Rhannu Cymraeg English

Dyletswydd i hysbysu am bryderon (yn cynnwys cam-drin ac esgeulustod) am ymarferydd

Adref 2

Mae’n bwysig nad yw ymarferwyr yn anwybyddu nac yn diystyru amheuon am ymarferydd arall neu gydweithiwr a allai fod yn cam-drin, esgeuluso neu achosi niwed i blentyn sy’n wynebu risg.

Mae cyfrifoldeb ar bob ymarferydd i ddiogelu plant, gan gynnwys eu diogelu rhag cael eu cam-drin gan weithiwr proffesiynol, gofalwr cyflogedig neu wirfoddolwr. Felly, mae’r ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch cam-drin ac esgeulustod posibl yn berthnasol yn y sefyllfaoedd hyn. Mae’r ddyletswydd hon hefyd yn berthnasol mewn sefyllfaoedd lle amheuir camdriniaeth yn unig.

Rhaid i bob sefydliad sicrhau bod disgrifiadau swyddi, codau ymddygiad a chontractau/cytundebau lefel gwasanaeth gynnwys y ddyletswydd i hysbysu am ddiogelu plant, gan gynnwys sicrhau bod ymarferwyr yn ymwybodol bod ganddynt ddyletswydd i hysbysu am bryderon am ymddygiad ymarferwyr eraill.

Mae’n rhaid i bob sefydliad sicrhau bod ganddynt weithdrefnau chwythu’r chwiban.

D.S. Caiff y rhai sy’n chwythu’r chwiban ddiogelwch dan Ddeddf Datgelu er Budd y Cyhoedd 1998

Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015

Awgrymiadau Ymarfer: Adnabod Pryderon Proffesiynol

Adran 5 Honiadau yn erbyn Gweithwyr Proffesiynol / Y Rhai Hynny Mewn Swyddi o Ymddiriedaeth

Dyletswydd i hysbysu am bryderon proffesiynol mewn bywyd preifat

Mae’r ddyletswydd i hysbysu yn ymestyn y tu hwnt i gyd-destun y gwaith. Golyga hyn os yw unrhyw ymarferydd yn dod yn ymwybodol o ymddygiad sy’n peri pryder gan, er enghraifft ffrind, aelod o’r teulu neu gymydog, sy’n ymarferydd, mae’n rhaid iddo hysbysu ei bryderon.

Enghreifftiau: Mae ymarferydd yn ymwybodol bod athro sy’n byw ar ei stryd yn cam-drin ei bartner yn gorfforol.

Mae ffrind yn dweud wrthych ei fod yn cael trafferth gyda’i ferch 10 oed a’r unig ffordd i ddelio â hi yw ei chloi yn ei hystafell wely. Neithiwr gadawodd ei phlentyn yn ei hystafell ar ôl ysgol, tan y bore canlynol.

Mae cymydog sy’n gweithio mewn cartref nyrsio preifat i fyny’r lôn yn rhoi gwybod i chi y cafodd ei phlant eu rhoi ar y gofrestr diogelu plant mewn cysylltiad ag achos o gam-drin corfforol yn ddiweddar. Nid yw wedi rhoi gwybod am hyn i’w chyflogwyr.

Mae ffrind, sydd hefyd yn weithiwr cymdeithasol, yn dweud ei bod yn gadael i’w phlant chwech ac wyth mlwydd oed fynd i mewn i’r tŷ ar eu pen eu hunain ar ôl ysgol a’u bod yn aros ar eu pennau eu hunain nes daw hi adref o’r gwaith.