Rhannu Cymraeg English

Cynnwys y rhieni/gofalwyr yn rhan o’r cynllun

Adref 4

Mae cynllun amddiffyn, gofal a chymorth yn dibynnu ar deulu’n ymgysylltu’n weithredol â’r grŵp craidd a chymryd rhan yn y gwaith o weithredu’r cynllun. Rhaid i’r rhan y maent yn ei chymryd ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y plentyn . Mae cyd-greu'n hanfodol. Mae’r teulu’n fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn gwaith sy’n ymwneud â’r cynllun os:

  • ydynt yn credu eu bod yn gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr
  • yw ymarferwyr yn bod yn agored ac yn onest
  • yw’u cryfderau’n cael eu cydnabod
  • yw ymarferwyr yn dangos eu bod yn cefnogi ac yn darparu gwasanaethau i alluogi’r rhiant/rhieni a’r gofalwyr i wneud newidiadau angenrheidiol fel y gallant fodloni anghenion y plentyn.

Sicrhau bod rhieni’n cymryd rhan mewn gwaith sy’n ymwneud â’r cynllun

Mae rhieni/gofalwyr yn fwy tebygol o gymryd rhan y gwaith hwn a’r gwaith o gyd-greu’r cynllun os:

  • ydynt yn deall pam mae eu plentyn yn destun cofrestriad amddiffyn plant;
  • ydynt yn deall yn glir y canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y plentyn wedi’u cynllunio;
  • nad yw cynnwys y cynllun yn drech na nhw, ond bod blaenoriaethau wedi’u pennu a bod cynnydd yn cael ei fesur yn raddol, gan ystyried anghenion y plentyn;
  • ydynt yn derbyn y cynllun ac yn fodlon gweithio yn unol ag ef er mwyn gwella profiad y plentyn o fywyd bob dydd;
  • ydynt yn gwerthfawrogi’r hyn mae angen ei newid a pham;
  • ydynt yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt yn rhan o’r cynllun;
  • ydynt yn gwybod sut y cânt eu cefnogi a’u cynorthwyo gan ymarferwyr;
  • yw cymorth ymarferol megis gofal plant, teithio, lleoliad ac amser cyfarfodydd yn ystyried amgylchiadau ac anghenion penodol y teulu;
  • oes disgwyl i’r teulu gadw apwyntiadau, mae’n bwysig bod disgwyl i ymarferwyr gadw atynt hefyd;
  • ydynt yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros gwasanaethau;
  • ydynt yn deall a gwybod eu dewis iaith. Mae angen gwneud trefniadau i gynnal cyfarfodydd yn y dewis iaith;
  • eir i’r afael ag anghenion penodol rhieni sydd ag anableddau dysgu a/neu anawsterau cyfathrebu, er enghraifft, yn y ddogfennaeth y maent yn ei derbyn a’r cymorth y maent yn ei gael i ddeall y cynllun, y rhesymeg y tu ôl iddo a’r disgwyliadau;
  • yw ymarferwyr yn cydnabod ei bod yn bosibl nad yw rhai teuluoedd, megis teuluoedd sy’n ffoaduriaid, yn deall y gyfraith sy’n ymwneud â diogelu plant. O ganlyniad, mae’n bosibl nad ydynt yn gwybod pam y gofynnwyd iddynt fynychu grwpiau craidd, neu pam mae ymarferwyr yn ymwneud â’r teulu.

Wrth ymgysylltu â theuluoedd mae’n bwysig bod ymarferwyr yn:

  • peidio â defnyddio mwytheiriau ond bod yn eglur er enghraifft, yn lle dweud bod y tŷ’n ‘frwnt’, dylai fod yn eglur ‘mae arwynebau’r gegin wedi’u gorchuddio gan weddillion bwyd, mae’r sinc yn llawn llestri brwnt, mae’r toiled wedi’i staenio ac mae cylchau brwnt o gwmpas sinc yr ystafell ymolchi’;
  • osgoi peidio â bod yn benodol rhag ofn eu bod yn gofidio neu’n niweidio perthnasau gyda’r teulu;
  • peidio â defnyddio termau proffesiynol neu ymbarél megis esgeulustod , ‘methu ffynnu’ sy’n ddiystyr i’r teulu;
  • osgoi gwneud yr iaith a ddefnyddir i ddisgrifio sefyllfaoedd yn briodol, er enghraifft, nid oes gan ‘ddelweddau amhriodol’ lawer o ystyr;
  • onest ac yn dweud pan nad ydynt yn deall rhywbeth;
  • cynnwys tadau a phobl sy’n gweithredu fel tadau’n rheolaidd1;
  • cynnwys oedolion eraill sydd â rôl sylweddol ym mywyd y plentyn.

Gwahardd rhiant/gofalwr o’r grŵp craidd

Mewn rhai achosion, gallai fod angen gwahardd rhiant/gofalwr rhag cymryd rhan yn y grŵp craidd. Os yw hyn yn wir:

  • dylai amgylchiadau pan allai hyn ddigwydd, megis sefyllfaoedd y teulu sy’n cynnwys cam-drin domestig ac aflonyddwch, fod wedi’u hystyried yn y gynhadledd amddiffyn plant gyntaf.
  • rhaid cofnodi cytundeb diamwys yn glir ar ffeil y plentyn sy’n amlinellu’r mesurau sydd yn eu lle ac sydd wedi eu cytuno gan y rhiant a eithriwyd a’r gweithiwr cymdeithasol o ran cyfathrebu a chyfranogi yn y broses.
  • dylid gwneud cynlluniau eraill i sicrhau bod y rhiant yn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan ei alluogi o hyd i gyfrannu at y cynllun pan fo’n briodol.
  • mewn achosion pan fo penderfyniad yn cael ei wneud i wahardd rhiant o grŵp craidd, rhaid i’r penderfyniad hwn a’r rhesymeg gael eu cynnwys yn rhan o gofnodion y grŵp craidd er gwybodaeth yn y dyfodol.

Diffyg cymryd rhan yn y cynllun gan y teulu

Mae angen i rieni/gofalwr plant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant ddangos ymrwymiad i’r cynllun yn ogystal â gwneud ymdrech i newid ymddygiad. Efallai na fydd gan rai’r gallu a/neu’r ysgogiad i gymryd rhan weithredol yn y cynllun.

Gall y diffyg cymryd rhan hwn arwain at rieni yn:

  • ymgysylltu ag ymarferwyr mewn modd tocynistaidd a chwblhau tasgau nad ydynt o reidrwydd yn arwain at ganlyniadau sy’n canolbwyntio ar y plentyn;
Er enghraifft, maent yn mynychu’r nifer gofynnol o sesiynau rhianta, ond nid yw hyn yn cael effaith ar fywyd y plentyn.
  • sicrhau ymarferwyr y byddant yn cwblhau tasgau ond ddim yn llwyddo i wneud hynny;
Er enghraifft, mae’n ymddangos bod gan y rhiant argyfwng trwy’r amser neu esgusion am fethu â mynd i apwyntiadau ac ati.
  • osgoi cyswllt gyda’r ymarferydd;
Er enghraifft, methu â chadw apwyntiadau, symud neu beidio â mynd i sesiynau y cytunwyd arnynt heb esgus digonol.
  • bod yn ymosodol neu’n herfeiddiol yn gorfforol neu ar lafar.
Er enghraifft, bygwth ymarferwyr, peidio â’u gadael i ddod i mewn i’r tŷ.

Er, mewn rhai achosion, mae diffyg cymryd rhan yn dangos methiant i ymrwymo i’r cynllun a chanlyniadau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, nid yw hyn bob amser yn wir. Felly, dylai’r grŵp craidd fod yn benodol am yr ymddygiad sy’n dangos diffyg cymryd rhan ac yn asesu’r hyn mae’r ymddygiad hwn yn ei ddangos.

Er enghraifft: Ydy’r rhiant yn ofni dweud na all ymdopi ac felly’n gwneud esgusion i beidio â mynychu’r grŵp craidd neu ymyriadau penodol?

Ydy’r rhiant heb y gallu i ddefnyddio’r hyn a ddeallwyd ac a ddysgwyd ar gyfer ei sefyllfa teuluol ei hun?

A ddisgwylir i’r rhiant/rhieni gwblhau tasgau sy’n anodd eu cyflawni oherwydd materion ymarferol megis gofal plant, trafnidiaeth?

Ydy’r rhiant/rhieni’n ymosodol yn llafar oherwydd ei fod/eu bod yn ofni colli ei blentyn/eu plentyn?

Ydy ymarferwyr yn darparu cymorth ac ymyriadau sy’n rhan o’r cynllun?

Oes gan y rhiant/rhieni berthynas agored ac onest gydag ymarferwyr?

D.S. nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr

Os, ar ôl asesu’r diffyg ymgysylltu, nad yw’n bosib bwrw ymlaen i weithredu’r cynllun amddiffyn, gofal a chymorth, mae angen tynnu hyn i sylw’r rheolwr tîm perthnasol yn y gwasanaethau cymdeithasol gyda golwg ar geisio barn gyfreithiol. Dylai’r cam hwn oedi tan y cynhelir cynhadledd adolygu pellach. Os oes angen cynnal cynhadledd adolygu’n gynharach, dylai’r cydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth mewn ymgynghoriad â’r rheolwr tîm perthnasol a chadeirydd y gynhadledd ailgynnull y gynhadledd amddiffyn plant.

Awgrymiadau Ymarfer: Pethau sy’n dylanwadau ar rieni i gymryd rhan barhaol yn y cynllun


1www.scie.org.uk