Bydd y drafodaeth strategaeth broffesiynol bob amser yn cael ei chynnal â’r heddlu ac unrhyw asiantaethau/partneriaid priodol eraill. Fel rhan o’r broses hon bydd Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Oedolion yn ystyried rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac unrhyw gyrff proffesiynol perthnasol fel sy’n briodol. Dylent gael eu gwahodd i gymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod/drafodaeth strategaeth sy’n dilyn.
Dylai’r drafodaeth strategaeth ganolbwyntio ar y canlynol:
- A yw’r mater yn bodloni’r trothwy ar gyfer symud ymlaen at gyfarfod strategaeth proffesiynol ffurfiol
- Nodi unrhyw weithgareddau neu gyfrifoldebau gofalu ar gyfer plant neu oedolion y mae’r sawl y gwneir yr honiad yn ei erbyn â rhan ynddynt y tu allan i’w waith cyflogedig
- Ystyriaeth o gamau diogelu dros dro tra bo ymholiadau pellach yn cael eu gwneud
- Penderfyniad ynglŷn â pha wybodaeth y gellir ei rhannu â’r sawl y gwneir yr honiad yn ei erbyn, y plentyn neu’r oedolyn sy’n wynebu risg a’r rhiant/gofalwr
- Penderfyniadau ynglŷn â chyfranogiad y cyflogwr yn y broses
- Adolygu pa mor ddigonol yw’r camau diogelu sydd yn eu lle
- Cytuno ar unrhyw gamau gweithredu i’w cymryd neu unrhyw wybodaeth bellach y mae ei hangen cyn y cyfarfod strategaeth proffesiynol
- Penderfynu a oes angen briffiau ar unwaith i reolwyr.