Rhannu Cymraeg English

Nodi sefyllfaoedd a allai fod yn rhai camdriniol, a/neu bryderon diogelu sy'n dod i'r amlwg

Adref 1

Wrth nodi pryderon posibl sy'n dod i'r amlwg am gamdriniaeth ac/neu esgeulustod, dylai ymarferwyr ofyn:

  • Beth yw fy mhryder am yr oedolyn a allai, os nad ymdrinnir ag ef, beri iddo ddod yn oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod?
  • Pa wybodaeth sydd gennych i gefnogi'r pryderon hyn?
  • Ydw i'n poeni y gallai ymddygiad y gofalwr/wyr arwain at gamdriniaeth ac esgeulustod?

Dylai ymarferwyr rannu eu pryderon ac unrhyw wybodaeth a gafwyd gyda'u harweinydd diogelu.

Dylent hefyd gofnodi'r pryderon a'r wybodaeth a gafwyd.

Os yw'r pryderon yn ymwneud â gofalwyr yn methu â diwallu anghenion yr oedolyn, yna gwnewch yn siŵr bod y gofalwr yn derbyn asesiad ei hun o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Rhan 3..