Rhannu Cymraeg English

Y Cynllun amddiffyn gofal a chymorth amlinellol

Adref 3 rhan 2

Pan gaiff enw plentyn ei roi ar y gofrestr amddiffyn plant, nid yw’r weithred o gofrestru yn ei hun yn rhoi amddiffyniad i blentyn. Rhaid i gynllun amddiffyn gofal a chymorth bob amser fynd llaw yn llaw felly â’r cofrestru.

Os nad oes cynllun amddiffyn gofal a chymorth eisoes ar waith, dylid cynnal asesiad dan Ran 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a rhoi cynllun ar waith.

Dylai’r cynllun gynnwys holl elfennau’r cynllun sy’n ofynnol dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond gan bwysleisio’r camau amddiffyn neu reoli risg er mwyn sicrhau canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

Rhaid llunio cynllun amddiffyn gofal a chymorth amlasiantaethol am bob plentyn â’i enw ar y gofrestr amddiffyn plant.

Dylai’r cynllun gael ei ddatblygu mewn dau gam.

  • Bydd cynllun amlinellol cychwynnol yn cael ei lunio yn ystod y gynhadledd amddiffyn plant; ac
  • Yn cael ei ddatblygu yn gynllun manwl yn ystod cyfarfod cyntaf y grŵp craidd.

Dylai’r gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol drafod a chytuno ar yr elfennau canlynol o’r cynllun amddiffyn plant amlinellol ar gyfer pob un plentyn sy’n cael ei gofrestru:

  • y risgiau o niwed i’r plentyn;
  • y ffordd y bydd cynllun amlasiantaethol yn amddiffyn y plentyn;
  • y canlyniadau a gynlluniwyd i’w cyflawni yn y tymor byr ac yn y hirdymor, yn glir;
  • cysylltu canlyniadau â lleihau’r risgiau o niwed i’r plentyn a hyrwyddo llesiant y plentyn;
  • darparu unrhyw gymorth, triniaeth neu therapi, gan gynnwys eiriolaeth barhaus;
  • nodi pwy fydd yn gyfrifol am ba gamau gweithredu, ac o fewn yr amserlenni
  • amserlenni;
  • penderfynu trefniadau i fonitro a gwerthuso cynnydd yn erbyn y cynllun;
  • nodi’r ymarferwyr fydd yn monitro cynnydd y plentyn, datblygu, llesiant a diogelwch, a sut;
  • mae rhaid i’r cynllun amlinellol ystyried dymuniadau a theimladau’r plentyn, yn ogystal â barn y rhieni, cyhyd â bod hynny’n gyson â llesiant y plentyn.

O fewn pum diwrnod gwaith dylid dosbarthu copi o’r cynllun amlinellol a chrynodeb o’r penderfyniadau a wnaed yn y gynhadledd amddiffyn plant cychwynnol gan gynnwys dyddiad y gynhadledd nesaf i’r rhai a gafodd eu gwahodd ac oedd yn bresennol yn y gynhadledd ac i aelodau’r grŵp craidd.

Awgrymiadau Ymarfer: Paratoi Cynlluniau Amlinellol