Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Gwneud Adroddiad

Wrth gasglu gwybodaeth ynghyd i wneud adroddiad i’r gwasanaethau cymdeithasol dyma ddylai’r sawl sy’n gwneud yr adroddiad wneud:

  • Bod yn barod i esbonio pam y tybia fod y plentyn yn dioddef niwed neu mewn perygl o wneud hynny: natur y pryderon a thystiolaeth i gefnogi hyn. A yw’r dystiolaeth yn seiliedig ar arsylwi, ffeithiau, barn neu achlust?
  • Bod â’r wybodaeth ar gyfer dolen i’w chlicio at arwyddion o gamdriniaeth esgeulustod a niwed adroddiad wrth law, cyn cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol, onid oes angen gweithredu’n syth.
  • Darparu cymaint o fanylion a thystiolaeth benodol ag sydd modd. Mae hyn yn fwyaf tebygol o arwain at rannu dealltwriaeth rhwng y sawl sy’n cymryd yr adroddiad a’r sawl sy’n ei lunio am yr union bryder.
Esiampl: ‘Mae Cai yn chwe blwydd oed ac yn dod i’r ysgol bob bore yn cwyno ei fod yn newynog. Mae’n bwyta beth fedr yn yr ysgol’.

Mae hyn yn rhoi trosolwg cyffredinol ond nid yw’n rhoi syniad o natur a difrifoldeb y newyn. Mae’n bwysig bod yn fanwl, fel yr isod;

‘Mae Cai yn cyrraedd yn y bore ac yn syth yn gofyn beth sydd i ginio. Mae’n dweud yn gyson wrth yr athrawes ei fod eisiau bwyd ac nad yw wedi bwyta ers iddo gael ei ginio ysgol ddoe. Rydym wedi ei weld adeg amser chwarae’r bore yn mynd trwy focsys bwyd y plant ac yn cymryd eu byrbrydau. Amser cinio, nid yn unig y mae’n bwyta ei ginio ond yn gofyn am fwy ac yna’n ceisio bwyta beth sydd dros ben ar blatiau’r plant eraill’.
  • Byddwch yn ymwybodol nad yw adroddiadau yn digwydd mewn gwactod. Byddwch yn onest ac adfyfyrio ar y ffactorau a all fod yn dylanwadu ar y modd mae’r adroddiad wedi ei eirio. Er enghraifft:
    • gall y sawl sy’n llunio’r adroddiad boeni yr effeithir ar eu perthynas â’r unigolyn a’i deulu a pheidio â phwysleisio cymaint am eu pryderon, gan roi mwy o bwyslais ar bethau cadarnhaol;
    • gallant fod yn bryderus ynghylch gadael sefyllfa dros y penwythnos a gor-bwysleisio pryderon a bychanu pethau cadarnhaol;
    • gallant bryderu am gwrdd â meini prawf trothwy yr asiantaeth a phoeni mwy am hynny nac am nodi anghenion yr unigolyn.(Gweler: Munro, Effective Child Protection 2008). Gall unrhyw rai o’r ffactorau hyn arwain at or/danbwysleisio’r perygl o niwed.
  • Dogfennwch yr holl faterion sy’n peri pryder; trafodaethau a gynhaliwyd, gan enwi’r sawl oedd yn y drafodaeth a’r canlyniad a’r cyswllt gyda’r unigolyn mewn perygl, ei deulu a gofalwyr.
  • Canfod a yw asesiad help cynnar ar gael ar gyfer unrhyw blentyn/blant yn y teulu.