Rhannu Cymraeg English

Cael cydsyniad i hysbysiad

Adref 2

Budd y plentyn sydd sy’n wynebu risg o niwed ddylai gael blaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau o ran p’un ai i ofyn am ganiatâd plentyn a/neu riant, cyn gwneud adroddiad.

Dylai ymarferwyr geisio gofyn caniatâd gan y rhieni. Y rhesymau dros hyn yw bod cynnwys teuluoedd a gofalwyr yn fwy tebygol o:

Dylid ymgynghori â phlant, os ydynt yn ddigon cymwys, a gofyn am eu caniatâd. Mae’n bwysig cynnwys plant yn y broses cyn gynted â phosibl i sicrhau y caiff eu dymuniadau a’u teimladau eu hystyried pan fo’n bosibl ac er mwyn osgoi eu gwneud yn ‘destun pryder’ yn unig.

Fodd bynnag, diogelwch a llesiant y plentyn yw’r flaenoriaeth o ran gofyn am ganiatâd. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â’ch tîm Gwasanaethau Cymdeithasol lleol i ofyn am gyngor.

Am ragor o ganllawiau gweler: (Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl; Rhannu Gwybodaeth i Ddiogelu Plant)

Awgrymiadau Ymarfer: Gofyn am Gydsyniad: Cael Cydsyniad gan Blant a Phobl Ifanc

Llunio hysbysiad heb gydsyniad rhieni

Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd ar ymarferwyr angen siarad â phlentyn heb i’w ofalwr neu riant wybod neu heb eu cydsyniad, gan mai plant weithiau yw’r unig ffynhonnell o wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd iddynt.

Os gwneir penderfyniad i beidio â gofyn am gydsyniad y rhieni, mae’n rhaid cofnodi amgylchiadau sy’n berthnasol i’r penderfyniad hwn. Gallant gynnwys:

  • y posibilrwydd y byddai’n rhoi’r plentyn mewn rhagor o berygl
  • y posibilrwydd y caiff plentyn ei fygwth neu ei orfodi i ddweud dim;
  • tebygrwydd cryf y câi tystiolaeth bwysig ei dinistrio/colli;
  • y rhiant yn cael ei adnabod fel y camdriniwr honedig;
  • y plentyn ddim am i’r rhiant fod yn gysylltiedig ar y cam hwnnw, ac mae’n gymwys i wneud y penderfyniad hwnnw;
  • os yw er budd y cyhoedd.

Dylai ymarferwyr drafod a yw’n briodol ceisio cydsyniad gan y plentyn a’r rhieni gyda swyddog diogelu dynodedig proffesiynol yr asiantaeth.

Gellir diystyru dymuniad plentyn a rhiant i beidio gwneud hysbysiad os yw ymarferwyr yn ystyried bod dal angen gwneud hysbysiad.

Yn y sefyllfa hon:

  • mae’n rhaid cofnodi’r rheswm dros fwrw ymlaen heb gydsyniad rhieni;
  • dylid rhoi gwybod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol nad yw’r rhiant wedi rhoi ei ganiatâd;
  • dylai’r sawl sy’n gwneud yr hysbysiad roi gwybod i’r rhiant/rhieni bod hysbysiad wedi’i wneud yn groes i’w dymuniad, ac eithrio pan fyddai gwneud hynny yn rhoi’r plentyn sy’n wynebu risg o niwed neu niwed pellach.

Rhaid rhoi gwybod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar adeg gwneud yr hysbysiad:

  • p’un a yw cydsyniad wedi ei sicrhau neu ei wrthod
  • Â phwy y cysylltwyd i sicrhau eu cydsyniad, ac ymateb, dymuniadau a chanlyniadau dymunol y person dan sylw
  • A yw’r plentyn yn gwybod am yr hysbysiad ac a yw’n cydsynio â hynny
  • Pan fo cydsyniad wedi’i wrthod er bod y plentyn a’r rhiant/rheini wedi cael gwybod am yr hysbysiad
  • Pam na wnaed unrhyw ymdrechion i sicrhau cydsyniad