni mentora i bobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad peryglus neu heriol.

Gall yr ymyriadau hyn gael eu darparu gan ymarferwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau sydd mewn cysylltiad â’r plentyn a’i deulu5. Er enghraifft, efallai mai ymwelwyr iechyd fydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor am ddatblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar.

Wrth bennu’r ymyriadau mwyaf priodol, dylid ystyried:

  • agwedd holistig;
  • cefnogi a gweithio gyda’r teulu fel partneriaid cyfartal i gynllunio a chyflwyno’r ymyriad/au;
  • grymuso’r teulu gan ystyried sut y gallant gadw rheolaeth dros eu bywydau beunyddiol a chyflawni’r hyn sydd yn bwysig iddynt;
  • cynhyrchu atebion arloesol, er enghraifft trwy rwydweithiau a chymunedau lleol;
  • ymyriadau amserol yn y lle iawn;
  • dewis amrywiaeth o wasanaethau sydd yn ystyried anghenion aelodau unigol y teulu, er enghraifft, rhaglenni magu plant a mentora i berson ifanc;
  • cydnabod fod angen i ymyriadau fod yn hyblyg a chydnabod anghenion ac amgylchiadau unigol y teulu;
  • anghenion aelodau unigol y teulu, er enghraifft, oedran a chyfnod datblygu, anabledd, cyfathrebu;
  • ffyrdd o ymdrin ag unrhyw anghenion amlwg neu newydd;
  • rhannu perchenogaeth a chyfrannu gweithredol gan yr holl ymarferwyr sy’n ymwneud â’r plentyn a’r teulu.

Bwriadwyd y cwestiynau canlynol i adnabod a chyflwyno ymyriadau priodol:

  • Beth ydym ni (asiantaethau a theuluoedd) am gyflawni?
  • Sut byddwn ni’n gwybod pan fyddwn wedi cyflawni’r deilliannau hyn?
  • Sut gallwn ni adeiladu ar gryfderau’r teulu?
  • Sut gwnawn ni hyn? (Meddyliwch am Wybodaeth, Cyngor a Chymorth)
  • Pwy sy’n mynd i wneud beth?
  • Beth yw’r amserlenni?
  • Sut gwnawn ni fonitro cynnydd?

Awgrymiadau Ymarfer: Ffyrdd y Gall Ymarferwyr Gyfrannu at Gymorth Cynnar i Ymdrin â Phryderon Diogelu sy’n dod i’r Amlwg


1 Early Intervention Foundation (EIF) (2018) About early intervention: why it matters

2https://socialcare.wales/cms_assets/hub-downloads/Principles-Resource-Guide_March-17.pdf

3 Public Health Wales http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/88517

4 Easton, C., Lamont, L., Smith, R. and Aston, H. (2013). ‘We Should Have Been Helped from Day One’: a Unique Perspective From Children, Families and Practitioners. Findings from LARC5. Slough: NFER www.nfer.ac.uk/publications/LRCF01

5https://www.eif.org.uk/why-it-matters/what-is-early-intervention/