Rhannu Cymraeg English

Dad-gofrestru

Adref 4

Gellir dileu enw plentyn oddi ar y gofrestr amddiffyn plant a’i nodi’n blentyn nad oes angen cynllun amddiffyn, gofal a chymorth arno os:

  • gwneir penderfyniad am hyn mewn cynhadledd adolygu;
  • os yw’r plentyn wedi troi’n 18 oed, wedi marw neu wedi gadael y DU yn barhaol.

Er ei bod yn briodol ystyried dileu enw plentyn oddi ar y gofrestr ym mhob cynhadledd adolygu, byddai dad-gofrestru yn y gynhadledd adolygu gyntaf ddim ond yn digwydd fel arfer os yw amgylchiadau’r plentyn wedi newid i’r fath graffau nad oes angen cynllun amddiffyn, gofal a chymorth arno mwyach.

Dylid rhoi rhesymau clir dros y penderfyniad hwn, gyda’r dystiolaeth o ran newidiadau i ansawdd bywyd y plentyn a’u cofnodi.

Ni ddylai plentyn fod yn destun cynllun amddiffyn, gofal a chymorth mwyach os:

  • y dyfernir, ar sail tystiolaeth, nad yw’r plentyn mewn perygl o niwed sylweddol y mae angen iddo gael ei amddiffyn rhagddo trwy gynllun amddiffyn, gofal a chymorth, mwyach;
  • yw’r plentyn a’i deulu wedi symud yn barhaol i ardal awdurdod lleol arall. Mewn achosion o’r fath, dylai’r awdurdod lleol sy’n ei dderbyn gynnal cynhadledd amddiffyn plant o fewn 15 diwrnod gwaith o gael gwybod am y symud parhaol, dim ond ar ôl cynnal cynhadledd trosglwyddo amddiffyn plant y dylai’r awdurdod lleol gwreiddiol derfynu cynllun amddiffyn, gofal a chymorth y plentyn a therfynu unrhyw ymwneud â’r plentyn/person ifanc a’i deulu;
  • os yw’r plentyn wedi troi’n 18 oed, wedi marw neu wedi gadael y DU yn barhaol.

Dylai’r penderfyniad ar ddad-gofrestru adlewyrchu consensws y gynhadledd adolygu.

Pan na cheir consensws, bydd cadeirydd y gynhadledd yn gwneud y penderfyniad.

Mae barn y rhieni/gofalwr a’r plant yn bwysig i’r gynhadledd, ond yr ymarferwyr fydd yn gwneud y penderfyniad ar gofrestriadau.

Dylai awdurdodau lleol:

  • roi gwybod i holl gynrychiolwyr asiantaethau a wahoddwyd i’r gynhadledd amddiffyn plant gyntaf a arweiniodd at y cynllun o leiaf;

a

  • thrafod gyda’r rhieni a’r plentyn eu hanghenion parhaus ar gyfer gofal a chymorth. Dylai’r drafodaeth hon fod wedi’i seilio ar asesiad parhaus o anghenion y plentyn o fewn ei deulu.

Gofal a chymorth parhaus yn dilyn dileu enw plentyn oddi ar y gofrestr amddiffyn plant

Ni ddylai dad-gofrestru fyth arwain at ofal a chymorth yn cael eu dileu’n awtomatig.

Mae’n rhaid ystyried y canlynol:

  • gwasanaethau trwy gynllun gofal a chymorth dan ran 4 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 https://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/contents gyda chytundeb y rhiant/gofalwr;
  • gwasanaethau cymorth a ddarperir, gyda chytundeb y rhiant/gofalwr, i helpu i gynnal yr amodau sydd wedi arwain at ddad-gofrestru.

Camau angenrheidiol pan fo ymarferydd yn credu nad yw plentyn ar y gofrestr yn cael ei ddiogelu’n ddigonol

Mae’n ddyletswydd ar bob ymarferydd i roi gwybod i’r cydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth am unrhyw newidiadau arwyddocaol neu newid o ran amgylchiadau sy’n berthnasol i’r plentyn. Ni ddylai hyn atal llunio adroddiad newydd yn achos nodi risgiau neu bryderon eraill, a dylid canlyn pryderon o’r fath yn ysgrifenedig. Ni ellir cymryd yn ganiataol bod plentyn ar y gofrestr yn ddiogel. Os oes gan unrhyw ymarferydd bryderon nad yw plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant yn cael ei ddiogelu’n briodol, rhaid tynnu sylw ei reolwr at hyn ar unwaith a rhaid dilyn prosesau uwchgyfeirio priodol.

Caiff cynhadledd adolygu ei chynnal fel sydd angen.

Newid dyddiad y gynhadledd adolygu fel y bydd yn gynt

Plant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol sy’n destun cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth

Pan fo plentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ac sy’n yn destun cynllun amddiffyn, gofal a chymorth, yr egwyddor flaenaf yw bod systemau a chynlluniau’n cael eu hintegreiddio a’u monitro’n ofalus mewn ffordd sy’n hyrwyddo agwedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

Mae’n bwysig cysylltu amseru cynhadledd adolygu’r cynllun amddiffyn, gofal a chymorth â’r adolygiad dan Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 i sicrhau bod gwybodaeth o’r gynhadledd honno’n cael ei chyflwyno yn y cyfarfod adolygu ac yn llywio’r broses gynllunio gofal gyffredinol.

Dylid cofio y gellir gwneud newidiadau sylweddol i ran 6 cynllun gofal a chymorth dim ond yn y cyfarfod adolygu plant sy’n derbyn gofal.

Gall y Swyddogion Adolygu Annibynnol perthnasol sy’n ymwneud â phlentyn sy’n derbyn gofal gadeirio cynadleddau amddiffyn plant yn ogystal ag adolygiadau plant sy’n derbyn gofal.

Rhaid rheoli hyn mewn ffordd sy’n sicrhau na chyfaddawdir ar annibyniaeth y Swyddogion Adolygu Annibynnol