Mae angen paratoi a rheoli’r gynhadledd adolygu, yn ogystal ac ymrwymo iddi, yn yr un modd â’r gynhadledd gyntaf.
Y diben
Mae’r gynhadledd adolygu â’r dasg o benderfynu a yw plentyn ar y gofrestr yn parhau i fod mewn perygl o niwed sylweddol. Os yw hyn yn wir dylai’r gynhadledd ystyried:
- a ddylai’r categori cofrestru newid neu beidio;
- y cynllun amddiffyn, gofal a chymorth i ddiogelu ei lesiant ac i amddiffyn y plentyn rhag niwed;
- newidiadau sydd eu hangen i’r cynllun amddiffyn, gofal a chymorth.
Amseru
Dylid cynnal y gynhadledd adolygu amddiffyn plant gyntaf o fewn tri mis o’r gynhadledd gyntaf a dylid cynnal cynadleddau adolygu pellach yn rheolaidd (o leiaf pob chwe mis).
Mae’r tasgau ar gyfer y gynhadledd adolygu’n cynnwys:
- adolygu diogelwch, llesiant a datblygiad y plentyn yn erbyn y canlyniadau a gynlluniwyd ac a nodir yn y cynllun amddiffyn, gofal a chymorth;
- ystyried y wybodaeth a chasgliadau unrhyw asesiadau, gan gynnwys asesiadau arbenigol;
- gwerthuso llwyddiant y cynllun cyfredol o ran mynd i’r afael â’r pryderon gwreiddiol am niwed sylweddol a phenderfynu a ddylai’r cynllun barhau;
- sicrhau bod unrhyw gynllun parhaol yn diogelu’r plentyn yn ddigonol rhag niwed ac yn hybu ei lesiant;
- cael gwybod a yw cydlynu amlasiantaeth yn gweithredu’n effeithiol ac a yw aelodau’r grŵp craidd yn briodol;
- penderfynu a ddylai enw’r plentyn aros ar y gofrestr amddiffyn plant neu gael ei ddileu neu a ddylid newid categori’r cofrestriad.
Dylai pob cynhadledd adolygu ystyried yn benodol diogelwch, llesiant a datblygu’r plentyn yn erbyn y canlyniadau a nodir yn y cynllun amddiffyn, gofal a chymorth a sefydlu a yw’r plentyn mewn perygl parhaol o niwed sylweddol.
Dylid gwneud penderfyniad ar wahân i bob plentyn sy’n destun cynhadledd amddiffyn plant
Cadeirydd y gynhadledd
Er mwyn sicrhau cysondeb a dangos gwaith partneriaeth effeithiol mae’n arfer da i gadeirydd y gynhadledd amddiffyn plant gyntaf gadeirio cynadleddau adolygu dilynol.
Mae gan gadeirydd y gynhadledd adolygu yr un pwerau penderfynu ag yr oedd ganddo yn y gynhadledd amddiffyn plant gyntaf.
Presenoldeb
Mae’r cydlynydd cynlluniau cymorth gofal a chymorth yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl bobl briodol yn cael eu gwahodd i’r gynhadledd adolygu.
Dylai’r bobl yn y gynhadledd adolygu gynnwys:
- holl aelodau sy’n ymarferwyr o’r grŵp craidd;
- aelodau’r teulu;
- y plentyn a/neu ei eiriolwr os yn briodol;
- unrhyw asiantaethau perthnasol eraill megis y rheiny oedd yn bresennol yn y gynhadledd amddiffyn plant gyntaf.
Pan fo unrhyw rai o’r uchod yn absennol o’r gynhadledd adolygu a phan nad oes gwybodaeth ysgrifenedig ar gael, dylai cadeirydd y gynhadledd adolygu ystyried gohirio’r gynhadledd.
Mae angen yr un nifer o fynychwyr ag yr oedd ei angen yn y gynhadledd amddiffyn plant gyntaf, hynny yw, o leiaf tair asiantaeth neu grŵp proffesiynol, neu mewn amgylchiadau eithriadol ac fel y barno cadeirydd y gynhadledd, dwy asiantaeth neu grŵp proffesiynol.
Dylai [Byrddau Diogelu Rhanbarthol], trwy eu prosesau sicrwydd ansawdd, fonitro diffyg presenoldeb asiantaethau.
Cyfranogiad aelodau grŵp craidd mewn cynadleddau adolygu
Rhaid i aelodau sy’n ymarferwyr o’r grŵp craidd greu adroddiadau asiantaeth unigol a chronolegau wedi’u diweddar ar gyfer y gynhadledd adolygu.
Dylai’r adroddiadau hyn nodi:
- unrhyw gyswllt mae’r plentyn a’i deulu wedi’i gael gyda’r asiantaeth a natur unrhyw gyswllt perthnasol;
- crynodeb o waith y mae’r ymarferydd a’i asiantaeth wedi’i gwblhau ar y cynllun a’r canlyniadau wedi’u cyflawni yn erbyn yr hyn a ddisgwyliwyd;
- hanes y plentyn a’i deulu o ymgysylltu â’r asiantaeth, y pethau cadarnhaol a’r heriau, a’r effaith ar effeithiolrwydd y cynllun;
- Dadansoddiad o wybodaeth o ran a ddylai’r plentyn barhau i gael ei gofrestru a’r rhesymau dros hyn neu a ddylid ei dda-gofrestru ac os felly tystiolaeth nad yw’r plentyn mewn perygl o niwed sylweddol mwyach.
Dylai pob un o adroddiadau’r ymarferwyr gael eu rhannu wyneb yn wyneb â’r plentyn a’i deulu, pan fo’n briodol, i ennyn trafodaeth ac o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y gynhadledd adolygu.
Ar y cyd dylai’r adroddiadau hyn greu trosolwg cynhwysfawr o:
- y gwaith wedi’i wneud gan aelodau’r teulu ac ymarferwyr a’i effeithiolrwydd o ran cadw’r plentyn yn ddiogel rhag niwed;
- yr effaith ar lesiant y plentyn yn erbyn yr amcanion a’r canlyniadau a gynlluniwyd ac a nodir yn y cynllun amddiffyn plant.
Gwneud penderfyniadau mewn cynadleddau adolygu
Rhaid i benderfyniad y gynhadledd adolygu fod ar sail:
- dadansoddiad gofalus a thrwyadl o’r holl wybodaeth sydd ar gael, gan gynnwys yr adroddiadau ysgrifenedig gan y grŵp craidd;
- asesiadau wedi’u cwblhau;
- trafodaeth yn cynnwys pob aelod o’r gynhadledd;
- y cynllun cyfredol ac argymhellion y gynhadledd amddiffyn plant flaenorol i’w helpu i benderfynu a oes cynnydd wedi’i wneud.
Dylai cyfranogwyr y gynhadledd seilio eu dyfarniadau ar a ddylai’r plentyn barhau i gael ei gofrestru neu beidio trwy ystyried y canlynol.
- Ydy’r risg i’r plentyn wedi’i lleihau i’r graddau nad yw’r plentyn mewn perygl o niwed sylweddol mwyach?
- Ydy’r plentyn yn debygol o aros yn ddiogel rhag niwed heb barhau i fod â chynllun amddiffyn, gofal a chymorth?
- Pa dystiolaeth sydd gennym i ategu ein dyfarniadau?
- Beth yw barn y rhiant/gofalwyr ar gofrestru?
Dylid gofyn i aelodau sy’n ymarferwyr o’r grŵp craidd am eu barn cyn gofyn i aelodau eraill o’r gynhadledd am eu barn ynghylch a ddylai cofrestriad barhau.
Rôl cadeirydd y gynhadledd yw dod â barn pob aelod o’r gynhadledd ynghyd.
Canlyniadau
Ar ddiwedd pob cynhadledd adolygu, dylai cadeirydd y gynhadledd roi crynodeb. Bydd hyn yn cynorthwyo’r gynhadledd i benderfynu:
- a yw’r plentyn mewn perygl parhaol o niwed sylweddol ac felly y dylai aros ar y gofrestr amddiffyn plant;
a
- a ddylai’r categori cofrestru newid neu beidio.
Dylid cofnodi unrhyw farn anghydsyniol.
Cofnodi’r gynhadledd adolygu
Dylai’r cofnodion gynnwys:
- y rheswm dros gofrestru parhaol, categori a’r cynllun amddiffyn, gofal a chymorth diwygiedig;
- crynodeb o’r drafodaeth, penderfyniadau wedi’u gwneud a’r rhesymeg dros y penderfyniadau hyn;
- datganiad clir ynghylch dad-gofrestru neu barhau gyda’r cofrestriad a rhesymau;
- barn anghydsyniol neu anghytundebau gyda’r penderfyniad;
- nodyn ynghylch categori’r cofrestriad ac a oes angen newid y categori;
- unrhyw newidiadau i’r cydlynydd amddiffyn, gofal a chymorth neu aelodaeth y grŵp craidd;
- dyddiad y gynhadledd adolygu nesaf os bydd y cofrestriad yn parhau;
- unrhyw argymhellion ychwanegol.
Dylid anfon copi o’r cofnodion, sydd wedi’u cymeradwyo gan y cadeirydd, i bawb a wahoddwyd i’r gynhadledd adolygu o fewn 5 diwrnod gwaith i ddyddiad y gynhadledd.
Mae’r cofnodion yn gyfrinachol ac ni ddylid eu rhannu gydag ymarferwyr neu bartïon eraill heb ganiatâd y cadeirydd.
Dylai aelodau teulu sy’n rhan o’r grŵp craidd dderbyn y cofnodion. Os cafodd aelodau teulu eu gwahodd o ran o’r gynhadledd adolygu dylid addasu’r cofnodion yn briodol er mwyn adlewyrchu hyn.
Dod â chynhadledd adolygu ymlaen
Dylid dod â chynhadledd adolygu ymlaen os:
- oes newid sylweddol wedi bod i amgylchiadau a allai roi’r plentyn mewn perygl o niwed, er enghraifft mae canlyniad adran 47 wedi tynnu sylw at risgiau newydd i niwed sylweddol i blentyn sydd â chynllun amddiffyn, gofal a chymorth ar waith;
- oes mwy o ddigwyddiadau neu honiadau o niwed sylweddol wedi bod;
- nad yw’r cynllun yn diogelu’r plentyn rhag niwed;
- yw ymarferwyr yn cael trafferth sylweddol yn rhoi’r cynllun ar waith;
- yw’r cynllun wedi bod yn fwy llwyddiannus na’r disgwyl o ran diogelu’r plentyn rhag niwed a bod y grŵp craidd yn gofyn bod cynhadledd adolygu yn cael ei symud ymlaen i ystyried dad-gofrestru.
Dylai’r gweithiwr cymdeithasol drafod gyda’r rheolwr perthnasol y rhesymau dros symud y gynhadledd adolygu ymlaen. Wedyn dylai’r rheolwr ymgynghori â chadeirydd y gynhadledd. Byddant yn penderfynu ar a gaiff dyddiad y gynhadledd adolygu ei symud ymlaen neu beidio.
Os yw’r gynhadledd yn cael ei symud ymlaen i ystyried dad-gofrestru, dylai fod dealltwriaeth a rennir o’r tebygrwydd y bydd newid yn cael ei gynnal dros amser cyn rhuthro i ddad-gofretru.
Awgrymiadau Ymarfer: Arferion Cynhadledd Adolygu Effeithiol