Rhannu Cymraeg English

Ymholiadau Adran 47: dadansoddi a gwneud penderfyniadau

Adref 3 rhan 1

Mewn rhai achosion, dim ond un strategaeth/trafodaeth fydd angen i gasglu a dadansoddi gwybodaeth am bryderon. Fodd bynnag, mae teuluoedd a’u sefyllfaoedd yn gymhleth; felly, gall strategaeth/cyfarfod ar ganlyniadau fod o gymorth i wneud penderfyniad ar y camau nesaf. Yn y drafodaeth/cyfarfod yma dylai ymarferwyr:

  • ddadansoddi a gwneud synnwyr o’r wybodaeth a gasglwyd;
  • defnyddio’r dadansoddiad a gwneud penderfyniad am ganlyniadau’r ymholiadau.

Dadansoddi a gwneud synnwyr o’r wybodaeth a gasglwyd

Dylai’r dadansoddiad ystyried a yw’r plentyn mewn perygl o niwed sylweddol, a dylid ystyried y canlynol:

  • Beth yw’r pryderon proffesiynol o ran diogelwch ac anghenion gofal a chymorth y plentyn hwn?
  • Sut mae’r rhain yn effeithio ar iechyd a lles y plentyn ac safon ei brofiad byw?
  • Beth yw agwedd y rhieni at bryderon proffesiynol? Ydyn nhw’n rhannu’r pryderon, a/neu oes ganddynt bryderon gwahanol?
  • Beth yw dymuniadau a theimladau’r plentyn/plant am eu profiad o fyw, a beth hoffen nhw ei newid?
  • Pa gryfderau a nodwyd? Ydyn nhw’n ddigonol i sicrhau nad yw’r plentyn yn profi niwed sylweddol yn y tymor hir?
  • Sut mae ffactorau economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar y plentyn/plant a’u teulu?
  • A yw materion yn ymwneud ag oedolion yn effeithio ar allu rhianta, ac os felly, sut?

Awgrymiadau Ymarfer: Dadansoddi a Gwneud Penderfyniadau

Defnyddio dadansoddiad adran 47 a gwneud penderfyniadau: ‘gwneud penderfyniadau’

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn gyfrifol am benderfynu pa gamau gweithredu i’w cymryd a sut i fwrw ymlaen, yn dilyn ymholiadau adran s47.

  • Gwneir hyn yn dilyn trafodaeth rhwng pawb sydd wedi bod yn cynnal ymholiadau, neu wedi bod â rhan sylweddol ynddynt o’r gwahanol asiantaethau.
  • Dylid cytuno ar fformat y trafodaethau hyn rhwng ymarferwyr yn y cyfarfod strategol cychwynnol, a’u hadolygu wrth i’r ymholiad fynd yn ei flaen.
  • Mewn amgylchiadau cymhleth, y ffordd fwyaf effeithiol o drafod lles y plentyn a chynllunio camau gweithredu yn y dyfodol yw mewn cyfarfod. Dylai cofnod o’r drafodaeth fod yn unol â fformat a gytunir rhwng partneriaid.
  • Os oes sail i’r pryderon a bernir bod y plentyn mewn perygl o niwed sylweddol, dylid cynnull cynhadledd amddiffyn plant gan y gwasanaethau cymdeithasol o fewn 15 diwrnod gwaith o’r cyfarfod strategaeth a bennodd fod angen ymholiadau adran 47.

Y canlyniadau i’w hystyried yw:

Penderfyniad 1: Nid yw pryderon o ran Niwed Sylweddol wedi’u Cadarnhau

Penderfyniad 2: Mae Sail i Bryderon am Niwed Sylweddol ond nid yw’r Plentyn mewn Perygl o Niwed Sylweddol Parhaus

  • Gall anghenion diogelwch a lles y dyfodol gael eu datblygu heb gael cynhadledd amddiffyn plant. Dylai Rhan 3 (Asesiad Lles) gael ei chwblhau, gyda chydsyniad rhieni ac ystyriaeth o unrhyw anghenion gofal a chymorth.

Penderfyniad 3: Mae Sail i Bryderon, a Bernir bod y Plentyn yn Wynebu neu Mewn Perygl o gael ei Gam-drin, Niweidio ac Esgeuluso.

  • Risg barhaus o niwed sylweddol. Dylai’r Gwasanaethau cymdeithasol gynllun cynhadledd amddiffyn plant.