Rôl y gweithiwr cymdeithasol (cydlynydd cynllun amddiffyn, gofal a chymorth)
Adref 4
Mae disgwyl i’r awdurdod lleol, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, baratoi a chynnal y cynllun amddiffyn, gofal a chymorth.
Mae cydlynydd y cynllun amddiffyn, gofal a chymorth , y cyfeirir ato fel y gweithiwr cymdeithasol hefyd, yn bennaf gyfrifol am y cynllun ar ran yr awdurdod lleol.
Rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol fod yn gyflogedig gan y gwasanaethau cymdeithasol, wedi ei gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a meddu ar gymwysterau, hyfforddiant a phrofiad priodol i ymgymryd â rôl y cydlynydd cynlluniau gofal a chymorth.
Cod Ymarfer Rhan 4 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Dylai cadeirydd y gynhadledd amddiffyn plant gyntaf sicrhau bod y gweithiwr cymdeithasol, sef y person a fydd yn gydlynydd y cynllun amddiffyn, gofal a chymorth, yn cael ei nodi.
Dylid cofnodi hyn yn y gynhadledd hefyd.
Os nad oes gweithiwr cymdeithasol a nodwyd sydd a chyfrifoldeb fel cydlynydd cynlluniau gofal a chymorth, rhaid rhoi gwybod yn syth i’r uwch reolwr perthnasol sy’n gyfrifol am ddiogelu yn y gwasanaethau cymdeithasol.
Cyfrifoldebau’r gweithiwr cymdeithasol (y cydlynydd cynllun gofal a chymorth)
Dylai’r gweithiwr cymdeithasol:
- ymgysylltu’n weithredol gyda’r plentyn gan gynnwys:
- gweld y plentyn ar ei ben ei hun o leiaf bob 10 diwrnod gwaith a sicrhau bod y plentyn yn cael ei weld yn y cartref o leiaf bob 4 wythnos. ((yn absenoldeb y gweithiwr cymdeithasol a nodwyd rhaid i’r rheolwr tîm/rheolwr llinell sicrhau bod yr ymweliadau hyn yn cael eu cynnal);
- bod yn ymwybodol bod ‘gweld’ y plentyn yn golygu, (yn dibynnu ar oedran, cam datblygu ac anabledd) cael gwybod am newidiadau i’w fywyd sy’n arwain at roi cynllun amddiffyn, gofal a chymorth ar waith yn ogystal â’i ddymuniadau a’i deimladau; gan sicrhau y gwelir ystafell wely’r plentyn o leiaf unwaith rhwng cynadleddau adolygu.
- cymryd yr awenau amlasiantaethol a gweithio gyda’r plentyn a’r teulu fel bod ganddynt:
- ddealltwriaeth glir o’r rhesymeg ar gyfer y cynllun a’r canlyniadau a gynllunnir;
- dealltwriaeth o’r rhesymau dros y cynllun; y camau gweithredu y mae angen iddynt eu cwblhau a’r cymorth y byddant yn ei gael
- cymhelliant a’r gallu i weithio yn unol â’r cynllun er mwyn cyflawni canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
- gwybodaeth o’u hawl i wneud cwyn a sut i wneud hynny.
- Cydlynu’r gwaith o baratoi, cwblhau, adolygu, cyflawni ac adolygu’r cynllun.
Mae hyn yn cynnwys:
- sicrhau bod y cynllun amlinellol wedi’i ddatblygu ymhellach yn y grŵp craidd cyntaf yn gynllun gwaith amlasiantaeth mwy manwl;
- cydlynu’r gwaith o gwblhau asesiadau o anghenion y plentyn a’r teulu a chomisiynu unrhyw asesiadau arbenigol;
- cydlynu cyfraniadau aelodau teulu ac asiantaethau eraill er mwyn gweithredu’r cynllun;
- sicrhau bod pob grŵp craidd yn adolygu cynnydd canlyniadau ar gyfer diogelwch a llesiant y plentyn mewn perthynas â chynllun amddiffyn, gofal a chymorth y plentyn;
- creu ffocws ar gyfathrebu rhwng pob ymarferydd ac aelod teulu;
- cwblhau cofnodion asesiadau’r achos a chynnydd y cynllun;
- paratoi adroddiadau ar gyfer cynadleddau adolygu, gan ddefnyddio cyfraniadau aelodau’r grŵp craidd;
- rhoi gwybod i geidwad y gofrestr amddiffyn plant yn syth am unrhyw wybodaeth berthnasol megis newidiadau i gartref y plentyn, fel y gellir diweddaru’r gofrestr;
- rhoi gwybod i ymarferwyr am newidiadau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau i gyfeiriad lle mae’r plentyn yn byw, yn ogystal â manylion pobl newydd a allai fod yn ymweld â’r tŷ’n rheolaidd.
Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newid i gydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth ar lafar a’i gadarnhau’n ysgrifenedig i’r holl asiantaethau perthnasol a’r teulu gan y gweithiwr cymdeithasol sy’n rhoi’r gorau i gyfrifoldeb neu’i reolwr llinell sy’n goruchwylio. Hefyd rhaid newid y Gofrestr Amddiffyn Plant yn brydlon.