Rhannu Cymraeg English

Cyfranogiad y plentyn a gweld y plentyn

Adref 4

Mae’n hanfodol bod ymarferwyr yn ymgysylltu â phob plentyn yn y teulu sydd ar y gofrestr i gael gwybod a yw’r cynllun yn gwella ansawdd ei fywyd a’i amddiffyn rhag niwed.

Mae ymgysylltu effeithiol yn fwy na bod yn bresennol mewn cyfarfodydd grŵp craidd . Disgwylir i gydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth ‘weld’ y plentyn ar ei ben ei hun bob 10 diwrnod gwaith a dylid cael cyfarfod bob 4 wythnos yng nghartref y plentyn.

Mae hawl gan blant a phobl ifanc i gael cynnig rhagweithiol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA) statudol lle y deuant yn blant sy’n derbyn gofal neu sy’n destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol.

’Gweld’ y plentyn

Mae gweld y plentyn yn llawer mwy na’i weld yn gorfforol. Mae’n golygu ymgysylltu â’r plentyn gan ystyried ei oed, ei ddatblygiad a’i anghenion unigol. Y nod yw:

  • deall sut beth yw bywyd iddo;
  • cael gwybod am ei ddymuniadau a’i deimladau;
  • galluogi plant i gyfathrebu mewn ffordd sy’n gyfforddus iddynt e.e. trwy ddefnyddio dyluniadau, chwarae, ar lafar;
  • arsylwi ar ei ymddygiad a rhyngweithiadau gydag aelodau teulu;
  • deall byd y plentyn trwy ddefnyddio offer amrywiol ac ati.1

Ymgysylltu â phlentyn ar gynllun amddiffyn, gofal a chymorth

Mae ymgysylltu effeithiol yn golygu:

  • Rhoi gwybodaeth i’r plentyn fel ei fod yn deall pryderon ymarferwyr a pham maent yn ymwneud â’i fywyd;
  • Rhoi cyfle iddo fynegi ei ddymuniadau, ei deimladau a’i farn o ran effaith y cynllun ar ei fywyd bob dydd;
  • Cymryd ei farn o ddifrif a sicrhau bod ei farn yn cael ei hystyried gan y grŵp craidd ac mewn cynadleddau adolygu

Mae’n bwysig bod pob plentyn mewn teulu sy’n destun cynllun yn cael cyfleoedd i gwrdd â’r cydlynydd amddiffyn, gofal a chymorth ar ei ben ei hun. Mae hyn yn sicrhau bod eu anghenion a’u barn penodol yn cael eu hystyried heb bobl eraill yn dylanwadu arnynt.

Rhaid ystyried defnyddio eiriolwr ar bob cam o’r broses amddiffyn plant ar gyfer y plentyn. Nid yw’r cynnig o eiriolwr yn ddigwyddiad “un tro” a dylid ei ailgynnig ar bob cam. Dylid nodi bod y cynnig rhagweithiol fel a ganlyn:

Presenoldeb y plentyn mewn grwpiau craidd

Yn dibynnu ar oedran/lefel ddealltwriaeth y plentyn, gallai fod yn briodol iddo gael cyfle i fynychu’r grŵp craidd.

Wrth wneud y penderfyniad hwn dylid ystyried y canlynol:

  • beth yw barn y plentyn neu berson ifanc? Ydyn nhw am fynychu’n bersonol, cael eiriolwr neu am i’w barn gael ei chyflwyno i’r grŵp craidd mewn ffordd arall?
  • ydy’r ymarferwyr sy’n adnabod y plentyn yn credu ei bod yn briodol iddo fynychu?
  • beth yw’r effaith bosibl ar berthnasau teuluol?

Os yw’r plentyn yn mynychu grŵp craidd, wedyn:

  • dylai lleoliadau ac amser y cyfarfodydd ystyried ei anghenion;
  • dylid gwneud pob ymdrech i hwyluso cyfranogiad gweithredol heb ddiystyru nod y cyfarfod a’r cynllun

Pan nad yw plentyn mynychu’r grŵp craidd, y cydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth dynodedig fydd yn bennaf gyfrifol am:

  • gael gwybod barn y plentyn am y sefyllfa;
  • cael gwybod a yw’r plentyn yn teimlo’n ddiogel;
  • cael barn y plentyn ynghylch a yw ansawdd ei fywyd bob dydd wedi gwella.

Awgrymiadau Ymarfer: Hyrwyddo Cyfranogiad y Plentyn


Gwrthod mynediad i’r plentyn

Os gwrthodir mynediad ar unrhyw adeg i’r gweithiwr cymdeithasol neu ymarferwyr eraill o’r grŵp craidd neu os cânt eu hatal rhag gweld plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant, dylid rhoi gwybod i’r uwch reolwr perthnasol yn y gwasanaethau cymdeithasol, yn ogystal ag aelodau eraill y grŵp craidd. Dylai’r grŵp craidd gytuno’n ffurfiol y dylai asiantaeth arall gael cyswllt wyneb yn wyneb a/neu dylid trefnu cynhadledd adolygu amddiffyn plant. Dylai’r cydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth mewn ymgynghoriad â rheolwyr a chynghorwyr cyfreithiol ystyried a oes angen unrhyw ffurf ar gamau gweithredu er mwyn sicrhau bod y plentyn wedi’i amddiffyn. Ni ddylid oedi unrhyw gamau amddiffyn angenrheidiol i sicrhau diogelwch a llesiant unrhyw blentyn sydd mewn perygl o niwed sylweddol oherwydd y arhosir am cyfarfod grŵp craidd neu oherwydd bod cyfarfod ar ddigwydd.


1www.socialworkerstoolbox.com/ yn darparu offer, taflenni gwaith ac ati y gellir eu defnyddio i gyfathrebu â phlant am gynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth.