Dylid rhoi ystyriaeth bob amser i’r angen i archwilio pob plentyn yn feddygol, y mae pryderon amdano.
Dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol mai diben archwiliad meddygol neu asesiad yw:
Lles y plentyn sydd o’r pwys mwyaf, ac ni ddylai casglu tystiolaeth fod yn ffynhonnell arall o gamdriniaeth o’r plentyn. Dylid ystyried yr angen am dystiolaeth fforensig yn eilradd i’r angen am driniaeth feddygol i’r plentyn.
Dylai’r meddyg y gwnaed y cais am archwiliad iddo farnu pryd y dylid cynnal yr archwiliad. Dylid ystyried y canlynol:
Dylai’r asesiad o’r plentyn gael ei wneud gan baediatregydd â chymwyseddau Lefel 3 yn unol â Safeguarding Children and Young People: roles and competences for health care staff: Roles and Competences for Health Care Staff.
Pan fo hyfforddai’n cynnal yr asesiad, dylai gael ei oruchwylio gan feddyg ymgynghorol neu uwch bediatregydd (RCPCH) Canllaw gan y Coleg Brehninol y Peidatregwyd ac Iechyd Plant.
Rhaid i feddygon sy’n cynnal yr archwiliadau fod yn ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf gan Goleg Brenhinol y Pediatregwyr ac Iechyd Plant
Rhaid i feddygon sy’n archwilio fod yn ymwybodol o egwyddorion cydsyniad ar sail gwybodaeth, a’r canllawiau yn y RCPCH Child Protection Companion 2006.
Rhaid i weithwyr cymdeithasol a swyddogion yr heddlu sy’n gwneud ymholiadau adran s47 amddiffyn plant hefyd fod yn ymwybodol o faterion cydsynio ar gyfer yr archwiliad meddygol.
O.N. Gall y gyfraith ystyried cynnal archwiliad heb gydsyniad yn ymosodiad. Cyfrifoldeb y meddyg sy’n archwilio yw cael cydsyniad ar sail gwybodaeth, yn ysgrifenedig os yn bosib.
Gall plentyn sy’n 16 oed a hŷn roi ei gydsyniad ei hun. Os nad yw’n gallu rhoi cydsyniad, er enghraifft oherwydd anabledd dysgu, gellir gofyn am gydsyniad gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Mae plant dan 16 mlwydd oed, sy’n gallu deall i’r dim yr hyn a gynigir a’i oblygiadau llawn, yn gymwys i gydsynio (Gillick v Wisbech 1986).
Fodd bynnag, pan fo’r dull meddygol a gynigir yn un mwy difrifol yna mae angen i’r plentyn feddu ar ddealltwriaeth fwy trylwyr o’r oblygiadau dan sylw. Felly, rhaid i’r meddyg sy’n archwilio sicrhau bod y plentyn yn deall yn llawn natur yr archwiliad meddygol a sut y gallai’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu gael ei rhannu ag eraill.
Os bernir nad yw’r plentyn yn gymwys yn ôl Fraser/Gillick, dylid cael cydsyniad gan berson â chyfrifoldeb rhiant. Fodd bynnag, gall y plentyn dal wrthod archwiliad.
Yn achos plentyn dan 16, bydd angen cydsyniad ar sail gwybodaeth gan berson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, yn ysgrifenedig os yn bosib, cyn i archwiliad meddygol amddiffyn plant ddigwydd.
Pan fo plentyn eisoes yn destun achos llys, mae angen cydsyniad gan yr un llys. Os yw’r plentyn yn destun Gorchymyn Gofal, gweler trefniadau lleol o ran pwy yn yr awdurdod lleol all roi cydsyniad.
Er mwyn i’r cydsyniad fod ar sail gwybodaeth, rhaid i’r meddyg siarad yn uniongyrchol gyda’r person â chyfrifoldeb rhiant ac:
Dylid ceisio cael cydsyniad wyneb yn wyneb bob tro, hynny yw, gyda’r rhiant yn bresennol gyda’r plentyn. Fodd bynnag, os nad yw’r rhiant yn gallu neu’n dymuno bod yn bresennol, bydd angen i’r meddyg benderfynu ar ba gamau sydd angen eu rhoi ar waith i gael cydsyniad dilys.
Dim ond mewn achos o argyfwng meddygol lle mae angen triniaeth feddygol frys ar y plentyn y gellir bwrw ymlaen heb gydsyniad.
Gellir defnyddio Gorchymyn Asesu Plentyn os yw’r rhieni yn parhau i wrthod mynediad at y plentyn er mwyn cadarnhau ffeithiau sylfaenol am gyflwr y plentyn, ond nad yw’r pryderon am ddiogelwch y plentyn mor argyfyngus fel bod galw am Orchymyn Amddiffyn Brys.
Mae’r Gorchymyn yn galluogi’r Llys i gyfarwyddo’r rhieni i gydweithio ag asesiad, y bydd ei fanylion yn fanwl, ond nid yw’n galluogi i’r plentyn gael ei symud o’r cartref.
Nid yw’r Gorchymyn yn tynnu hawl y plentyn i wrthod asesiad oddi arno. Dylid rhoi gwybod i’r rhieni am y camau cyfreithiol y gellid eu defnyddio.
Dylai hyn gynnwys:
Dylai’r meddyg sy’n cynnal yr archwiliad arwyddo’r hysbysebiad ac unrhyw ddiagramau, a rhoi dyddiad arno.