Rhannu Cymraeg English

Y broses benderfynu yn ystod cynhadledd amddiffyn plant gychwynnol

Adref 3 rhan 2

CRYNHOI GWYBODAETH AM RISG O NIWED SYLWEDDOL

Ystyriwch: beth rydym yn ei wybod am achos y niwed a'r effaith ar y plentyn?

Beth yw ein pryderon ynghylch capasiti rhianta, ffactorau teuluol ac amgylcheddol?

Beth rydym yn ei wybod am ffactorau amddiffynol a chyrfderau teuluol?

arrow

GWNEUD SENSE O'R WYBODAETH I SEFYDLU PAM MAE ARFERION YN CAEL EU CADW

Ystyriwch: a yw risg o niwed a phryderon ynghylch gallu rhianta yn gorbwyso cryfderau teulu a ffactorau amddiffynnol?

arrow

GWNEUD PENDERFYNIAD

Yn ol ein barn fel ymarferwyr a ywr plentyn yn wynebu risg parhaus o niwed?

Os ydyw, ystyriwch gofrestriad

Os nad ydyw a oes angen cynllun cymorth?

arrow

COFRESTRU

Ystyriwch: pa gategori/ïau sy'n disgrifio'r risg parhaus o niwed orau?

arrow

DATBLYGU CYNLLUN AMDDIFFYN GOFAL A CHYMORTH

Ystyriwch: beth sydd angen ei newid?

Beth mae'n rhaid i rieni ei wneud?

Sut gall ymarferwyr hwyluso a chefnogi newid?

Pwy ddylai fod yn y grŵp craidd?

Dylai ymarferwyr sy’n cyfrannu at y gynhadledd bennu’r canlynol yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael:

ac

Mewn achosion o’r fath, dylid ystyried y canlynol er mwyn pennu hynny:

neu

Rhaid ystyried barn y plentyn a’r teulu o ran y risg o niwed ac mae’n rhaid cymryd eu barn i ystyriaeth, ond yr ymarferwyr yn y gynhadledd fydd yn gwneud un o’r penderfyniadau canlynol:

Wrth wneud y penderfyniadau hyn, mae’n rhaid i’r ymarferwyr gydnabod:

Penderfyniad y gynhadledd 1: Nid yw’r plentyn mewn perygl parhaus o niwed, ond gallai fod ganddo anghenion gofal a chymorth

Os bydd pob partner yn cytuno ar y penderfyniad hwn, dylid annog y rhieni i barhau â’r asesiad llesiant dan Ran 3 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i bennu pa ofal a chymorth gallai helpu i hyrwyddo llesiant y plentyn orau.

Penderfyniad y gynhadledd 2: Caiff y plentyn sy’n dioddef niwed neu sydd mewn perygl o niwed ei roi ar y gofrestr ac mae’n destun cynllun amddiffyn gofal a chymorth

Dylai cynllun amddiffyn, gofal a chymorth ddilyn y gofynion a nodir dan Ran 4 Adran 54 Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru )2014.

Yn ogystal â’r gofynion dan Ran 4, nod y cynllun yn gyffredinol yw:

Dod i benderfyniad

Dylai’r gwaith o ddadansoddi a gwneud synnwyr o’r wybodaeth sy’n cael ei rhannu yn y gynhadledd lywio’r broses penderfynu yn ogystal â bod yn sail ar gyfer cynllunio ar gyfer dyfodol y plentyn.

Dylai’r gynhadledd ddilyn proses strwythuredig er mwyn dod i benderfyniad o ran a ddylid rhoi enw’r plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant.

Dylai’r broses fod fel a ganlyn:

Ni ddylid caniatáu i’r drafodaeth yn y gynhadledd ganolbwyntio ar gofrestru’n unig. Dylid rhoi amser a sylw i lunio cynllun amddiffyn gofal a chymorth os oes angen.

Dylai pob person yn y gynhadledd ac eithrio aelodau’r teulu neu’r bobl sydd yn y gynhadledd fel cymorth i’r rhieni, fynegi ei farn ar yr angen am gynllun gofal, cymorth ac amddiffyn ac am gofrestru’r plentyn. Ni fyddai disgwyl i aelodau CAFCASS Cymru fynegi barn ar gofrestru fel arfer. Dylid gofyn am farn rhieni, plant (lle bo’n briodol) ac aelodau’r teulu hefyd, ond yr ymarferwyr fyddai’n gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol.

Awgrymiadau Ymarfer: Ymarferwyr yn Mynychu Cynadleddau Amddiffyn Plant - Negeseuon Allweddol

Gwneud penderfyniadau yn ystod cynadleddau amddiffyn plant pan na cheir consensws

Mewn nifer o gynadleddau bydd consensws o blaid neu yn erbyn cofrestru a chategori/categorïau’r cofrestru. Os nad oes cytundeb:

Dylai cofnodion y gynhadledd adlewyrchu’r farn wahanol a fynegir yn y gynhadledd, gan gynnwys unrhyw bryderon sydd gan y cadeirydd ynghylch pa mor addas yw’r penderfyniad.

Os bydd y diffyg consensws yn ymwneud â gwahaniaethau rhwng ymarferwyr, mae’n bosibl y bydd angen defnyddio datrysiad gwahaniaethau proffesiynol y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn hwyrach.

Dylai grwpiau o gynrychiolwyr asiantaeth gael ei drefnu gan y Byrddau Diogelu Rhanbarthol.

Gohirio penderfyniad mewn cynhadledd amddiffyn plant

Nid yw gohirio penderfyniad am gofrestru yn arfer da mewn cynhadledd amddiffyn plant.

Fodd bynnag, gall fod yn fwy addas gohirio galw cynhadledd amddiffyn plant gychwynnol os na fydd prif elfennau’r wybodaeth ar gael er mwyn gallu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch y risg i’r plentyn a phenderfynu a ddylid rhoi enw’r plentyn ar y gofrestr.

Os oes digon o wybodaeth y gellir seilio’r penderfyniad arni, mae’n debygol y bydd y gynhadledd yn penderfynu peidio â rhoi enw’r plentyn ar y gofrestr, ac yn argymell y dylid cwblhau’r asesiad cymesurol a dylid rhoi gwybodaeth fwy clir ynghylch y plentyn a’r teulu.

Rhaid i’r gynhadledd, a’r cadeirydd yn arbennig, fod yn fodlon nad oes unrhyw arwyddion amlwg o risg i’r plentyn ar unwaith. Dylid pennu’r dyddiad ar gyfer y gynhadledd amddiffyn plant nesaf.