Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Paratoi Adroddiad Gwaith Cymdeithasol ar gyfer y Gynhadledd

Mae’r canlynol yn cynnig canllaw o ran yr hyn y dylid ei gynnwys yn yr adroddiad: Fodd bynnag bydd y ffordd y caiff ei gyflwyno yn dibynnu ar y templed a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol.

Awgrymiadau Ymarfer: Genogram ac ecofap

Rhesymeg dros ymholiad A47

Crynhowch y digwyddiadau diweddar a/neu’r wybodaeth a ddarparwyd, er enghraifft, o fewn yr adroddiad/atgyfeiriad a thrwy gyfrwng ymholiadau cychwynnol, a arweiniodd at benderfyniad i roi proses A47 ar waith.

  • Pwy roddodd pa wybodaeth?
  • Pwy dderbyniodd y wybodaeth hon?
  • Pa wiriadau a wnaed er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn gywir ac a oedd gwybodaeth ychwanegol ar gael?
  • Gan ddefnyddio’r uchod, pa wybodaeth a rannwyd a/neu ddigwyddiadau a ddigwyddodd a barodd i wasanaeth gofal plant ddechrau ar ymholiadau A47 a chynnal cyfarfod strategaeth i sefydlu beth sy’n digwydd i’r plentyn ac a oes angen gweithredu amddiffyniad (cofier mai’r trothwy yw os oes pryder bod plentyn yn dioddef neu yn debygol o ddioddef niwed sylweddol)

Gwybodaeth sy’n dod i law yn y cyfarfod strategaeth sy’n arwain at benderfyniad i fwrw ymlaen gydag ymholiadau a47 a mynd i Gynhadledd

Pa wybodaeth sydd wedi ei rannu yn y cyfarfod strategaeth sy’n golygu bod gweithwyr proffesiynol o’r farn fod digon o reswm i amau bod plentyn yn dioddef, neu yn debygol o ddioddef, niwed sylweddol?

Ystyriwch:

  • Pa wybodaeth yn ymwneud â phrofiad y plentyn hwn a’i deulu yn y gorffennol a nawr sydd wedi arwain at benderfyniad i fwrw ymlaen gydag ymholiadau a47?
  • Beth mae ymarferwyr wedi ei ddysgu hyd yn hyn gan y teulu a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n awgrymu y dylai’r plentyn fod yn destun ymholiadau a47?
  • A oes angen amddiffyn yn syth bin tra bo’r asesiad yn mynd rhagddo? Ar beth y seilir y penderfyniad hwn?
  • Pa gamau a gymerwyd er mwyn sicrhau diogelwch y plentyn yn ystod yr asesiad?

Beth yw meddyliau a theimladau’r rhiant/rhieni a’r plentyn/plant am gynnwys yr adroddiad?

Ystyriwch:

  • Beth yw ymateb aelodau’r teulu i’r asesiad hwn?
  • A yw’r wybodaeth a roddwyd yn gywir?
  • Beth yw barn y rhiant/rhieni a’r plentyn/plant am asesiad yr ymarferwyr?
  • A oes yna bwyntiau penodol y carent eu codi gyda’r cadeirydd cyn y Gynhadledd a/neu yn y Gynhadledd?

Beth sydd ar ôl i ni ei ganfod eto?

Ystyriwch yma wybodaeth ychwanegol am anghenion datblygiadol y plentyn, gallu rhianta a ffactorau am amgylchedd y teulu nad ydynt wedi eu cynnwys yn yr asesiad ond a fyddai’n cynorthwyo ymarferwyr i benderfynu ynglŷn ag anghenion y plentyn, ansawdd y rhianta a ffactorau cymdeithasol ac economaidd sy’n effeithio ar y teulu. Er enghraifft, asesiadau meddygol o’r plentyn/plant a/neu’r rhiant/rhieni; asesiadau trylwyr gan weithwyr proffesiynol megis seiciatryddion, seicolegydd plant; gwybodaeth ychwanegol am allu’r teulu estynedig i gefnogi’r teulu hwn.