Rhannu Cymraeg English

Ceisio cydsyniad i hysbysu

Adref 2

Lles yr oedolyn sy’n wynebu risg yw’r ystyriaeth flaenoriaethol wrth wneud unrhyw benderfyniad ynghylch ceisio cydsyniad cyn hysbysu. Dylai ymarferwyr, fodd bynnag, geisio cydsyniad gan yr oedolyn pan yn bosibl.

Y rheswm am hyn yw ei fod yn fwy tebygol o:

  • arwain at ymgysylltu â’r broses ddiogelu a chanlyniadau effeithio
  • hyrwyddo partneriaeth weithio effeithiol gyda’r oedolyn.

Mae’n bwysig cael oedolion i ymgysylltu â’r broses cyn gynted â phosibl i sicrhau y caiff eu dymuniadau a’u teimladau eu hystyried pan fo’n bosibl ac i osgoi eu gwneud yn ‘destun gofid’ yn unig.

Awgrymiadau Ymarfer: Ceisio cydsyniad i adroddiad

Gwneud hysbysiad heb gydsyniad

Weithiau, yr oedolyn sy’n wynebu risg yw’r unig ffynhonnell o wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd iddo. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd angen i ymarferwyr siarad ag oedolyn heb i ofalwr wybod. Os gwneir penderfyniad i beidio â cheisio cydsyniad, mae’n rhaid cofnodi amgylchiadau sy’n berthnasol i’r penderfyniad hwn. Gallent gynnwys:

  • y posibilrwydd y byddai’n rhoi’r oedolyn mewn rhagor o berygl;
  • y posibilrwydd y byddai oedolyn dan fygythiad neu’n cael ei orfodi i aros yn dawel;
  • tebygrwydd cryf y câi tystiolaeth bwysig ei dinistrio/colli;
  • os enwir gofalwr neu aelod o’r teulu fel camdriniwr honedig;
  • os nad yw’r oedolyn am i’r gofalwr fod yn rhan o’r broses ar y cam hwn;
  • os yw er budd y cyhoedd.

Dylai ymarferwyr drafod a yw’n briodol ceisio cydsyniad gan yr oedolyn gyda person diogelu dynodedig yr asiantaeth. (Gweler y gweithdrefnau lleol am ragor o wybodaeth).

Os, wedi ystyried dymuniadau’r oedolyn, yr ystyrir bod angen gwneud hysbysiad, mae’n bosibl yr eir yn groes i’w ddymuniadau. Yn y sefyllfa hon:

  • mae’n rhaid cofnodi’r rheswm dros fwrw ymlaen heb gydsyniad;
  • dylid rhoi gwybod i’r gwasanaethau cymdeithasol nad yw’r oedolyn wedi rhoi ei ganiatâd;
  • dylai’r atgyfeiriwr roi gwybod i’r oedolyn bod hysbysiad wedi ei wneud er gwaethaf ei ddymuniadau.

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinoln (GDPR) yn rhoi rhagor o reolaeth i unigolion dros eu data personol. Ond nid yw’n rhoi’r hawl iddynt atal asiantaethau rhag rhannu gwybodaeth pan fo pryderon ynghylch oedolyn sy’n wynebu risg. (I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at: y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a’r protocolau perthnasol)

Galluedd oedolion sy’n wynebu risg i gydsynio

Mae cydsyniad yr oedolyn sy’n wynebu risg yn ffactor allweddol o ran penderfynu pa gamau gweithredu i’w cymryd mewn ymateb i bryder neu gyhuddiad. Mae’n bosibl bod oedolion ag anghenion gofal a chymorth yn gallu amddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth, esgeulustod neu gamfanteisio gan eraill ac nid ydynt o reidrwydd yn methu ag amddiffyn eu hunain oherwydd eu hoedran, bregusrwydd neu anabledd.

Mewn rhai amgylchiadau fodd bynnag, gallai anghenion gofal a chymorth yr oedolyn effeithio ar ei allu i amddiffyn ei hun. Gallai’r anghenion hyn effeithio ar i ba raddau y gallant wneud ac arfer dewisiadau ar sail gwybodaeth a heb fod dan bwysau na gorfodaeth.

Gall gallu oedolion i wneud penderfyniadau deallus fod wedi’i effeithio gan eu galluedd meddyliol.

Mae hyn yn disgrifio’r gallu i wneud penderfyniad penodol. Mae hyn yn cynnwys yr angen i:

  • ddeall y wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad;
  • cadw’r wybodaeth yn ddigon hir i wneud y penderfyniad hwnnw;
  • defnyddio neu bwyso a mesur y wybodaeth er mwyn dewis;
  • cyfleu ei benderfyniad (drwy unrhyw ddull, naill ai drwy siarad, iaith arwyddion, neu unrhyw allu arall megis amrantu).

Mae galluedd meddyliol yn benodol i benderfyniad arbennig ar amser penodol. Golyga hyn ei bod yn bosibl bod gan berson y gallu i wneud rhai penderfyniadau ond nid rhai eraill neu gall wneud penderfyniadau ar rai achlysuron ond nid eraill. Er mwyn gwneud penderfyniad, mae’n bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth, megis eiriolaeth, eglurhad syml, cymorth gweledol ac amser ychwanegol. Mae ganddynt hawl gyfreithiol i’r math hwn o gymorth.

Mae gofyn am feirniadaeth broffesiynol dda pan fo oedolyn sy’n wynebu risg yn dioddef, neu mewn perygl o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod a bod ganddo anghenion gofal a chymorth.

Mae’n rhaid ystyried:

  • galluedd meddyliol mewn perthynas â’r 5 egwyddor yn y; Ddeddf Galluedd Meddyliol;
  • y tebygrwydd o orfodaeth;
  • natur ac effaith yr anghenion.

Dylai unrhyw weithred a gyflawnir, neu benderfyniad a wneir ar ran person y penderfynwyd nad oes ganddo’r galluedd i wneud y penderfyniad hwnnw, yn ôl y gyfraith, fod wedi’i wneud er ei “fudd pennaf”. Mae’n bwysig ymgynghori ag eraill i gael eu barn ar beth yw budd pennaf y person.

Dylai unrhyw gamau gweithredu a gymerir fod yn gymesur â’r perygl o gamdriniaeth.

Dylai ymarferwyr gofnodi a cheisio parchu dymuniadau personol yr oedolyn a’i annibyniaeth ond, mewn rhai amgylchiadau, gellir penderfynu’n groes i’r dymuniadau hynny, gan gynnwys:

  • dyletswydd partneriaid perthnasol i hysbysu;
  • os nad yw’r galluedd meddyliol gan yr oedolyn perthnasol i wneud penderfyniadau penodol;
  • os oes risg uchel i iechyd a/neu ddiogelwch yr unigolyn;
  • gallai eraill, gan gynnwys plant, pobl ifanc neu oedolion eraill, fod mewn perygl;
  • os amheuir y cyflawnwyd trosedd yn erbyn yr oedolyn;
  • os yw’r pryderon yn berthnasol i fethiant mewn gofal, torri rheoliad neu god ymddygiad proffesiynol;
  • mae pryder ynghylch camdriniaeth yn y sefydliad neu gyhuddiadau yn erbyn cyflogai neu wirfoddolwr yn y sefydliad.

Awgrymiadau Ymarfer: Asesu Galluedd Meddyliol