Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Arwyddion o Gamdriniaeth, Esgeulustod a Niwed Posib mewn Plentyn

Gall camdriniaeth ac esgeulustod fod yn ganlyniad i ddigwyddiad penodol neu gamdriniaeth ac esgeulustod cyson sydd yn cael effaith gynyddol negyddol ar iechyd neu les y plentyn neu’r person ifanc ac a all arwain at ddeilliannau negyddol pan fydd yn oedolyn. Gall y gamdriniaeth ddeillio o un broblem megis camddefnyddio cyffuriau neu alcohol gan y rhieni, neu gasgliad o amgylchiadau a straen teuluol, megis rhiant sengl, trais domestig, ynysu cymdeithasol ac amddifadedd.

Dylai ymarferwyr gofio fod asesu niwed yn fwy na dim ond rhestru’r ffactorau risg sydd yn cronni a rhagdybio, po hwyaf y rhestr, mwyaf tebygol fydd lefel y niwed. Y dasg yn hytrach yw nodi sut y mae’r ffactorau risg hyn yn dod ynghyd ac yn cael effaith ar fagu plant ac iechyd a lles y plentyn.

Mae (links) Tabl 2** isod yn rhoi disgrifiadau o’r gamdriniaeth, esgeulustod a niwed a all arwain at i blentyn fod mewn perygl.

Mae’n bwysig nodi NAD rhestrau cyflawn mo’r rhain. Fe’u darperir yn hytrach i gynnig awgrymiadau i ymarferwyr a all dynnu eu sylw at gamdriniaeth neu esgeulustod posib mewn oedolyn neu blentyn.

Cam-drin corfforol

Cam-drin Rhywiol

Neglect

Emotional Abuse and Neglect


(Arwyddion posib a gymerwyd o: https://www.nice.org.uk/guidance/CG89/chapter/1-Guidance#physical-features Disgrifiadau: NSPCC, Horwath 2007 a 2013) (Cyrchwyd 29/7/2019)