Fel y disgrifiwyd uchod yn Awgrymiadau Ymarfer: Rheoli Ymateb Cychwynnol Rhieni i Adroddiad dan Ddeddf Plant 1989 gallai rhieni ymateb mewn ffyrdd gwahanol pan gânt wybod am ymholiadau a47. Gall yr ymatebion cychwynnol yna barhau drwy gydol yr asesiad. Dylai ymarferwyr sydd yn dod ar draws ymddygiad elyniaethus a bygythiol ystyried sut y maent yn ymateb i hyn oherwydd y gall fod yn llurgunio’r ymholiadau ac yn tynnu sylw oddi ar y plentyn a’i anghenion. Ar ben hynny, mae’r teulu yn derbyn negeseuon penodol os nad yw’r ymarferydd / asiantaeth yn eu herio nhw.
Ceir sawl ymateb gwahanol gan ymarferwyr pan ddônt ar draws gwrthwynebiad a gwrthdaro sy’n cynnwys:
Cydgynllwynio â’r rhieni drwy osgoi gwrthdaro
- Osgoi cyswllt personol (ymweliadau cartref);
- Defnyddio dulliau cyswllt hyd braich (e.e. cyswllt ffôn neu e-bost yn hytrach nag ymweliadau i weld y plentyn;
- Derbyn fersiwn y rhiant o ddigwyddiadau’n ddi-gwestiwn yn absenoldeb tystiolaeth wrthrychol;
- Canolbwyntio ar faterion llai dadleuol megis budd-daliadau / tai;
- Osgoi gofyn i gael edrych o amgylch y tŷ, peidio edrych i weld faint o fwyd sydd ar gael, peidio archwilio amodau cysgu’r plentyn, ayb;
- Canolbwyntio ar anghenion y rhiant, nid y plentyn;
- Peidio gofyn i gael gweld y plentyn ar ei ben ei hun.
Newid ymddygiad er mwyn osgoi gwrthdaro
- Hidlo neu leihau pwysigrwydd gwybodaeth negyddol;
- Neu fel arall, rhoi gormod o bwys ar wybodaeth gadarnhaol (y ‘rheol optimistiaeth’) a dim ond chwilio am wybodaeth gadarnhaol;
- Ofni herio aelodau teulu ynghylch eu pryderon;
- Cadw’n dawel am bryderon a pheidio rhannu gwybodaeth am risgiau ac asesu gydag eraill yn y rhwydwaith rhyng-asiantaeth neu â rheolwyr.
Dylai pob ymarferydd yn y mathau hyn o asesiadau holi eu hunain os ydynt:
- Yn teimlo rhyddhad pan nad oes ateb wrth y drws;
- Yn teimlo rhyddhad pan ânt nôl allan drwy’r drws;
- Yn dweud, gofyn a gwneud yr hyn fyddent fel rheol yn ei wneud, gofyn a gwneud wrth ymweld neu wneud asesiad;
- Wedi nodi a gweld y bobl allweddol;
- Wedi gweld tystiolaeth o eraill a allai fod yn byw yn y tŷ;
- Mewn achosion o oedolion ag anghenion helaeth (e.e. cam-drin domestig, iechyd meddwl, ayb) Ond yn gweithio gyda’r oedolyn hwnnw (yn hytrach na’r ddau riant hyd yn oed pan fo’r rhiant arall yn gam-driniwr domestig).
Dylai gweithwyr proffesiynol a’u goruchwylwyr holi eu hunain o hyd: beth efallai fyddai teimladau’r plant wrth i’r drws gau ar ôl ymarferydd yn gadael y cartref teuluol?
(mae’r uchod wedi’i addasu o Weithdrefnau Diogelu Llundain www.londoncp.co.uk/, (Cafwyd ar 14/7/2019))